Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn datblygu sgiliau ymarferol a gwybodaeth ynglŷn â garddwriaeth, coedyddiaeth, tir, bywyd gwyllt a physgodfeydd. Mae’r cwrs hwn yn cynnwys gwaith ystafell ddosbarth a phrofiad ymarferol gyda Cheidwaid Cymunedol Cyngor Caerdydd mewn amrywiaeth o leoliadau tir. Mae’r unedau’n ymdrin â’r amrywiaeth o sgiliau ymarferol a’r wybodaeth y mae eu hangen i weithio yn y diwydiannau tir ac amgylcheddol.
Y pynciau dan sylw
- Gweithio’n ddiogel a gweithio mewn tîm
- Cynnal a chadw offer
- Gofal lawntiau
- Plannu a sefydlu planhigion
- Plannu coed a’u hôl-ofal
- Pysgod a’r amgylchedd dŵr
Sut caiff y cwrs ei asesu??
Caiff ei asesu trwy dasgau a gwaith cwrs.
Ble caiff y cwrs ei gynnal?
Mewn parciau yng Nghaerdydd a Fferm y Fforest gyda’r Ceidwaid Cymunedol.
At beth gall y cwrs arwain??
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallwch chi symud ymlaen at gwrs Lefel 2, prentisiaeth neu gyflogaeth.
Gofynion mynediad i’r cwrs
Ar gyfer CA4 Blwyddyn 10 ac 11 a phobl ifanc 14-16 oed.
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ond dylai ymgeiswyr fod â diddordeb amlwg yn y pwnc.
Cysylltu â ni
029 2233 0270