Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Nodiadau Esboniadol

​​​​Mae’r wybodaeth a roddir isod yn egluro rhai o’r telerau y gellid eu defnyddio ar Orchymyn Ardreth Annomestig ac yn y wybodaeth ategol. 

Gellir cael rhagor o wybodaeth am atebolrwydd dros ardrethi annomestig gan awdurdodau bilio.​


Telir yr ardrethi annomestig a gesglir gan awdurdodau bilio i gronfa ganolog a’u hailddosrannu i Gynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol ac Awdurdodau’r Heddlu. 

Mae eich cyngor ac awdurdod heddlu’n defnyddio eu rhan nhw o incwm ardrethi a ailddosrennir, ynghyd ag incwm gan Treth Gyngor, Grant Cynnal Refeniw Llywodraeth Cymru a chronfeydd eraill i dalu am y gwasanaethau y maen nhw’n eu darparu.
Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael ar wefan y Swyddfa Brisio.​

Ar gyfer eiddo cymysg sy’n rhannol ddomestig ac yn rhannol annomestig, mae’r gwerth ardrethol yn berthnasol i’r rhan annomestig yn unig. 

Dangosir gwerthoedd pob eiddo o ran y cyfraddau sy'n daladwy i'ch awdurdod mewn perthynas ag ef yn y Rhestr Ardrethu Leol, y gellir archwilio copi ohoni yng:

Nghyngor Sir Caerdydd
Glanfa'r Iwerydd,
Caerdydd,
CF10 4UW


Gall y gwerth ardrethol newid os yw’r swyddog prisio’n credu bod amgylchiadau’r eiddo wedi newid. 

Dan rai amgylchiadau penodol, gall y talwr ardrethi (a phobl benodol eraill sydd â budd yn yr eiddo) gynnig newid mewn gwerth.  

Os nad yw talwr yr ardrethi a’r swyddog prisio’n cytuno ar y prisiad o fewn 3 mis o’r cynnig, bydd y mater yn cael ei gyfeirio fel apêl at y Tribiwnlys Prisio.

Mae gwybodaeth am yr amgylchiadau lle gellid cynnig newid i werth ardrethol, a sut mae gwneud cynnig o’r fath, ar gael ar wefan ardrethi annomestig y llywodraeth​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd.
​ ​



Dyma’r gyfradd yn y bunt y caiff y gwerth ardrethol ei luosi ganddi i greu’r bil blynyddol i eiddo. 

Bydd y lluosydd, sy’n cael ei osod gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn, yr un peth ar gyfer Cymru gyfan ac heblaw am mewn blwyddyn ailbrisio, does dim modd iddo godi mwy na graddfa’r cynnydd yn y Mynegai Prisiau Defnyddwyr.
​ ​
This is the rate in the pound by which the rateable value is multiplied to give the annual rate bill for a property. 

The multiplier set annually by the Welsh Government is the same for the whole of Wales and except in a revaluation year cannot rise by more than the rate 
of the increase in the Consumer Price Index.
Bydd perchnogion eiddo annomestig heb ei feddiannu o bosibl yn atebol dros ardrethi eiddo gwag sy’n costio 100% o’r rhwymedigaeth arferol. 

Mae atebolrwydd yn dechrau ar ôl i’r eiddo fod yn wag am 3 mis neu, yn achos adeiladau diwydiannol, ar ôl i’r eiddo fod yn wag am 6 mis. 

Mae rhai mathau o eiddo wedi eu heithrio o ardrethi eiddo gwag.

Mae gan Elusennau a Chlybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol hawl i gael gostyngiad o 80% o ardrethi ar unrhyw eiddo annomestig: 
pan, yn achos elusennau, fo’r eiddo’n cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl neu’n rhannol at ddibenion elusennol, neu yn achos clwb, pan fo’r clwb wedi ei gofrestru gyda CThEM.  

Mae gan Awdurdodau Bilio ddisgresiwn i ddileu’n rhannol neu’n gyfan gwbl yr 20% sy’n weddill o’r bil ar eiddo o’r fath, a gallant hefyd gyflwyno gostyngiad mewn perthynas ag eiddo sy’n cael ei feddiannu gan gyrff penodol sydd heb eu sefydlu neu nad ydynt yn cael eu cynnal er elw.


Mae Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017 yn darparu ar gyfer rhyddhad ardrethi i fusnesau bach. 

Mae’r manylion llawn, gan gynnwys y meini prawf cymhwysedd, yr eithriadau, y gofynion gweithdrefnol a’r ardrethi perthnasol, ar gael gan yr awdurdod bilio.
Bydd y wybodaeth sydd gan y Cyngor mewn perthynas ag Ardrethi Annomestig Cenedlaethol yn cael ei thrin yn gyfrinachol a chaiff ei phrosesu fel y caniateir yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (GDPR y DU) o 25 Mai 2018.   

Gellir rhannu gwybodaeth â gwasanaethau eraill y Cyngor at ddibenion atal a chanfod twyll ac i gydymffurfio ag unrhyw ofynion cyfreithiol a rheoliadol.  

Mae dyletswydd ar yr awdurdod i ddiogelu’r arian cyhoeddus y mae’n ei weinyddu a gall ddefnyddio’r wybodaeth a rowch at y dibenion hynny. 

Mae’n bosibl y rhennir y wybodaeth hon â chyrff eraill sy’n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus at y dibenion hyn.


Allwch cysylltwch â’r:

Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth
Ystafell 537
Neuadd y Sir
Caerdydd
CF10 4UW





Post​​

Cyngor Dinas a Sir Caerdydd
Adran Ardrethi Busnes
Blwch SP 9000
Caerdydd
CF10 3ND 

Ffôn​​

029 20871491   

E-bost​


Ymholiadau – Helpwch ni i'ch helpu

Dyfynnwch rif eich cyfrif ardrethi bob amser wrth ysgrifennu neu ffonio.​

Mae gan bob talwr ardrethi’r hawl i dalu hyd at 10 rhandaliad misol yn unol â'r cynllun rhandaliadau rhagnodedig fel y dangosir ar eich bil.

Gellir gwneud trefniadau rhandaliadau gwahanol drwy gytundeb. 

Fodd bynnag, bydd methu â thalu unrhyw randaliad erbyn y dyddiad dyledus yn golygu y bydd eich hawl i dalu drwy randaliadau yn cael ei ganslo. 

Felly, os ydych yn rhagweld y byddwch yn cael anhawster i dalu'r taliad gofynnol, cysylltwch â'r Is-adran Ardrethi Busnes.
Gallwch dalu eich bil ardrethi drwy'r dulliau canlynol:

Debyd Uniongyrchol​

Mae sefydlu debyd uniongyrchol i dalu’ch bil Ardrethi Busnes yn gyflym ac yn hawdd.  

Llenwch neu lawrlwythwch ffurflen gais ar-lein​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd neu gwblhewch y mandad debyd uniongyrchol sydd wedi'i argraffu ar gefn eich bil Ardrethi Busnes. 

Neu gallwch gysylltu â’r Cyngor ar 029 2087 1491

Rhyngrwyd​​


Drwy’r Post​

Anfonwch eich siec/archeb bost at:

Gyngor Dinas a Sir Caerdydd
Blwch Post 9000
Caerdydd
CF10 3ND

Dylai Sieciau ac Archebion Post gael eu gwneud yn daladwy i CYNGOR CAERDYDD. 

Peidiwch â chyfeirio sieciau at unrhyw swyddog unigol. 

Peidiwch ag anfon arian parod trwy'r post.

Taliadau dros y ffôn ​

Mae'n hawdd defnyddio ein system dalu awtomataidd drwy ffonio C2C ar 029 20445900 a dewis opsiwn 1.  

Wedi hynny, dilynwch y camau i dalu eich Ardrethi Busnes, 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.  

Sicrhewch fod gennych y canlynol wrth law cyn i chi ffonio: rhif eich cyfrif ardrethi, (a geir ar gornel dde uchaf eich bil), eich cerdyn debyd neu gredyd*, y swm yr hoffech ei dalu.

*Mae uchafswm o £3,000 fesul cyfrif bob blwyddyn ar waith ar gyfer taliadau cerdyn credyd. 

Manylion Banc​​

Dyma’ Fanylion Banc y Cyngor:

NatWest Bank plc
96 Heol y Frenhines
Caerdydd,
CF10 2GR

Cod Didoli 52-21-06.  
Rhif Cyfrif 20408838

Cyfrifir y tâl ardrethi blynyddol ar gyfer yr eiddo drwy luosi gwerth ardrethol yr eiddo â'r lluosydd ardrethi. Gellir lleihau hyn os yw trethdalwyr yn gymwys i unrhyw ryddhad neu eithriadau.


Os byddwch yn newid cyfeiriad, cysylltwch â'r Is-adran Ardrethi Busnes yn brydlon gan roi cymaint o wybodaeth â phosibl gan gynnwys:
  • Dyddiad y meddiannu neu gadael
  • Eich cyfeiriad newydd neu blaenorol
  • Manylion llawn y busnes
  • Os yn unig fasnachwr enw a chyfeiriad cartref y talwr ardrethi, 
  • Os yn gwmni cyfyngedig, enw'r cwmni a'r swyddfa gofrestredig.














​​






© 2022 Cyngor Caerdydd