Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Presenoldeb yn yr Ysgol

​Yn ôl y gyfraith, rhaid i bob plentyn oed ysgol gorfodol (5 i 16) gael addysg lawn-amser addas. Fel rhiant, mae gennych gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau bod hyn yn digwydd - naill ai drwy gofrestru eich plentyn mewn ysgol neu drwy wneud trefniadau eraill i sicrhau ei fod yn cael addysg lawn-amser addas. Unwaith y bydd eich plentyn wedi'i gofrestru mewn ysgol, mae cyfrifoldeb cyfreithiol arnoch i sicrhau ei fod yn bresennol yno'n rheolaidd.

 

Os na fydd eich plentyn yn bresennol yn rheolaidd, bydd yr ysgol neu'r awdurdod lleol yn cysylltu â chi. Mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i gymryd camau os byddant o'r farn nad yw plentyn yn cael yr addysg sydd ei hangen yn ôl y gyfraith, naill ai gartref neu yn yr ysgol. Os bydd eich plentyn yn colli diwrnodau ysgol, efallai bydd aelod o'r Gwasanaeth Lles Addysg yn ymweld â chi. Bydd yn siarad â chi am broblemau presenoldeb eich plentyn.

 

 

  • Fel rhiant, mae gennych gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau bod eich plentyn yn cael addysg lawn-amser rhwng pump oed ac 16 oed.
  • Os na fyddwch yn anfon eich plentyn i'r ysgol yn rheolaidd, gallech gael dirwy o hyd at £2500 a hyd yn oed gael eich carcharu.
     
     
    Weithiau, ni fydd eich plentyn yn gallu mynd i'r ysgol, gelwir hyn yn ‘Absenoldeb Awdurdodedig', a rhaid rhoi gwybod i'r ysgol ymlaen llaw. Gall yr ysgol awdurdodi absenoldeb o dan yr amgylchiadau canlynol:
  • Mae eich plentyn yn rhy sâl i fynd i'r ysgol
  • Mae gan eich plentyn apwyntiad gyda'r deintydd neu'r meddyg
  • Mae perthynas wedi marw
  • Rhesymau crefyddol penodol

 

 

 
Rydym bellach wedi gofyn i benaethiaid beidio ag awdurdodi ceisiadau am wyliau yn ystod y tymor.  Nid oes gan rieni na gofalwyr unrhyw hawl i fynd â phlentyn allan o'r ysgol ar gyfer gwyliau yn ystod y tymor.
 
*O ran cymryd gwyliau yn ystod y tymor, mae’r Penaethiaid yn cadw’r hawl i awdurdodi gwyliau ac mae modd iddynt asesu amgylchiadau unigol ac eithriadol. 
 
 
I roi hyn yn ei gyd-destun, mae'r ysgol ar agor am 190 diwrnod y flwyddyn, sy'n gadael 175 diwrnod yn rhydd i fynd ar wyliau ac ymweld â theuluoedd.
 
Mae polisi blaenorol Cyngor Caerdydd ar Wyliau Estynedig bellach wedi'i dynnu yn ôl ac rydym yn gofyn i deuluoedd wneud trefniadau i gymryd gwyliau estynedig yn ystod y chwe wythnos o wyliau ym mis Gorffennaf a mis Awst er mwyn helpu ysgolion i gefnogi eich plentyn i lwyddo. 
 
Nid yw'n dderbyniol ac nid oes gennych awdurdod i gymryd eich plentyn allan o'r ysgol am y rhesymau canlynol:
  • Gofalu am frodyr a chwiorydd
  • Teithiau siopa
  • Diwrnodau i ffwrdd i ddathlu pen-blwydd
  • Ymweld â pherthnasoedd
  • Cysgu'n hwyr
  • Cyrraedd yr ysgol yn hwyr
  • Gofalu am y tŷ
  • Mynd ar dripiau undydd neu wyliau
  •  



    ​​​​​​
    © 2022 Cyngor Caerdydd