Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Rhwydwaith Ysgolion Iach Caerdydd

​​Mae Rhwydwaith Ysgolion Iach Caerdydd yn gynllun gwobrwyo lleol a reolir gan Wasanaeth Addysg Caerdydd ac a gefnogir gan bartneriaid allweddol gan gynnwys Tîm Iechyd Cyhoeddus Caerdydd a’r Fro. 

Mae ein cynllun wedi bod ar waith ers 1999 ac mae wedi’i achredu gan Gynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru. Darperir cyllid ar gyfer y cynlluniau Ysgolion Iach drwy Gymru gan Iechyd Cyhoeddus Cymru​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd​​​

Mae Cymru ymhlith un o’r gwledydd gorau am hyrwyddo iechyd mewn ysgolion. Mae Tîm Ysgolion Iach Caerdydd yn gweithio gyda phob ysgol a gynhelir yn y brifddinas, gan gynnwys ysgolion meithrin, cynradd ac uwchradd, ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion. Prif nod ein gwaith yw gweithio gyda’r ysgolion hyn i nodi camau gweithredu perthnasol i wella iechyd a lles disgyblion a chymuned yr ysgol gyfan. Ac, unwaith y byddai’r camau gweithredu perthnasol hyn wedi’u penderfynu arnynt, gall ysgolion ddefnyddio adnoddau a hyfforddiant a roddir gan ein tîm.


Maesydd gweithredu


Mae wyth maes gweithredu yn ein fframwaith y mae ysgolion yn gweithio arnynt dros chwe cham.  Y meysydd gweithredu yw:

  • Maeth, 
  • Gweithgarwch Corfforol, 
  • Datblygiad Personol a Pherthnasau, 
  • Defnyddio a Chamddefnyddio Sylweddau, 
  • Iechyd a Lles Meddwl ac Emosiynol, 
  • yr Amgylchedd, 
  • Diogelwch, a 
  • Hylendid.  




Mae pob cam yn cymryd rhwng blwyddyn a thair blynedd i’w cwblhau gyda’r Wobr Ansawdd Genedlaethol ar y diwedd.  Ar ddiwedd pob cam, asesir ysgolion gan aelod o’r tîm Ysgolion Iach gyda chynrychiolydd asiantaeth bartner.  Mae’r wobr yn ddewisol i ysgolion sydd wedi bod yn rhan o’r cynllun am o leiaf naw mlynedd ac wedi cwblhau cam pump.  Gwobr ragoriaeth ydyw ac felly gall gymryd ychydig flynyddoedd i’w cwblhau yn unol â safonau cenedlaethol.   

Pan fydd ysgol wedi cwblhau holl waith cam olaf y wobr, mae aseswyr cenedlaethol yn mynd ati i asesu’r gwaith hwnnw drwy Gymru.  Gall ysgolion sy’n dewis peidio i fynd am y wobr gwblhau Cam Chwech Lleol. Unwaith y bydd ysgol wedi cwblhau’r chwe cham, byddant yn cael eu hailasesu bob dwy flynedd i sicrhau bod safonau iechyd a lles yn cael eu cynnal.

Mae ein cynllun yn cefnogi statws Dinas Iach Sefydliad Iechyd y Byd Caerdydd ac yn helpu ysgolion i gyflawni agwedd ‘Lles’ fframwaith arolygu cyffredin Estyn, y rhoddwyd mwy o bwyslais arno ers 2010. Rydym yn gweithio’n aml gydag asiantaethau partner fel:


Ein nod yw creu cysylltiadau ar draws Caerdydd a Chymru sy’n cefnogi ysgolion ein prifddinas yn cyrraedd eu llawn botensial.


Mae gan bob ysgol gydlynydd Ysgolion Iach, felly os ydych yn rhiant neu gofalwyr a bod gennych ddiddordeb yn yr hyn y mae eich plentyn yn ei wneud ar y cynllun yn yr ysgol, gallwch gysylltu â'r ysgol yn uniongyrchol am y wybodaeth hon.


Yn 2011 ymestynnodd Iechyd Cyhoeddus Cymru y cyllid ar gyfer y cynllun hwn drwy greu fersiwn blynyddoedd cynnar o Ysgolion Iach.  Yng Nghaerdydd gelwir hyn yn Gynllun Cyn Ysgol Iach a Chynaliadwy Caerdydd, ac mae aelodau’r tîm Ysgolion Iach yn ei gydlynu.​

​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd