Gall gwirfoddoli wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.
Ein nod yw eich helpu i ddod o hyd i’ch cyfle gwirfoddoli delfrydol a gwireddu eich potensial.
Rydym ni’n awyddus i wirfoddolwyr ymuno â phob un o’r gwasanaethau canlynol:
-
Tŷ Greenfarm (Hostel Teuluol)
-
Tŷ Tresillian (Hostel Person Unigol)
-
Gwasanaethau Teithwyr Sipsiwn
-
Adams Court (llety dros dro i deuluoedd/pobl unigol)
-
Y Gwasanaeth Allgymorth
Ar ôl cynefino byddwch yn cael trafodaeth am ba wasanaeth a fyddai fwyaf addas ar eich cyfer chi gyda’r Cydlynydd Gwirfoddolwyr.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â’n gwasanaeth fel gwirfoddolwr, cysylltwch â ni drwy e-bostio Greenfarmhostel@caerdydd.gov.uk neu ffonio 029 2087 3141.
Mae’r Project Bws yn darparu gwasanaethau bum diwrnod o’r wythnos, 52 wythnos y flwyddyn, mewn bws deulawr sydd wedi’i addasu’n bwrpasol.
Gyda swyddfa ac ystafell feddygol, mae modd i bobl sy’n cysgu ar y stryd gael gafael ar wasanaethau gofal a chymorth brys.
Mae’r gwasanaeth hefyd yn cynnig bwyd a diodydd poeth, ac yn gweithredu fel cysgod i bobl pan fo tywydd garw.
Dysgwch sut gallwch chi gefnogi gwaith Byddin yr IachawdwriaethDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd.Mae’r tîm yn cynnig cymorth, cefnogaeth a chyngor i bobl sy’n cysgu ar y stryd neu sy’n byw mewn cartref sy’n eu gwneud yn agored i niwed yng Nghaerdydd.
Mae staff profiadol yn cefnogi cleientiaid drwy gynnig y cymorth canlynol:
-
brecwast,
-
diodydd poeth,
-
sachau cysgu,
-
dillad cynnes,
-
deunyddiau ymolchi, a
-
helpu i ddod o hyd i ddarpariaeth leol bellach drwy gydol y dydd a nos.
Mae’r Tîm hefyd yn cynnig amrywiaeth eang o gyngor ac yn galluogi pobl i gael gafael ar y gwasanaethau mwyaf priodol, perthnasol ac arbenigol gan gynnwys cyngor ar dai, atgyfeiriadau i lety â chymorth, cyngor ar fudd-daliadau, atgyfeiriadau i bob math o ofal iechyd ac atgyfeiriadau i ganolfannau camddefnyddio sylweddau.
Dysgwch sut gallwch chi gefnogi
Tîm The WallichDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd.
Mae’r ganolfan hon yng nghanol y ddinas ar agor bob dydd o’r flwyddyn yn cynnig cymorth, cyngor a datblygiad arbenigol.
Mae Huggard yn cynnig:
-
prydau am ddim a chost isel,
-
dillad am ddim,
-
cyfleusterau golchi dillad a
-
hylendid personol.
Mae’r ganolfan yn bodoli i roi cymorth hanfodol i bobl ddigartref ac yn rhoi’r cyfle i ymgysylltu â nhw mewn amgylchedd cyfeillgar a chynnes, er mwyn eu helpu i ddod o hyd i lety parhaol.
Dysgu fwy am wasanaethau HuggardDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd a sut y gallwch chi helpu.
Ymgyrch codi arian yw CAERedigrwydd sy’n cyfuno elusennau digartrefedd sydd eisoes wedi’u sefydlu ledled Caerdydd. Mae’n cynnig cronfa amgen i helpu’r elusennau digartrefedd dan sylw i gefnogi’r bobl y maen nhw’n gweithio gyda nhw drwy grantiau bach.
Gallwch gyfrannu unrhyw adeg o’r dydd neu nos drwy decstio DIFF20 ac yna’r swm yr ydych am ei gyfrannu i 70070.
Mae’n bosib y codir tâl arnoch am eich neges. Cyfeiriwch at gyfraddau safonol gweithredwr eich rhwydwaith.
Caiff eich cyfraniad ei roi i unigolion i gynnig y gefnogaeth briodol ar yr adeg briodol.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan FOR CardiffDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd