Oes. Mae amryw o ffyrdd y gellir lleihau eich bil ardrethi busnes, Ymhlith y rhain mae:
Cymorth Trosiannol
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno rheoliadau a fydd yn helpu trethdalwyr y mae eu hawl i Gymorth Trethi Busnesau Bach (SBRR) wedi ei ostwng neu ei ddileu o ganlyniad i'r cynnydd yng ngwerth trethiannol eu hetifeddiaeth yn dilyn gweithredu'r rhestr trethiant Annomestig Cenedlaethol newydd.
Bydd trethdalwyr sy'n gymwys â hawl i ostyngiad cam wrth gam yn unrhyw gynnydd canlyniadol yn eu rhwymedigaeth dros gyfnod o dair blynedd (75% o ostyngiad ym mlwyddyn un, 50% ym mlwyddyn dau a 25% ym mlwyddyn tri).
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer cymorth trosiannol, mae'n rhaid i'r etifeddiaeth:
- fod wedi’i dangos ar restr leol 2017 (y diwrnod cyn i’r rhestr newydd a gesglir ar 1 Ebrill 2017 yn cael effaith);
- wedi bod yn gymwys ar gyfer cymorth trethi busnesau bach ar 31 Mawrth 2017 - yn dibynnu ar y cynnydd yng ngwerth trethiannol yr etifeddiaeth; mae'n bosibl y bydd y trethdalwr yn derbyn SBRR o hyd neu beidio yn dilyn yr adbrisiad;
- bod â chynnydd o ran atebolrwydd o fwy na £100 sef y trothwy de minimis a osodir ac o dan hyn ystyrir bod costau gweinyddol rhoi’r cymorth hwn yn gorbwyso'r buddion;
- peidio â derbyn cymorth o dan adran 44A Deddf 1988 (ar gyfer eiddo sydd wedi’u meddiannu’n rhannol);
- peidio â bod yn achos y mae adran 45A Deddf 1988 yn gymwys iddo (etifeddiaethau gwag: cyfradd sero) ac yr un trethdalwr a oedd yn meddiannu’r etifeddiaeth ar 31 Mawrth 2017. Mae’n rhaid i’r trethdalwr hwn barhau i feddiannu’r etifeddiaeth drwy gydol y cyfnod cymorth trosiannol. Os na fydd, bydd yn cymorth yn peidio â bod yn gymwys.
Ni fydd angen gwneud cais am y math hwn o gymorth oherwydd y caiff ei gymhwyso i gyfrifon y trethdalwr yn awtomatig.
Rhyddhad elusennol/dewisol i’r ardrethi
Mae gan elusennau'r hawl i gael rhyddhad o’r ardrethi ar unrhyw eiddo annomestig yn y rhestr ardrethi leol sy'n cael ei ddefnyddio’n llwyr neu'n bennaf at ddibenion elusennol. Rhoddir rhyddhad o 80% o’r bil ardrethi eiddo a feddiannir, ac o 1 Ebrill 2008, 100% o’r bil ardrethi eiddo gwag (ar yr amod mai’r defnydd nesaf a wneir o’r eiddo yw gan yr elusen at ei dibenion elusennol). Mae dewis gan awdurdodau bilio i ddileu rhywfaint neu’r cyfan o’r 20% sy’n weddill o fil yr elusen ar gyfer ardrethu eiddo a feddiannir, yn ogystal â rhyddhad o 100% o ran eiddo sydd wedi’i feddiannu gan sefydliadau penodol nad ydynt wedi’u sefydlu na’u cynnal er elw.
Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach (Cymru)
O 1 Ebrill 2007 bu rhyddhad ardrethi ar gael i fusnesau bach ar gyfer eiddo sydd a feddiannir sydd â gwerth ardrethol isel. Mae maint y rhyddhad sydd ar gael yn dibynnu ar y gwerth ardrethol a’r math o eiddo dan sylw.
Mae rhywfaint o’r rhyddhad hwn yn orfodol a chaiff ei roi’n awtomatig lle y bo’n bosibl, ond mae’n ofynnol gwneud cais am rai mathau o ostyngiadau.
Cyflwynwyd Cynllun Ardrethi Busnesau BachDolen yn agor mewn ffenestr newydd newydd a gwell.
Cynllun Datblygiadau Newydd
Prif nod y Cynllun Datblygiadau Newydd yw cynnig cymorth ariannol i ddatblygwyr er mwyn ysgogi gwaith adeiladu ac annog datblygiad.
Drwy’r cynllun, rhoddir rhyddhad ardrethi ychwanegol i berchenogion datblygiadau “newydd” sy’n dal yn wag ar adeg eu cwblhau. Adeilad newydd yw adeilad a gwblhawyd llai na 18 mis yn flaenorol ac adeiladau a gwblhawyd ar 1 Hydref 2013 neu wedi hynny a chyn 1 Hydref 2016. Cynigir rhyddhad o gant y cant am y cyfnod cymhwyso.
Ffurflen gais datblygiad newydd (26kb PDF)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd
Anfonwch y ffurflen wedi’i chwblhau drwy e-bost i: brates@caerdydd.gov.ukDolen yn agor mewn ffenestr newydd
Neu drwy’r post i:
Yr Adran Ardrethi Busnes
Neuadd y Ddinas
Caerdydd
CF10 3ND
Rhyddhad ardrethi ar gyfer eiddo a feddiannir yn rhannol (adran 44A)
Mewn achosion lle yr ymddengys i’r awdurdod fod rhan o eiddo heb ei feddiannu ac y bydd felly am gyfnod byr, yna gall yr awdurdod ofyn i’r Swyddfa Brisio ddosrannu’r gwerth ardrethol ac felly codi ardrethi ar y rhan sydd heb ei feddiannu. Dylid nodi y gall y rhan wag barhau i fod yn atebol ar gyfer yr ardreth eiddo gwag.
Rhyddhad Ardrethi Eiddo heb ei Feddiannu
Hyd at 31 Mawrth 2008 roedd gan berchenogion eiddo annomestig heb ei feddiannu yr hawl i gael rhyddhad ardrethi o 50%. Roedd y cyfnod atebolrwydd yn dechrau ar ôl i’r eiddo fod yn wag am
dri mis. Roedd rhai mathau o eiddo, er enghraifft ffatrïoedd a warysau, wedi’u heithrio’n llwyr o’r ardreth eiddo gwag.
Mae deddfwriaeth newydd a gyflwynwyd ar ôl 1 Ebrill 2008 bellach wedi dileu’r gostyngiad hwnnw, ac mae’r eithriad llwyr i eiddo diwydiannol wedi’i ddileu erbyn hyn hefyd.
Mae’r ddeddfwriaeth newydd yn golygu y bydd eiddo anniwydiannol megis swyddi/siopau yn atebol i dalu 100% o’r ardrethi os nad yw’r eiddo wedi’i feddiannu am fwy na 3 mis. Bydd eiddo diwydiannol yn atebol i dalu 100% o’r ardrethi os nad yw wedi’i feddiannu am fwy na 6 mis.
Bydd rhai eiddo yn dal i fod yn gymwys i gael eu heithrio o’r ardreth eiddo gwag, h.y. adeiladau rhestredig ac eiddo gyda Gwerth Ardrethol isel. Oherwydd y dirwasgiad economaidd pennwyd trothwy gwerth ardrethol isel o £18,000 ar gyfer y flwyddyn ariannol 2010/2011, ond caiff hwn ei leihau i werth ardrethol o £2,600 o 1 Ebrill 2011.
Rhyddhad caledi
Gellir rhoi ystyriaeth i ostyngiad neu ryddhad o’r swm sy’n ddyledus os gellir profi y byddai trethdalwr yn dioddef caledi fel arall ac y byddai gweithred o’r fath o fudd i Drethdalwyr Caerdydd.
I gael rhagor o wybodaeth neu gyngor ar unrhyw un o’r materion uchod mae croeso i chi gysylltu â ni
029 20871491