Bydd Cyngor Caerdydd yn gwahodd tendrau pan fydd gwerth nwyddau, gwasanaeth neu waith dros £25,000. Pan fydd y gwerth dros £189,330 ar gyfer nwyddau a gwasanaethau, a thros £4,733,252 ar gyfer gwaith, bydd y cyngor yn dilyn Cyfarwyddebau Caffael Cyhoeddus yr UE.
Mae holl gyfleoedd tendro y cyngor i’w gweld ar ein
Porth Caffael. Bydd rhaid i chi gofrestru cyn gallwch ddefnyddio’r porth.
Gellir gweld tendrau sy’n uwch na throthwy UE ar wefan
OJEU (Cyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd) ac ar
GwerthuiGymru.
Calendr Contract a Fframwaith
Mae Cyngor Caerdydd yn cynnal
cofrestr contractau (1.41mb PDF) sy’n cynnwys rhestr o gontractau a fframweithiau presennol y Cyngor, yn cynnwys cytundebau fframwaith a sefydlwyd gan
Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (GCC).
Nod y rhestr hon o gontractau yw cynnig tryloywder a rhoi syniad o pryd y gall contractau presennol fod yn barod i'w hadnewyddu. Mae hefyd yn rhoi syniad i gyflenwyr a chontractwyr presennol a phosibl o amrywiaeth y nwyddau, y gwasanaethau a’r gwaith y mae'r Cyngor yn eu prynu.
Bydd y wybodaeth am bob contract yn cynnwys:
- Categorïau Contract – Pan fo cyflenwyr yn cofrestru ar Proactis gallant ddewis categorïau sy’n berthnasol i’r nwyddau/gwasanaethau/gwaith y maen nhw’n eu cyflenwi er mwyn derbyn hysbysiadau am gyfleoedd sy’n codi.
- Diwrnod dirwyn i ben – y dyddiad y daw’r contract neu’r fframwaith i ben.
- Estyniad – yn dangos a oes cyfle i ymestyn hyd y contract neu fframwaith presennol. Bydd hyn yn adlewyrchu’r hyn a ysgrifennwyd yn yr amodau pan grëwyd y contract.
- Gwerthwyr – rhestr o werthwyr llwyddiannus ar gyfer pob contract neu fframwaith. Mae’r Cyngor yn annog cyflenwyr, yn enwedig Busnesau Bach a Chanolig neu Ficro Fusnesau a sefydliadau’r Trydydd Sector, i gysylltu â gwerthwyr llwyddiannus i weld a oes cyfleoedd is-gontractio/ ail neu drydedd haen ar gael.
Diben y rhestr yw dangos contractau a fframweithiau cyfredol y Cyngor. Nid yw hyn yn gyfystyr â gwarant y bydd yr un nwyddau, gwasanaethau neu weithiau yn cael eu rhoi ar dendr eto ar ôl i’r contract ddirwyn i ben.
Os bydd contractau o’r fath yn cael eu rhoi ar dendr mae’n debygol y bydd y cyfleoedd yn cael eu hysbysebu rhwng 12 a 6 mis cyn y dyddiad dirwyn i ben.
Dylai darpar gyflenwyr gysylltu â’r Cyngor hyd at 6 mis cyn diwedd contract os oes ganddynt ddiddordeb mewn clywed am gyfleoedd posibl a allai godi yn y dyfodol. Mae’r calendr hwn wedi ei gynllunio i helpu cyflenwyr i gynllunio o flaen llaw ac achub ar bob cyfle.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth cysylltu â ni
Cysylltu â ni