Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Ydw i’n gymwys i gael cludiant ysgol am ddim

​​​Gall disgyblion deithio ar y bws ysgol am ddim os ydynt yn bodloni’r meini prawf canlynol:

  • Yn yr ysgol gynradd, yn 11 oed neu’n iau, ac yn byw mwy na dwy filltir o bellter cerdded o’r ysgol dalgylch agosaf briodol.​
  • ​​​Yn yr ysgol uwchradd, yn 16 oed neu’n iau, ac yn byw mwy na thair milltir o bellter cerdded o’r ysgol dalgylch agosaf briodol o’r cyfeiriad cartref.



Rhagor o wybodaeth ar ddalgylchoedd ysgolion


Bydd rhaid i ddisgyblion dalu i deithio ar y bws ysgol os ydynt fel a ganlyn:

  • Yn mynychu ysgol nad yw’r ysgol agosaf o’r math hwnnw i’w cartref. 
  • Yn byw o fewn dwy filltir (neu dair milltir ar gyfer disgyblion ysgol uwchradd) i’r ysgol.

 

Os hoffech ragor o wybodaeth am gludiant ysgol am ddim, mae croeso i chi gysylltu â ni. 


© 2022 Cyngor Caerdydd