Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Rhaglenni'r blynyddoedd cynnar

​​​​​​Dysgwch am rywfaint o'r gwaith sy'n digwydd ledled y ddinas i helpu i gefnogi plant a'u teuluoedd. 

 ​

Mae gan Dechrau'n Deg ystod o wasanaethau i deuluoedd â phlant hyd at 3 blynedd 11 mis oed sy'n byw mewn rhai rhannau o Gaerdydd.  Ewch i wefan Dechrau'n Deg​​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd i gael rhagor o wybodaeth a gweld a allwch fanteisio arnynt.  

Mae hwn yn gwrs chwe wythnos i helpu rhieni neu ofalwyr a'u plant.

 

Mae'n canolbwyntio ar gyfathrebu, iaith a llythrennedd drwy chwarae, ac mae'n seiliedig ar y themâu canlynol:

  • pwysigrwydd siarad â phlant
  • arferion bob dydd
  • yr awyr agored
  • llyfrau a straeon
  • caneuon a rhigymau
  • sgiliau cyn ysgrifennu

 

Mae'r cwrs yn cael ei gynnal ym mhob ardal Dechrau'n Deg​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd i deuluoedd â phlant hyd at 3 blynedd 11 mis oed, a gallwch ymuno am ddim. 
 
Mae Iaith a Chwarae ar gael mewn nifer o ysgolion i blant oedran meithrin, a rhai dosbarthiadau derbyn.
Pe hoffech ragor o wybodaeth am y cwrs, cysylltwch â ni
 
Rhaglen ysgol gynradd sydd am wella sgiliau darllen, ysgrifennu a mathemateg plant a’u rhieni neu ofalwyr.
 
Mae'r rhaglen yn helpu rhieni i ddysgu mwy am waith ysgol eu plentyn, a bod o gymorth iddynt ei helpu gartref yn fwy hyderus. 
 
Mae cyrsiau'n amrywio o bedair sesiwn hyd at ddiwrnod yr wythnos am un tymor ysgol, ac maent am ddim i ysgolion a rhieni.
 
Gallai rhieni a gofalwyr ennill tystysgrif a gydnabyddir yn genedlaethol am gymryd rhan.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â FamLearnTog@cavc.ac.uk
 
Mae hefyd nifer o ganolfannau a chynlluniau chwarae i blant ledled Caerdydd i blant o bob oed, sy'n cynnig amrywiaeth o weithgareddau o gelf a chrefft i chwaraeon a gemau.
 
 
Cysylltu â ni
​​ ​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd