Bydd Cynlluniau Datblygu Unigol (CDUau) yn cymryd lle datganiadau anghenion addysgol arbennig (AAA) yn raddol. Bydd y rhan fwyaf o Ddatganiadau yn cael eu newid i fod yn Gynlluniau Datblygu Unigol dros y 3 blynedd nesaf.
Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd pob cyngor wedi cwblhau'r broses hon yn ei ardal erbyn mis Medi 2024.
Os oes gan eich plentyn ddatganiad ac nad yw'r broses bontio i CDU wedi dechrau, byddwch yn dal i gael eich diogelu dan yr hen gyfraith.
Bydd y Cyngor yn:
- Parhau i drefnu'r ddarpariaeth fel y nodir yn y datganiad, fel therapïau, cymorth unigol, ac addysgu arbenigol. Y Cyngor sydd â’r ddyletswydd i gynnal y datganiad o hyd ac ni ellir ei dirprwyo.
- Cynnal adolygiad blynyddol dan y trefniadau AAA. Byddwn yn defnyddio dulliau sy'n canolbwyntio ar unigolion.
- Gwneud newidiadau i'r datganiad, os oes angen, dan y trefniadau AAA.
- Ystyried cais rhiant am ailasesiad dan ddeddfwriaeth Deddf Addysg 1996. Fodd bynnag, gall fod yn fwy rhesymegol i rieni newid y datganiad i CDU gan mai hwn yw'r nod erbyn 2024.
- Bod yn gyfrifol am enwi ysgol. Pan fo rhieni neu'r Cyngor am newid yr ysgol a enwir mewn Datganiad, cyn iddynt newid, bydd deddfwriaeth Deddf Addysg 1996 yn dal i fod yn berthnasol.
- Bod yn gyfrifol am hawliau apelio. Pan fo plentyn neu riant am apelio yn erbyn penderfyniad awdurdod lleol i Dribiwnlys AAA Cymru, mae’r hawliau a’r terfynau amser presennol yn dal i fod yn berthnasol.
- Parhau i gynnal asesiadau statudol. Er bod y system newydd yn cael ei chyflwyno, bydd y ddwy system yn gweithredu ochr yn ochr. Cyfeirir at blant a phobl ifanc sydd yng nghanol y broses asesu statudol fel 'achosion ar y gweill'. Ni fydd plant sydd ag 'achos ar y gweill' yn symud o'r system AAA i'r system ADY yn y flwyddyn gyntaf o weithredu.