Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Caerdydd 2020

Addysg y ddinas yn anelu at ragoriaeth


Cyhoeddodd Cyngor Dinas Caerdydd ei weledigaeth newydd ar gyfer addysg a dysgu yn y brifddinas, sef Caerdydd 2020 – Anelu at ragoriaeth (4MB PDF)​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd​​

Mae ‘Caerdydd 2020’ yn adeiladu ar gynnydd sydd wedi’i wneud i wella addysg dros y blynyddoedd diwethaf, gan osod rhaglen uchelgeisiol i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yng Nghaerdydd yn cael y cyfle i lwyddo.

Mae’r strategaeth newydd yn rhestru pum nod allweddol i gyflawni’r dyheadau hyn:

  • Canlyniadau gwych i bob dysgwr

  • Gweithlu o ansawdd uchel

  • Amgylcheddau dysgu sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif

  • System ysgol sy’n gwella ei hun

  • Ysgolion a Chaerdydd mewn partneriaeth


Gan groesawu’r weledigaeth newydd, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry: “Mae’r camau rydyn ni wedi’u cymryd i wella safonau addysg yn dechrau cael effaith gadarnhaol. 

“Rydyn ni'n gweld gwelliant sylweddol ar draws pob ‘Cyfnod Allweddol’, yn arbennig mewn perthynas â nifer y disgyblion sy’n cyflawni o leiaf 5 TGAU gradd A* i C, gan gynnwys Mathemateg a Chymraeg neu Saesneg, sy'n gynnydd o 10 y cant yn y ddinas ers 2012.

“Ond rydyn ni’n cydnabod bod llawer i’w wneud o hyd ac mae’r strategaeth ‘Caerdydd 2020’ yn nodi sut y byddwn ni, ynghyd a’n partneriaid o bob sector yn y ddinas, yn gweithio i sicrhau gwelliant parhaus mewn addysg ledled Caerdydd.

“Drwy sicrhau bod gan ein plant a’n pobl ifanc fynediad i’r addysg orau, gallwn helpu i’w rhoi yn y sefyllfa orau posibl i fanteisio ar economi ffyniannus Caerdydd.”

© 2022 Cyngor Caerdydd