Y Gronfa i fusnesau dan Gyfyngiadau symud
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio'r Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Symud i gefnogi busnesau ac unig fasnachwyr sydd wedi cael eu heffeithio yn uniongyrchol gan y cyfyngiadau ychwanegol o roddwyd ar waith i reoli lledaeniad COVID-19 gan ddechrau ddydd Gwener 4 Rhagfyr.
Pwrpas y grant yw i gefnogi busnesau gyda cymorth llif arian i'w helpu i oroesi canlyniadau economaidd y cyfyngiadau a gyflwynwyd. Mae'r grant yn ceisio ategu mesurau ymateb COVID-19 eraill i gefnogi busnesau, mentrau cymdeithasol a sefydliadau elusennol yng Nghymru.
Gweld manylion am y gronfa a gwneud cais am grantSut i Ad-dalu Gostyngiadau Ardrethi Busnes Covid-19
Os ydych wedi cael egwyl 1 flwyddyn rhag Artrethi Busnes oherwydd Covid-19 ond eich bod am ad-dalu’r arian ewch i wefan Gov.ukDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd
Cynllun Kickstart
Gallwch ddefnyddio'r Cynllun Kickstart i greu lleoliadau swyddi 6 mis newydd i bobl ifanc sydd ar Gredyd Cynhwysol ar hyn o bryd ac sydd mewn perygl o ddiweithdra hirdymor.
Dylai'r lleoliadau gwaith gefnogi'r cyfranogwyr i ddatblygu'r sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnynt i ddod o hyd i waith ar gwblhau'r cynllun.
Mae cyllid ar gael ar gyfer:
- 100% o'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol perthnasol am 25 awr yr wythnos
- Cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwr cysylltiedig
- Cyfraniadau cofrestru awtomatig gofynnol cyflogwr
Mwy o wybodaeth am Gynllun KickstartDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd
Cynllun Cadw Swyddi
Gall holl gyflogwyr y DU gael cymorth i barhau i dalu rhan o gyflogau'r cyflogeion a fyddai fel arall wedi eu diswyddo yn ystod yr argyfwng hwn. I gael rhagor o wybodaeth
darllenwch ganllawiau GOV.UK ynghylch y Cynllun Cadw Swyddi CoronafeirwsDolen yn agor mewn ffenestr newydd.
Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes Coronafeirws
Cymorth i BBaChau gyda throsiant hyd at £45 miliwn i gael cyfalaf gweithio (gan gynnwys benthyciadau, gorddrafftiau, cyllid anfonebau a chyllid asedau) gwerth hyd at £5 miliwn ac am hyd at 6 blynedd. Dysgwch fwy am
gynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil CoronafeirwsDolen yn agor mewn ffenestr newydd.
Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth
Bydd y cynllun hwn yn caniatáu i chi hawlio grant trethadwy gwerth 80% o'ch elw masnachu hyd at uchafswm o £2,500 y mis am y 3 mis nesaf. Bydd modd ymestyn hyn os oes angen. I gael rhagor o wybodaeth,
darllenwch ganllawiau GOV.UK ynghylch y Cynllun Cymorth Incwm Hunan-gyflogaethDolen yn agor mewn ffenestr newydd.
Caiff taliadau Treth Incwm sy'n ddyledus ym mis Gorffennaf 2020 dan y System Hunanasesu eu gohirio tan fis Ionawr 2021. Mae hwn yn gynnig awtomatig ac nid oes angen unrhyw geisiadau. Ni fydd unrhyw gosbau na llog am dalu'n hwyr yn cael eu codi yn y cyfnod gohirio.
Gohirio Taliadau TAW
Cynorthwyir busnesau drwy ohirio taliadau Treth ar Werth (TAW) am 3 mis. Bydd y gohiriad yn gymwys o 20 Mawrth 2020 tan 30 Mehefin 2020. Darllenwch ganllawiau GOV.UK ynghylch gohirio taliadau TAW oherwydd coronafeirwsDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd.
Arian brys ar gyfer teledu a digidol
Cronfa Datblygu Teledu Brys
Nod y Gronfa Datblygu Teledu BrysDolen yn agor mewn ffenestr newydd yw darparu cymorth ariannol uniongyrchol i gwmnïau cynhyrchu annibynnol cynhenid yn ystod argyfwng Coronafeirws.
Bydd cymorth ar gael i gwmnïau ddefnyddio'r amser, pan na ellir cynhyrchu, i ddatblygu projectau a fydd yn eu rhoi mewn sefyllfa gryfach i gadarnhau comisiynau unwaith y bydd y dull arferol o weithio yn ailddechrau.
Gronfa Datblygu Digidol Brys
Bydd y gronfa (EDDF)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd yn darparu cymorth ariannol uniongyrchol ar gyfer gemau, animeiddio, asiantaethau digidol a busnesau digidol creadigol yn ystod y pandemig hwn. Y nod yw cefnogi cadw eiddo deallusol gan gwmnïau cynhenid a fydd, yn ei dro, yn eu helpu i dyfu, a hefyd i alluogi cwmnïau creadigol digidol i ddatblygu gwasanaethau newydd a gwella neu gyflwyno llwyfannau newydd ar gyfer cynnwys digidol.
Pecyn cymorth busnes gwerth £1.4bn i helpu busnesau ledled Cymru
Mae’r cymorth hwn yn cyfateb i'r mesurau yn Lloegr sy'n rhoi hwb y mae mawr ei angen i fusnesau bach sy'n ei chael hi’n anodd ymdopi ag effaith yr argyfwng Coronafeirws.
Rhyddhad Cyfradd Busnes
Mae’r Cynllun Grant i Fusnesau bellach wedi cau i geisiadau newydd. Os cyflwynoch eich cais neu e-bost cyn 5pm ar 30 Mehefin bydd yn dal i gael ei brosesu.
Mae busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd â gwerth ardrethol o £500,000 neu lai yn derbyn rhyddhad cyfraddau busnes 100% ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020/21.
Grantiau i gefnogi busnesau lleol
Yn ogystal â’r cynllun rhyddhad ardrethi busnes, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd £850m ychwanegol ar gael drwy gynllun grant newydd i fusnesau. Bydd hyn yn golygu y bydd bob busnes, sydd ar hyn o bryd yn gymwys ar gyfer disgownt Ardrethi Busnesau Bychan, hynny yw y rheiny sydd â gwerth ardrethol hyd at £12,000, yn derbyn grant o £10,000.
Bydd busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch gyda gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000 yn derbyn grant o £25,000.
Cynllun Benthyciadau Ymyrraeth Busnes
Cyhoeddodd llywodraeth y DU Gynllun Benthyciadau Ymyrraeth Busnes Coronafeirws dros dro i'w ddarparu gan Fanc Busnes Prydain. Bydd yn lansio ymhen ychydig wythnosau i gynorthwyo busnesau i gael benthyciadau a gorddrafftiau gan fanciau. Bydd y llywodraeth yn rhoi gwarant o 80% i fenthycwyr ar bob benthyciad (yn amodol ar gap fesul benthyciwr ar hawliadau) i roi mwy o hyder i fenthycwyr wrth barhau i ddarparu cyllid i BBaChau.
Bydd y cynllun yn cefnogi benthyciadau o hyd at £1.2m mewn gwerth. I ddechrau, bydd y warant newydd hon yn cefnogi hyd at £1bn o fenthyca ar ben y cymorth presennol a gynigir drwy Fanc Busnes Prydain.
Bydd ar gael i fusnesau yng Nghymru drwy'r banciau.
I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun, dylai busnesau fonitro gwefan Banc Busnes Prydain.
Banc Datblygu Cymru
Mae gan Fanc Datblygu Cymru gyllid benthyca ac ecwiti sydd ar gael yn syth i fusnesau Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda Banc Datblygu Cymru i ystyried cymorth ychwanegol i helpu busnesau drwy effaith Covid-19.
Hefyd, cyhoeddodd y Gweinidog y byddai Banc Datblygu Cymru yn cynnig gwyliau ad-dalu cyfalaf o dri mis i'w holl gwsmeriaid busnes i'w helpu i reoli'r effeithiau ariannol a allai ddeillio o'r feirws.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Banc Datblygu Cymru neu ffoniwch 0800 587 4140.
Asiantaeth Cymru Banc Lloegr - Covid-19 a Chymorth Busnes
I gael rhagor o gymorth a chyngor busnes, cysylltwch â Busnes Cymru ar: 03000 6 03000