Mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yng Nghymru yn cydweithio ar Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif er mwyn sefydlu ysgolion priodol yn y mannau priodol.
Prif flaenoriaethau'r rhaglen fuddsoddi yw:
- Paru'r lleoedd sydd ar gael â'r galw am leoedd
- Buddsoddi mewn ysgolion newydd ac adnewyddu ysgolion presennol
- Ateb y galw am addysg Gymraeg a Saesneg
- Sefydlu ysgolion cynradd 3 - 11 oed
- Sefydlu darpariaeth feithrin ar safleoedd ysgolion cynradd
- Gwella cyfleusterau TGCh
Bydd hyn yn creu:
- Amgylcheddau dysgu gwell i blant a phobl ifanc rhwng 3 a 19 oed
- Gwell defnydd o adnoddau i wella effeithlonrwydd ysgolion
- System addysg gynaliadwy lle bydd pob ysgol yn cyrraedd y safonau cenedlaethol ac yn lleihau costau rhedeg ac ôl troed carbon presennol
- Mae Caerdydd wedi elwa o fuddsoddiad sylweddol eisoes (edrychwch at ein sioe sleidiau Gwella Ysgolion)
Byddwn yn parhau i godi safonau ysgolion a gwella safon yr amgylchedd dysgu i greu Ysgolion yr 21ain Ganrif addas at y diben a rhoi'r cychwyn gorau posibl i bob plentyn yng Nghaerdydd.