Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cronfa Cadeirnid Economaidd - Nodiadau Cyfarwyddyd

​Mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod pecyn pellach o gymorth busnes ar gael drwy'r Gronfa Cadernid Economaidd (ERF). Bydd y Gronfa yn darparu cymorth ar ffurf grantiau arian parod i fusnesau, mentrau cymdeithasol ac elusennau a busnesau cadwyn gyflenwi cysylltiedig sydd naill ai wedi profi / a fydd yn parhau i gael effaith negyddol sylweddol oherwydd cyfyngiadau parhaus Covid-19. 

Bydd y grantiau'n helpu i dalu costau gweithredu (ac eithrio cyflogau staff) ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Gorfennaf 2021 a 31 Awst 2021, a effeithiwyd yn uniongyrchol gan y cyfyngiadau oedd ar waith o ddechrau'r cyfnod.

Yn benodol, bydd y Gronfa yn cefnogi busnesau sydd naill ai:
a) Wedi gorfod aros ar gau neu’n methu â masnachu oherwydd y cyfyngiadau parhaus rhwng 1 Gorffennaf 2021 a 31 Awst 2021
b) Yn Ofod Digwyddiadau unigryw ac atyniadau wedi’u heffeithio'n ddifrifol gan reoliadau ymbellhau cymdeithasol parhaus
c) Busnesau eraill sydd ag >60% o effaith ar drosiant o ganlyniad uniongyrchol i gyfyngiadau parhaus ers 1 Mai ac nad oeddent yn gallu agor dan do cyn 17 Mai 2021
d) Yn fusnes cadwyn gyflenwi sy'n cynhyrchu 60% neu fwy o'i refeniw gwerthu gan fusnesau sy'n perthyn i gategorïau a), b) a/neu c)
AC (mae hyn yn berthnasol i bob un o’r uchod):
Wedi cael eu heffeithio yn negyddol sylweddol drwy lai o drosiant o 60% neu fwy ym mis Gorffennaf ac Awst 2021 o'i gymharu â mis Gorffennaf a mis Awst 2019 a achoswyd yn uniongyrchol gan gyfyngiadau parhaus COVID-19..  

Bydd y grant yn agored i geisiadau o'r wythnos sy'n dechrau ar 26 Gorfennaf a bydd ar agor am 2 wythnos.

Gweinyddir y Gronfa mewn dwy ran; bydd cymorth i fusnesau â throsiant yn fwy na £85,000 yn cael ei ddarparu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru; bydd cymorth i fusnesau â throsiant o lai na £85,000 yn cael ei weinyddu gan awdurdodau lleol. Dylai lefelau trosiant fod ar gyfer blwyddyn fasnachu arferol neu'n amcangyfrif os dechreuodd y busnes ar ôl mis Mawrth 2020.

Mae'r Canllawiau hyn yn ymwneud â'r cymorth i fusnesau sydd â throsiant o lai na £85,000 a weinyddir gan Awdurdodau Lleol.

Busnes Cymru​


Mae Busnes Cymru yn darparu cymorth wedi’i deilwra i fusnesau newydd, microfusnesau a busnesau bach a chanolig yng Nghymru.  Gall y gwasanaeth eich helpu i ddeall eich anghenion a darparu pecynnau cymorth wedi eu teilwra, gan gynnwys mynediad at offerynnau ar-lein, gweithdai, cynghorwyr arbenigol a mentoriaid. Yn ogystal â gweithio gyda chi i lunio diagnostig busnes a chynllun gweithredu, gall ein cynghorwyr hefyd ddarparu cyngor ariannol wedi’i dargedu a chael mynediad at gymorth arall a allai fod o fudd i chi. 


Pwy Sy'n Gallu Gwneud Cais? ​​​​


Gall busnesau sy'n bodloni'r meini prawf canlynol fod yn gymwys am grant:

  • Roedd y busnes yn masnachu cyn 4 Rhagfyr 2020
  • Rhaid bod y busnes yn gweithredu yng Nghymru
  • Rhaid i fusnesau fod ag o leiaf un o’r canlynol 
  • Cyfeirnod Unigryw Trethdalwr (UTR) gan CThEM
  • Rhif Cofrestru TAW neu Dystysgrif Eithrio o TAW (os yw’n berthnasol)
  • Rhif Cofrestru’r Cwmni (os yw’n berthnasol)
  • Rhif trwydded cerbyd hacni neu rif trwydded minicab preifat (os yw'n berthnasol)
  • Rhaid i fusnesau fodloni un o’r amodau canlynol :
  • Mae’r Wedi gorfod aros ar gau neu’n methu â masnachu oherwydd y cyfyngiadau parhaus rhwng 1 Gorffennaf 2021 a 31 Awst 2021 ac wedi profi gostyngiad o >60% mewn trosiant yn y cyfnod hwn, o ganlyniad uniongyrchol i'r cyfyngiadau a gyflwynwyd yng Nghymru ac a estynnwyd wedyn, neu
  • Yn Ofod Digwyddiadau unigryw ac atyniadau wedi’u heffeithio'n ddifrifol gan reoliadau ymbellhau cymdeithasol parhaus ac mae wedi gweld gostyngiad mewn trosiant o >60% yn y cyfnod hwn, o ganlyniad uniongyrchol i'r cyfyngiadau a gyflwynwyd yng Nghymru ac a estynnwyd wedyn, neu
  • Busnesau eraill sydd ag >60% o effaith ar drosiant o ganlyniad uniongyrchol i gyfyngiadau parhaus ers 1 Mai ac nad oeddent yn gallu agor dan do cyn 17 Mai neu
  • Mae'n fusnes cadwyn gyflenwi sy'n cynhyrchu 60% neu fwy o'i refeniw gwerthu gan fusnesau sy'n perthyn i'r 3 chategori uchod ac mae wedi gweld gostyngiad o >60% mewn trosiant yn y cyfnod
  • Cwmni cyfyngedig â throsiant o rhwng £10,000 ac £85,000
  • Unig fasnachwyr / partneriaethau â throsiant sy'n llai na £85,000
  • Rhaid i'r busnes gyflogi o leiaf 1 FTE (gall hyn gynnwys y perchennog)
  • ​Rhaid mai'r busnes yw eich prif ffynhonnell incwm (>50%)
  • Rhaid i fusnesau sy’n derbyn cymorth geisio cadw eu cyflogeion am 12 mis
  • Dim ond un cais fesul busnes (os oes sawl safle dan 1 busnes, yna dylid eu cyfuno'n un cais)
  • Dylai busnesau fod wedi bod yn masnachu hyd at 4 Rhagfyr pan ddaeth y cyfyngiadau newydd i rym yng Nghymru - efallai y bydd angen darparu tystiolaeth i ddangos hyn
  • Ni all cyfanswm grantiau cymorth Covid-19  (gan gynnwys unrhyw ddyfarniad pellach drwy'r gronfa ddewisol hon) fod yn fwy nag 80% o drosiant ymgeisydd am flwyddyn fasnachu nodweddiadol.


Faint Allwch Chi Wneud Cais Amdano?​​​


Mae grant ar gael i gynorthwyo busnesau sy'n seiliedig ar nifer y staff Cyfwerth ag Amser Llawn (FTE) a gyflogir ganddynt o 1 Mai 2021:




Swydd cyfwerth ag amser llawn (FTE) – Dyma nifer y swyddi llawn amser yn eich sefydliad. Mae swydd amser llawn yn un 30 awr neu fwy yr wythnos; mae swydd ran-amser yn un 15 awr yr wythnos o leiaf; mae dwy swydd ran-amser yn cyfrif fel un swydd gyfwerth ag amser llawn. Nid ydym yn derbyn contractau dim oriau fel swyddi parhaol cymwys.

*Gall y ffigur FTE gynnwys y perchnogion a all fod yn tynnu arian etc, fodd bynnag, rhaid i unrhyw gyflogeion gael eu talu drwy TWE.

I gyfrifo cyfanswm y swyddi FTE, rhannwch nifer y cyflogeion rhan-amser â 2 ac adio at nifer y gweithwyr llawn amser. Os yw'r swydd yn llai na 15 awr yr wythnos dylech gyfuno swyddi lluosog i wneud 30 fel un FTE. Dylid trin swyddi tymhorol fel staff gydol y flwyddyn cyn belled â'u bod yn cael eu cyflogi'n flynyddol.

Enghraifft: 

4 gweithiwr rhan-amser = 2 wedi'u hadio at 1 gweithiwr amser llawn yn gwneud 3 gweithiwr FTE.

Nid ydych yn gymwys i gael y grant hwn:
Os yw’r busnes yn cynhyrchu llai na 50% o'ch incwm os ydych chi'n unig fasnachwr neu’n bartneriaeth. Rhaid mai'r busnes yw eich prif ffynhonnell incwm.
Os nad yw eich trosiant wedi gostwng o leiaf 60% o'i gymharu â'r cyfnod Gorfennaf / Awst yn 2019 neu gyfnod masnachu cyfatebol os sefydlwyd y busnes ar ôl y dyddiad hwnnw.
Os ydych wedi cael cymorth gan y Gronfa Adferiad Diwylliannol - Cymorth i Weithwyr Llawrydd (a lansiwyd ar 17 Mai 2021).
Os ydych chi wedi derbyn cyllid tuag at gostau ar gyfer yr un cyfnod o gronfeydd fel "Cronfa Cymru Egnïol" neu'r "Gronfa Cadernid Cymunedau”.


Bydd pob cais yn cael ei ystyried yn unigol, a’r Awdurdod Lleol fydd â’r disgresiwn llwyr i dalu’r grant – yn unol â’r meini prawf a amlinellir yn y canllawiau hyn.

Sut I Wneud Cais​


Gall busnesau wneud cais am y grant drwy fynd i wefan eu Hawdurdod Lleol. Os ydych chi'n gymwys, gallwch agor ffurflen gais ar-lein, llenwi pob maes gofynnol a chyflwyno’ch cais. Mae pob maes yn orfodol - bydd methu â’u cwblhau yn golygu y bydd eich cais yn cael ei wrthod.


Mae gan yr Awdurdod Lleol ddisgresiwn llwyr i bennu hyd a thelerau’r gronfa.

Canllawiau Cwblhau’r Ffurflen​​


ADRAN 1 – Eich manylion personol​

Mae’r adran hon yn gofyn am wybodaeth amdanoch chi, yr ymgeisydd / perchennog y busnes.

Adran 2 – Gwybodaeth am eich busnes​

Mae’r adran hon yn gofyn am wybodaeth am eich busnes. Gwnewch yn siŵr bod yr holl fanylion yn gywir ac yn gyflawn. Ni fydd ffurflenni sy’n cynnwys data anghyflawn neu anghywir yn cael eu prosesu.

Ni fydd busnesau’n gymwys i dderbyn y grant os yw un o’r categorïau canlynol yn berthnasol:

Gorfodwyd i gau ar ôl torri rheolau cadw pellter cymdeithasol. Fodd bynnag, os cyflwynwyd gwelliannau a bod y busnes wedi ailagor yna mae'n bosibl y gall fod yn gymwys i gael y grant (yn amodol ar fodloni'r meini prawf cymhwysedd)
Busnesau a ddewisodd gau ond nad yw’n ofynnol iddynt wneud hynny
Naill ai wedi'i ddiddymu neu yn y broses o gael ei ddileu
Wedi croesi'r trothwy cymhorthdal 
Os nad y busnes rydych chi'n gwneud cais ar ei ran yw eich prif ffynhonnell incwm

Adran 3 - Effaith y cyfyngiadau symud ar eich busnes​​

Cadarnhewch neu fel arall os yw'r datganiad ar y ffurflen gais yn berthnasol i'ch busnes. Efallai y bydd awdurdod lleol yn gofyn am ragor o wybodaeth/dogfennau i ddangos tystiolaeth o'r gostyngiad amcangyfrifedig hwn mewn trosiant. Hefyd yn yr adran hon, soniwch sut mae/fydd y cyfyngiadau diweddaraf a gyflwynwyd yn ystod mis Rhagfyr yn effeithio'n uniongyrchol ar eich busnes yn y cyfnod rhwng 1 Gorfennaf 2021 a 31 Awst 2021.

Adran 4 – Manylion Banc​​

Rhowch fanylion eich cyfrif banc busnes gan y bydd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i wneud y taliad grant i chi – gwnewch yn siŵr bod y manylion hyn yn gywir. 
Gallai'r awdurdod lleol ofyn am eich cyfriflenni banc diweddaraf a gwybodaeth bellach i gadarnhau eich manylion banc ac i weld tystiolaeth o’r gweithgarwch masnachu.

Adran 5 – Rheoli Cymorthdaliadau​​


Os dyfernir grant 'Symiau bach o gymorth ariannol' i chi, rhaid i chi sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio yn gydnaws â'r cytundebau perthnasol a geir yn rheolau Sefydliad Masnach y Byd, Cytundeb Masnach a Chydweithredu'r DU-UE, unrhyw Gytundeb Masnach Rydd sy'n cynnwys y DU, Protocol Gogledd Iwerddon ac unrhyw ddeddfwriaeth ddomestig.

Fel rhan o'ch cais, rhaid i chi ddatgan a ydych wedi derbyn unrhyw gymorth de minimis gan yr UE neu gymhorthdal 'Symiau bach o gymorth ariannol' (fel y'i diffinnir yn Erthygl 364 paragraff 4 o Gytundeb Masnach a Chydweithredu'r DU-UE) yn ystod y 3 blynedd ariannol flaenorol (h.y. y flwyddyn ariannol gyfredol a'r ddwy flynedd ariannol flaenorol) ynghyd â'r swm a dderbyniwyd a manylion y corff dyfarnu.

Gallai enghreifftiau gynnwys y Gronfa Cadernid Economaidd, y Grant Cychwyn Busnes, Grantiau Ardrethi Annomestig ond nid y Cynllun Cadw Swyddi na'r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig (os nad ydych chi'n siŵr, rhowch y cymorth ar y rhestr).

Adran 6 – Datganiadau​​

Darllenwch y datganiadau a thiciwch y blychau i gadarnhau eich bod yn eu deall ac yn eu derbyn.

Mae’n bwysig iawn eich bod wedi darllen a deall y ddogfen ganllawiau hon.  

Y Gronfa Cadernid Economaidd - Beth Sy’n Digwydd Ar Ôl I’r Cais Gael Ei Dderbyn?​​​


Byddwn yn cydnabod derbyn eich cais o fewn 10 diwrnod gwaith. 

Gwneir penderfyniadau ynghylch ceisiadau ar sail y wybodaeth a roddir yn y ffurflen gais, y dystiolaeth gysylltiedig a gwybodaeth o wiriadau a gynhelir ar ffynonellau data busnes arall. Os rhoddir data anghyflawn neu anghywir, neu os yw’r dystiolaeth a ddarperir yn annigonol, ni fyddwn yn prosesu’r ffurflen a gwrthodir y cais.

Ein nod yw prosesu ceisiadau grant o fewn 30 diwrnod ar ôl derbyn yr holl dystiolaeth/wybodaeth ategol.

Bydd 100% o’r grant yn cael ei dalu ymlaen llaw.

Os nad yw eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn e-bost yn amlinellu’r rheswm/rhesymau dros wrthod eich cais. Nid oes proses apelio. 

Ad-Dalu'r Grant​

Cofiwch y gallai'r Awdurdod Lleol ofyn i chi ad-dalu’r grant yn llawn neu’n rhannol os daw tystiolaeth i’r amlwg i ddangos nad oedd yr ymgeisydd yn gymwys ar gyfer y Gronfa Cadernid Economaidd. 


​​

© 2022 Cyngor Caerdydd