Rhagnodir gwerth ardrethol i bob eiddo busnes. Caiff y gwerth hwn ei asesu’n annibynnol gan
Asiantaeth y Swyddfa BrisioDolen yn agor mewn ffenestr newydd ac mae’n cynrychioli gwerth rhent yr eiddo ar y farchnad agored fel yr oedd ar 1 Ebrill 2015.
Caiff y bil ardrethi ei gyfrifo drwy luosi’r gwerth ardrethol gyda’r lluosydd ardrethi. Caiff y lluosydd ardrethi ei bennu gan Lywodraeth Cymru, a chaiff ei adolygu’n flynyddol. Y lluosydd ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019/2020 yw 0.526c
Er enghraifft:
Gwerth Ardrethol £20,000 x Lluosydd 0.526 = Bil Ardrethi £10,520
Rhydd hyn yr atebolrwydd gros ond
gallech fod yn gymwys i rai gostyngiadau.
Gweld nodiadau esboniadol sy'n esbonio rhai o'r termau y gellir eu defnyddio ar yr hysbysiad galw am dalu ardreth busnes ac yn y wybodaeth ategol.
I gael rhagor o wybodaeth neu gyngor mae croeso i chi gysylltu â ni
Cysylltu â ni
029 20871491