Ystyr twyllo yma yw ymdrech gan unigolyn neu sefydliad i’ch camarwain, a'ch cael i roi arian iddynt drwy ddweud celwydd wrthoch.
Os ydych yn dod i gysylltiad â rhywbeth a allai fod yn dwyll yn eich tyb chi, cofiwch y canlynol:
- Stopiwch - Nid aur yw popeth melyn.
- Meddyliwch – O ble daw’r cynnig? Oes gennych chi gyfeiriad?
- Preifatrwydd - Peidiwch â rhoi manylion personol am eich hun na’ch arian
- Arian - Peidiwch byth â thalu ymlaen llaw am rywbeth sy’n addo mwy o arian i chi yn y dyfodol.
Mae’r Heddlu wedi llunio llyfryn sy’n egluro rhai o’r mathau mwyaf cyffredin o dwyll ac yn rhoi cyngor -
Little Book of Big Scams (3.85mb PDF)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd
08454 04 05 06