Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Project Partneriaeth Tai (PPT)

​​Mae Cyngor Caerdydd wedi gweithredu rhaglen ddatblygu gyffrous ac uchelgeisiol fydd yn darparu dros 4,000 o gartrefi newydd yn y tymor hwy ar draws y ddinas. Bydd o leiaf 2,800 o'r cartrefi newydd yn gartrefi cyngor. 

Mae ein rhaglen benigamp ni yn un o’r rhaglenni adeiladu tai cyngor mwyaf yng Nghymru ar hyn o bryd, a bydd tua £950m yn cael ei fuddsoddi yn y gwaith o adeiladu tai fforddiadwy ar raddfa ac yn gyflym. 

Bydd ein rhaglen yn adeiladu ystod eang o gartrefi newydd ar gyfer pob math o drigolion, gan sicrhau ein bod yn dechrau 'llenwi'r bylchau' ac yn mynd i'r afael â'r angen am dai. Byddwn yn darparu cartrefi y mae mawr eu hangen yn yr ardaloedd cywir yn agos at wasanaethau a chyfleusterau. Rydym yn gwneud hyn er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r heriau penodol iawn sy'n ein hwynebu yn y ddinas. 

Rhaid i'n holl ddatblygiadau newydd gydymffurfio â Gofynion Ansawdd Datblygu 2021: Creu Cartrefi a Lleoedd Hardd Llywodraeth Cymru. Rydyn ni’n rhannu'r weledigaeth ar gyfer adeiladu cartrefi cynaliadwy ac addasadwy o ansawdd uchel a chreu mannau awyr agored deniadol drwy greu lleoedd rhagorol. 

Rydyn ni hefyd yn cynnig cartrefi sydd ar werth i brynwyr tro cyntaf trwy ein Cynllun Cartrefi Cyntaf Caerdydd​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd, ar sawl un o'n safleoedd blaenllaw, yn ogystal ar safleoedd datblygu eraill ar draws Caerdydd gyfan a adeiladwyd gan adeiladwyr tai eraill. Rhaid i brynwyr fod yn brynwyr tro cyntaf a byw a/neu weithio yng Nghaerdydd i fod yn gymwys, a bydd fel arfer yn prynu cyfran ecwiti o 70% o’r eiddo.

I ddysgu mwy am y rhaglen ddatblygu ac am y cartrefi newydd rydyn ni’n eu hadeiladu ar gyfer prynwyr tro cyntaf, ewch i wefan Datblygu ac Adfywio​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd​​​.
​​ ​
 
​​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd