Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Marwolaeth preswylydd

D​ywedwch wrthym am farwolaeth preswylydd cyn gynted ag y gallwch gan y gallai effeithio ar eich bil.


Bydd swm y dreth gyngor y mae angen ei dalu yn dibynnu ar bwy sy'n parhau yn yr eiddo.

Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith​, a fydd yn dweud wrth holl sefydliadau'r llywodraeth bod y person wedi marw. Cyn defnyddio Dweud Wrthym Unwaith, rhaid i chi roi gwybod am y farwolaeth i’r cofrestrydd. Yna bydd y cofrestrydd yn rhoi cyfeirnod Dweud Wrthym Unwaith i chi, y gallwch ei ddefnyddio i lenwi'r ffurflen.​

Mae rhywun a fu’n byw ar ei ben ei hun wedi marw


Pan fydd person a fu’n byw ar ei ben ei hun wedi marw, bydd ei gartref wedi'i eithrio rhag treth gyngor os bydd yr eiddo'n aros yn wag.

Bydd yr eiddo yn parhau wedi'i eithrio nes bod profiant neu lythyrau gweinyddu wedi'u cyflwyno. Bydd yr eiddo wedi'i eithrio am 6 mis arall ar ôl cyflwyno profiant neu lythyrau gweinyddu. 

Os caiff yr eiddo ei werthu neu os bydd rhywun yn symud i mewn yn ystod y cyfnod eithrio, codir swm llawn y dreth gyngor ar y perchennog neu'r meddiannydd. 

Mae rhywun y buoch yn byw gyda nhw wedi marw


Os oes rhywun y buoch yn byw gyda nhw wedi marw, efallai y bydd newidiadau i'ch bil treth gyngor.


Os mai chi yw'r unig oedolyn sydd yn yr eiddo bellach


Byddwch yn gymwys i gael gostyngiad o 25% ar eich bil treth gyngor. 

Darganfyddwch sut y gallwch wneud cais am ostyngiad person sengl​.​

Os oes mwy nag un oedolyn yn yr eiddo


Os oes mwy nag un oedolyn yn yr eiddo bellach, efallai y byddwch yn gyfrifol am dalu swm llawn y dreth gyngor.

Dylech gysylltu â ni rhag ofn y bydd angen i ni ddiweddaru enw deiliad y cyfrif. 

​​

© 2022 Cyngor Caerdydd