Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio'r Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Symud i gefnogi busnesau ac unig fasnachwyr sydd wedi cael eu heffeithio yn uniongyrchol gan y cyfyngiadau ychwanegol o roddwyd ar waith i reoli lledaeniad COVID-19 gan ddechrau ddydd Gwener 4 Rhagfyr.
Pwrpas y grant yw i gefnogi busnesau gyda cymorth llif arian i'w helpu i oroesi canlyniadau economaidd y cyfyngiadau a gyflwynwyd. Mae'r grant yn ceisio ategu mesurau ymateb COVID-19 eraill i gefnogi busnesau, mentrau cymdeithasol a sefydliadau elusennol yng Nghymru.
Grant Ardrethi Annomestig y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Symud (Busnesau Lletygarwch yn unig)
Grant A:
Taliad grant arian parod o £3,000 ar gyfer busnesau lletygarwch neu sefydliadau lletygarwch nid-er-elw a busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol gyda hereditamentau sy’n gymwys i dderbyn Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach.
Grant B:
Taliad grant arian parod o £5,000 ar gyfer busnesau lletygarwch neu sefydliadau lletygarwch nid-er-elw a busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol sy’n meddiannu hereditamentau sydd â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £51,000.
Grant C:
Taliad grant arian parod o £5,000 ar gyfer busnesau lletygarwch neu sefydliadau lletygarwch nid-er-elw a busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol sy’n meddiannu hereditamentau sydd â gwerth ardrethol o rhwng £51,001 a £150,000.
Bydd y grantiau ar gael i fusnesau lletygarwch, twristiaeth a hamdden a’u cadwyni cyflawni a busnesau manwerthu sydd ag eiddo cymwys a all ddangos (ar sail hunanddatganedig) ostyngiad o fwy na 40% mewn trosiant o ganlyniad uniongyrchol i’r cyfyngiadau newydd
Grant Dewisol y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Symud
Mae grant dewisol o £2,000 ar gael i gynorthwyo busnesau sydd:
-
wedi'u gorfodi neu dan ofyniad i gau o ganlyniad i'r cyfyngiadau cenedlaethol a roddwyd ar waith
neu
- yn amcangyfrif y bydd y cyfyngiadau diweddaraf sydd ar waith yn arwain at ostyngiad o 40% o leiaf yn eu trosiant yn ystod Rhagfyr 2020 i Ionawr 2021 o'i gymharu â mis Rhagfyr 2019 i fis Ionawr 2020 (neu drosiant mis Medi 2020 os nad oeddent yn masnachu ym mis Rhagfyr 2019)
Ni all busnesau wneud cais am y ddau grant.