Ym mis Ebrill 2022 cyhoeddodd Llywodraeth y DU fanylion am y Gronfa Ffyniant Gyffredin newydd gwerth £2.6 biliwn. Dyrennir y cyllid i leoedd ledled y DU ar sail anghenion, mae manylion am y dyraniadau ar gael ar wefan Llywodraeth y DU.
Bydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig (CFfGDU) yn cefnogi amcanion Codi’r Gwastad llywodraeth y DU, sef:
- Hybu cynhyrchiant, cyflog, swyddi a safonau byw drwy dyfu'r sector preifat, yn enwedig yn y mannau hynny lle maent ar ei hôl hi
-
Lledaenu cyfleoedd a gwella gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig yn y mannau hynny lle mae’r rhai gwannaf
-
Adfer ymdeimlad o gymuned, balchder a pherthyn yn lleol, yn enwedig yn y mannau hynny lle maen nhw wedi eu colli
-
Grymuso arweinwyr a chymunedau lleol, yn enwedig yn y lleoedd hynny sydd heb asiantaeth leol
I wneud hyn mae ganddi dair blaenoriaeth ac amcan buddsoddi:
Cymuned a Lle
- Cryfhau ein ffabrig cymdeithasol
- Seilwaith cymunedol
- Mannau gwyrdd lleol
- Prosiectau wedi’u harwain gan gymunedau
- Creu cymdogaethau gwydn, diogel ac iach
Cefnogi Busnesau Lleol
-
Creu swyddi a hybu cydlyniant cymunedol
- Hyrwyddo rhwydweithio a chydweithio
- Cynyddu buddsoddiad gan y sector preifat mewn gweithgareddau sy'n peri twf
Pobl a Sgiliau
- Rhoi hwb i sgiliau craidd a chefnogi oedolion i wneud cynnydd yn eu gwaith
- Lleihau lefelau anweithgarwch economaidd drwy fuddsoddi mewn cymorth bywyd a chyflogaeth dwys pwrpasol
- Cefnogi’r bobl sydd bellaf o'r farchnad lafur i oresgyn rhwystrau
- Cefnogi ardaloedd lleol i ariannu bylchau yn y ddarpariaeth sgiliau leol i gefnogi pobl i symud ymlaen yn y byd gwaith, ac ategu'r ddarpariaeth sgiliau leol i oedolion.
Sut y bydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn gweithredu ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd?
Mae Llywodraeth y DU wedi dyrannu £278m ar draws deg awdurdod lleol De-ddwyrain Cymru.
Er mwyn rhyddhau’r cyllid, mae angen i lywodraeth y DU gymeradwyo Cynllun Buddsoddi yn gyntaf.
Yng Nghymru, caiff y cynlluniau hyn eu datblygu ar sail ranbarthol, sy'n golygu, ar gyfer De-ddwyrain Cymru, fod angen datblygu cynllun ar gyfer ôl troed Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Er mwyn gwneud hyn, bydd awdurdodau lleol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn nodi awdurdod arweiniol i ddod â’r cynllun at ei gilydd.
Amlinelliad y cynllun
Cyd-destun lleol: dangos tystiolaeth o gyfleoedd a heriau yng nghyd-destun y tair blaenoriaeth fuddsoddi ar gyfer CFfGDU
Dewis o ganlyniadau ac ymyriadau: nodi'r canlyniadau i'w targedu ar sail cyd-destun lleol, a'r ymyriadau i'w blaenoriaethu, o dan bob blaenoriaeth buddsoddi.
Cyflawni, gan fanylu’r:
-
Dull o gyflawni a llywodraethu
- Gwariant a'r hyn y gellir ei gyflawni
- Gallu ac adnoddau
Beth sy’n dylanwadu ar y Cynllun Buddsoddi?
Mae'r Cynllun Buddsoddi yn gofyn am nodi cyfleoedd a heriau lleol sy'n ymwneud â thair blaenoriaeth fuddsoddi'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, ac yna nodi'r canlyniadau a'r ymyriadau sy'n mynd i'r afael â'r heriau hynny orau.
Felly, byddem yn annog unrhyw bartneriaid i gyflwyno tystiolaeth i gefnogi'r gwaith o ddatblygu'r cynllun sy’n ymwneud yn benodol â'r materion a nodir isod:
Cyfleoedd a heriau
- Tystiolaeth o'r angen am gymorth sy'n ymwneud â thair blaenoriaeth CFfGDU
-
Meysydd cyfle sy'n ymwneud â thair blaenoriaeth CFfGDU
Canlyniadau
- Pa ganlyniadau ddylai fod yn ganolbwynt i CFfGDU ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd?
- Sut olwg fyddai ar lwyddiant ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd?
Ymyriadau
- Pa ymyriadau a nodwyd yn CFfGDU ar gyfer Cymru y dylid rhoi blaenoriaeth iddynt?
- Pa fathau o brosiectau y dylid eu cefnogi?
Nodwch: Nid oes angen cyflwyniadau neu gynigion ar gyfer prosiectau ar hyn o bryd, ond gellir defnyddio awgrymiadau o'r mathau o brosiectau y gellid eu cefnogi i helpu i lywio'r Cynllun Buddsoddi.
Beth mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn ei golygu i gymunedau, trigolion a sefydliadau lleol?
Datblygu'r Cynllun Buddsoddi yw dechrau’r broses ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Yn y cyfnod rhwng cyflwyno a chymeradwyo, bydd yr awdurdod arweiniol yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i roi rhagor o fanylion am sut y caiff y gronfa ei gweinyddu ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Yn ystod y cyfnod hwn, byddwn yn gweithio gyda phartneriaid lleol i ystyried cam cyflawni'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Rhaid pwysleisio mai ardaloedd lleol sy'n gyfrifol am gyflawni ar lefel leol.
Bydd cryn ymgysylltu â chymunedau a rhanddeiliaid ar y cynlluniau cyflawni lleol hynny.