Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Presenoldeb yn yr Ysgol

Os byddwch yn credu bod plentyn yn colli diwrnodau ysgol, rhaid rhoi gwybod i'r Gwasanaeth Lles Addysg ar unwaith.

 

Cysylltwch â'r Gwasanaeth Lles Addysg yn syth os ydych:

  • Wedi sylwi ar blentyn nad yw'n mynd i'r ysgol yn rheolaidd, neu lle bo unrhyw bryderon ynghylch y ddarpariaeth
  • Yn credu eich bod yn gwybod am blentyn nad yw'n cael unrhyw addysg.
  • Yn pryderu am blant sydd wedi mynd ar goll o'ch ardal neu'ch cymdogaeth.  

 

Nid oes angen i chi roi eich manylion personol, ond os byddwch yn gwneud hynny, caiff yr holl wybodaeth ei thrin yn hollol gyfrinachol. 
 
Rhowch wybod i ni am blentyn sydd ddim yn mynd i’r ysgol yn rheoliadd.
 

Rhoi gwybod am rywbeth

Gwasanaeth Lles Addysg
Ystafell 422
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW​
 
029 2087 3619
 
 

Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn rhoi gwybod am bryder?


Drwy wneud atgyfeiriad rydych yn sicrhau diogelwch a lles rhai o'r bobl ifanc fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.
 
Pan fyddwn yn cael atgyfeiriad, byddwn yn ceisio olrhain y plentyn drwy gronfeydd data amrywiol a ddelir gan Gyngor Caerdydd ac yn cysylltu ag asiantaethau a gweithwyr proffesiynol eraill. Os byddwn yn fodlon bod y plentyn wedi'i gofrestru mewn ysgol/yn cael addysg ddigonol, ni fyddwn yn cymryd unrhyw gamau pellach.  Oni cheir unrhyw wybodaeth am y plentyn, bydd y Gwasanaeth Lles Addysg yn cysylltu â'r teulu a'r plentyn i sicrhau ei fod yn ddiogel ac i drafod eu cynigion ar gyfer addysg eu plentyn.
 
Os oes angen cymorth ar blentyn i'w helpu i ddychwelyd i'r ysgol, caiff ei ddarparu.

            

​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd