Fel arfer mae angen chwiliadau pridiannau tir lleol pan fyddwch chi'n prynu eiddo. Cyngor Caerdydd sy'n gyfrifol am y Gofrestr Pridiannau Tir Lleol ac maent yn dal y gofrestr Tir Comin a Lawntiau Pentref.
Gall pridiannau tir lleol gyfyngu ar y ffordd rydych chi'n defnyddio tir ac eiddo. Mae'r pridiannau tir lleol cyffredin yn cynnwys:
- Caniatâd cynllunio
- Cytundebau priffyrdd
- Ardaloedd cadwraeth
- Gorchmynion Cadw Coed
- Adeiladau rhestredig
- Hysbysiadau iechyd amgylcheddol
Fel arfer, byddai eich cyfreithiwr yn trefnu chwiliad pan fyddwch chi'n prynu eiddo neu ddarn o dir.
Mae dau fath o chwiliad:
- Chwiliadau swyddogol awdurdod lleol (LLC1 a CON29)
- Chwiliadau personol
Chwiliadau Swyddogol Awdurdod Lleol
Mae chwiliadau swyddogol awdurdod lleol yn dangos gwybodaeth o'r gofrestr a gwybodaeth ychwanegol sy'n berthnasol i'r eiddo.
Mae dwy ran i'r chwiliadau swyddogol:
Rhan 1: LLC1
Mae hyn yn cynnwys ffioedd y gellir eu cofrestru megis:
- Caniatâd cynllunio amodol
- Gorchmynion Cadw Coed
- Cytundebau cynllunio
- Adeiladau rhestredig
Rhan 2: CON29
Mae hyn yn ymdrin â materion na ellir eu cofrestru megis:
- Hanes cynllunio
- Cynllun ffyrdd
- Gwahanol hysbysiadau sy'n effeithio ar yr eiddo
Sut i wneud cais am Chwiliad Swyddogol Awdurdod Lleol
Bydd angen i chi wneud y taliad i gyfrif banc Cyngor Caerdydd. Rhaid talu pob ffi ymlaen llaw. E-bostiwch eich cais chwiliad, cynllun AO neu gynllun teitl a phrawf o’r taliad i: TaliadauTirLleol@caerdydd.gov.uk. Gwnewch yn siŵr bod modd adnabod yr eiddo yn glir ar y cynllun.
Enw’r cyfrif: Cyngor Caerdydd
Banc: Banc Nat West, 96 Heol-y-Frenhines, Caerdydd CF10 2GR
Cod Didoli: 52 21 06
Rhif Cyfrif: 20408838
Dyfynnwch 'Cyf: 72370 BL101' ar gyfer yr holl daliadau
Bydd yr holl chwiliadau'n cael eu dychwelyd dros e-bost.
Chwiliad Personol
Mae chwiliad personol yn cael ei wneud gan drydydd parti ac nid gan yr Awdurdod Lleol.
Nid ydym yn cymryd cyfrifoldeb am wybodaeth a ddarperir drwy chwiliad personol. Bydd angen i chi ddilysu'r wybodaeth gyda'r gwasanaeth perthnasol.
Sut i wneud cais am chwiliad personol
E-bostiwch eich cais chwilio a chynllun AO neu gynllun teitl ar gyfer pob eiddo at TaliadauTirLleol@caerdydd.gov.uk. Gwnewch yn siŵr bod modd adnabod yr eiddo yn glir ar y cynllun.
Os ydych yn chwilio am leiniau adeiladu newydd sydd wedi bod yn gyfeirnodau stryd, rhaid i'ch cais ddod atom gyda chyfeiriad llawn, nid rhif llain ac enw’r datblygiad.
Asiantau Chwiliadau Personol
Os ydych yn asiant chwiliadau, rhaid i chi anfon rhestr o eiddo atom dros e-bost. Gallwch ond anfon rhestrau atom ddydd Mercher a dydd Gwener. Rhaid derbyn eich rhestr cyn 12pm. Byddwn ond yn derbyn 1 rhestr fesul cwmni’r dydd.
Ffioedd Chwilio
O 15 Mai 2023, rydym yn cynyddu ein ffioedd.
Gallwch chwilio am ffioedd o 1 Ebrill 2021
Ffurflen LLC1 | £6
| Dim TAW | £6
|
Ffurflen CON29 | £99.16
| £19.84
| £119
|
Ffurflen CON29(O) Qs 4-22 | £9
| £1.80 | £10.80 |
Eiddo neu dir ychwanegol | £13
| £2.60 | £15.60 |
Chwiliadau personol
| Am ddim
| Am ddim | Am ddim |
Gallwch chwilio am ffioedd o 15 Mai 2023Ffurflen LLC1 | £6
| Dim TAW | £6
|
Ffurflen CON29 | £103.33
| £20.67
| £124
|
Ffurflen CON29(O) Qs 4-22 | £9
| £1.80 | £10.80 |
Eiddo neu dir ychwanegol | £13
| £2.60 | £15.60 |
Chwiliadau personol
| Am ddim
| Am ddim | Am ddim |
Rydym yn ceisio ymateb i chwiliad ymhen 5 diwrnod gwaith.
Cofrestr Tir Comin a Lawntiau Pentref
Mae’r Gofrestr Tir Comin a Lawntiau Pentref ar gael i'w archwilio am ddim drwy fynd i'r
porth mapio ar-lein.
Draeniau
Am wybodaeth ynglŷn â draenio, cysylltwch â Dŵr Cymru.
Dŵr Cymru
Nelson Road
Treharris
CF46 6LY
Dysgwch sut i gysylltu ar-lein yma:
Gwefan Dŵr Cymru.
Ffôn: 0800 052 0145
Ffyrdd sy’n ffinio â’ch eiddo
Bydd ein hateb chwilio ond yn cyfeirio at y ffordd a enwir yn y cyfeiriad eiddo a roddir ym Mlwch ‘B’ y CON29. Os ydych yn dymuno cael gwybodaeth am unrhyw ffyrdd eraill sy'n ffinio â'ch eiddo bydd angen i chi eu henwi ym Mlwch 'C' a'u marcio'n glir ar eich cynllun chwilio.
Perchenogaeth tir
I ddysgu am berchenogaeth tir bydd angen i chi wneud cais i:
Cofrestrfa Tir EF, (Abertawe)
BLWCH SP 75
Caerloyw
GL14 9BD
Gallwch wneud cais ar-lein yma:
Gwefan y Gofrestrfa Tir.
Ffôn: 0844 892 1111