Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Socially Responsible Procurement Policy

Nod y Polisi Caffael Cymdeithasol Gyfrifol (1.46mb PDF)​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd yw sicrhau bod y Cyngor yn gwneud y mwyaf o’i fuddion llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol i gymunedau drwy ei wariant caffael blynyddol o £410 miliwn. 

Mae’r Polisi’n nodi ymrwymiad y Cyngor mewn perthynas â’r chwe phrif faes blaenoriaeth canlynol: 

  • Hyfforddiant a Chyflogaeth Leol – creu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant cynhwysol i bobl leol er mwyn lleihau diweithdra a gwella lefel sgiliau ein gweithlu, yn enwedig mewn grwpiau targed megis pobl sydd wedi bod yn ddi-waith am gyfnodau hir. 
  • Rhoi Caerdydd yn Gyntaf – cofnodi effeithiau cymdeithasol ac economaidd prynu’n lleol wrth gomisiynu a chontractio, a gofyn i’n cyflenwr a’n contractwyr i wneud yr un peth.
  • Partneriaid mewn Cymunedau – chwarae rôl actif yn y gymuned leol a chefnogi sefydliadau cymunedol, yn enwedig mewn ardaloedd a chymunedau lle mae’r angen mwyaf.
  • Gwyrdd a Chynaliadwy – amddiffyn yr amgylchedd, lleihau gwastraff, lleihau’r defnydd o ynni a defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon.
  • Cyflogaeth Foesol – defnyddio’r safonau moesol uchaf bosibl wrth ein gwaith a gwaith ein cadwyni cyflenwi.
  • Hyrwyddo Llesiant Pobl Ifanc ac Oedolion sy’n Agored i Niwed – gweithio i gefnogi cymunedau cyfan gan gynnwys busnesau lleol, diogelu a hyrwyddo hawliau plant, pobl ifanc ac oedolion sy’n agored i niwed.

Mae’r Polisi hwn yn rhoi ffocws penodol ar dair menter Llywodraeth Cymru allweddol:


© 2022 Cyngor Caerdydd