Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Premiymau treth gyngor

​​B​​ydd eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi yng Nghaerdydd yn destun premiwm treth y cyngor. Mae premiwm yn swm ychwanegol o dreth y cyngor i'w dalu ar ben bil safonol y dreth gyngor.
 
Bwriad y premiwm yw:

  • ailddefnyddio cartrefi gwag hirdymor i ddarparu cartrefi diogel a fforddiadwy​
  • cefnogi cynghorau i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy a gwella cymunedau lleol.




Mae eiddo hirdymor sydd heb ei feddiannu eisoes yn gorfod talu premiwm treth gyngor. O fis Ebrill 2024, bydd ail gartrefi ac eiddo wedi'u dodrefnu nad ydynt yn breswylfa neb hefyd yn destun premiwm treth gyngor.

Eiddo gwag a dodrefnu



O fis Ebrill 2024, codir premiwm o 100% arnoch os oes gennych ail gartref, neu eiddo wedi'i ddodrefnu nad yw'n breswylfa i neb. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i chi dalu 200% o'r dreth gyngor.

Mae rhai eiddo wedi'u heithrio o'r tâl premiwm hwn a dim ond swm safonol y dreth gyngor y codir tâl arnynt. Mae'r rhain yn:

  • eiddo sydd ar werth neu ar osod (am hyd at 12 mis yn unig)
  • anecs sy'n rhan o'ch prif eiddo, 
  • eiddo a fyddai'n brif breswylfa i chi pe na baech yn byw yn llety'r lluoedd arfog,
  • os yw eich eiddo yn garafán ar lain o dir neu gwch gydag angorfa,
  • artref tymhorol na allwch fyw ynddo drwy gydol y flwyddyn, neu
  • eiddo sy'n gysylltiedig â swydd.
 
Mae yna hefyd rai mathau o ail gartrefi ac eiddo wedi'u dodrefnu nad ydynt yn breswylfa neb sy'n gymwys i gael gostyngiad treth gyngor​.​

Eiddo gwag ac heb ei ddodrefnu​

Os yw eiddo wedi bod yn wag ac yn sylweddol heb ei ddodrefnu am fwy na 12 mis, codir tâl premiwm o 100% yn ychwanegol at y dreth gyngor safonol.

O 1 Ebrill 2024, codir premiwm o 200% ar eiddo sydd wedi bod yn wag a heb ei ddodrefnu i raddau helaeth ers 2 flynedd. Codir premiwm o 300% ar eiddo sydd wedi bod yn wag am fwy na 3 blynedd.​

Y ffioedd ar gyfer eiddo sydd heb eu meddiannu yn yr hirymdor fydd:

  • 200% ar eiddo sydd wedi bod yn wag am fwy na blwyddyn (tâl treth gyngor safonol o 100% a thâl premiwm o 100%)
  • 300% ar eiddo sydd wedi bod yn wag am fwy na 2 flynedd (tâl treth gyngor safonol o 100% a thâl premiwm o 200%)
  • 400% ar eiddo sydd wedi bod yn wag am fwy na 3 flynedd (tâl treth gyngor safonol o 100% a thâl premiwm o 300%)


​​


Mae rhai mathau o eiddo wedi’u heithrio rhag y tâl premiwm, megis:

  • eiddo sydd ar werth neu ar osod (am hyd at 12 mis yn unig),
  • anecs sy'n rhan o'ch prif eiddo, neu
  • eiddo a fyddai'n brif breswylfa i chi pe na baech yn byw yn llety'r lluoedd arfog.

Os yw eich eiddo wedi'i eithrio o'r ffi premiwm, dim ond y swm safonol o dreth gyngor y byddwch yn ei dalu.  Pan fydd yr eithriad yn dod i ben, codir premiwm arnoch.

Sut i wneud cais am warhaddiad

​​


Gallwch wneud cais i gael eich eithrio rhag talu premiymau ar: 

  • eiddo sydd heb ei feddiannu am gyfnod hir neu, 
  • eiddo wedi'i ddodrefnu nad yw'n breswylfa i neb. 



E-bostiwch trethgyngor@caerdydd.gov.uk

Bydd angen i chi ddweud wrthym: 

  • eich rhif cyfrif Treth Gyngor,
  • cyfeiriad yr eiddo, 
  • ​​manylion pam rydych chi'n meddwl y dylai'r eithriad gael ei gymhwyso, a
  • eich cyfeiriad cartref presennol.​




Os yw'ch eiddo wedi bod yn wag ac yn sylweddol heb ei ddodrefnu am lai na 6 mis, efallai y gallwch hawlio eithriad llawn o'r tâl​.


Ar 1 Ebrill 2023, roedd 911 eiddo heb eu meddiannu ac heb eu dodrefnu i raddau helaeth am fwy na 12 mis. Codwyd premiwm ar 882 o'r eiddo hyn.

Ar gyfer y flwyddyn ariannol 20​​22 i 2023, casglwyd cyfanswm o £483,478.58 o daliadau premiwm am eiddo hirdymor heb eu meddiannu.

Mae'r premiymau rydym wedi'u casglu yn cael eu defnyddio i fynd i'r afael â'r problemau a achosir gan eiddo sydd heb eu meddiannu'n hirdymor. Rydym hefyd wedi gallu dechrau gweithio ar fynd i'r afael â phroblemau tai eraill yng Nghaerdydd, megis darparu tai fforddiadwy.​

Tîm Datrysiadau Tai


Gyda'r cyllid o bremiymau treth gyngor, rydym wedi gallu rhoi mwy o swyddogion mewn Hybiau lleol.   Mae'r swyddogion hyn yn rhoi cymorth a chyngor ymarferol i atal pobl rhag bod angen ein gwasanaeth digartrefedd. 

Ers i ni ehangu'r tîm, rydym wedi rhoi cefnogaeth a chyngor i dros 400 o gwsmeriaid.  

Tîm Gwasanaeth Tenantiaid ac Ymholiadau Landlordiaid (LETS)

Gyda'r cyllid rydym wedi'i gasglu o bremiymau treth gyngor, rydym wedi gallu cyfuno ein Cynllun Prydlesu Llywodraeth Cymru â'n tîm Sector Rhentu Preifat (PRS), i greu un gwasanaeth hawdd.  

Rydym yn gweithio gyda landlordiaid preifat ledled Caerdydd i:  

  • sicrhau bod eu heiddo yn barod i'w gosod,
  • paru tenantiaid â thai addas, a
  • cofrestru eu heiddo gyda Rhentu Doeth Cymru.



Bydd hyn yn cynyddu nifer y tai sydd gennym ar draws Caerdydd a gall ddarparu tai i'r rhai sydd eu hangen. 

Ers mis Ebrill 2023, rydym wedi: 

  • cefnogi 155 o bobl mewn llety rhent preifat,
  • a cofrestru 62 eiddo i Gynllun Prydlesu Llywodraeth Cymru (roedd 21 o'r cartrefi hyn yn wag yn wreiddiol). ​



Gorfodi tai 


Mae'r premiymau treth gyngor rydym wedi'u casglu wedi ein galluogi i weithio gyda pherchnogion eiddo gwag i'w defnyddio unwaith eto.  

Hyd yn hyn, rydym wedi gallu: 

  • dod ag 84 eiddo yn ôl i ddefnydd rhwng 2021 a 2022,
  • dod â 95 eiddo yn ôl i ddefnydd rhwng 2022 a 2023, a
  • adnewyddu a meddiannu 2 eiddo drwy Orchymyn Prynu Gorfodol. 


Gyda'r cynnydd mewn taliadau premiwm o fis Ebrill 2024, ein nod yw dod â 100 eiddo nôl i ddefnydd o fewn y flwyddyn ariannol.



​​




​​​​​

© 2022 Cyngor Caerdydd