Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Lesddeiliaid

​​​​​​​​Os ydych chi wedi prynu eiddo ar brydles (naill ai o dan gynllun “Hawl i brynu" y Llywodraeth neu gan lesddeiliad presennol) prynoch chi brydles yr eiddo hynny gan y Cyngor.

Mae prydles yn gontract cyfreithiol-rwym rhwng Landlord (yn yr achos hwn y Cyngor) a lesddeiliaid, sy’n rhoi hawl i’r lesddeiliad feddiannu’r eiddo am gyfnod amser penodol. Cyn i chi brynu’r eiddo, dylai eich cyfreithiwr fod wedi esbonio eich prydles yn llawn fel eich bod yn deall eich cyfrifoldebau fel lesddeiliad, a chyfrifoldebau’r Cyngor fel Landlord. Dylai eich cyfreithiwr fod wedi darparu copi o'r brydles i chi ar y pryd.

Yn wahanol i brynu eiddo rhydd-ddaliadol, fel lesddeiliad, nid ydych yn berchen ar  strwythur yr adeilad (e.e. y waliau allanol, ffenestri, y to, mannau cymunedol) neu’r tir y mae’n sefyll arno. Bydd y rhain yn parhau o dan berchnogaeth y Cyngor (fel landlord) ac mae’r Cyngor yn gyfrifol am atgyweirio a chynnal a chadw’r mannau hyn.

Codir arnoch chi am eich rhan o unrhyw atgyweiriadau a chynnal a chadw a wnaed ar y mannau hyn, yn ogystal ag yswiriant adeiladau a ffi rheoli, drwy dâl gwasanaeth blynyddol. 

Os bydd gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’r Tîm Lesddeiliad ar 029 2053 7150 neu drwy e-bostio ​leaseholdrtb@caerdydd.gov.uk​

Gallwch hefyd ysgrifennu at y Tîm Lesddeiliad yn y cyfeiriad canlynol:-

Cyngor Caerdydd 
Tîm Lesddeiliad 
Blwch SP 6000
Caerdydd
CF11 0WZ 

 
Telir taliadau am wasanaeth i'r Cyngor er mwyn talu am eich rhan o gost atgyweirio, cynnal a chadw a gwella'r mannau cymunedol  a ffabrig a strwythur allanol yr adeilad; yswiriant i'r adeiladau a gwasanaethau i'r eiddo.

Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb i gynnal a chadw ei adeiladau er budd tenantiaid a lesddeiliaid.
 Mae cynnal a chadw yn cynnwys gwasanaeth cynnal a chadw ymatebol a chynlluniau a gynlluniwyd sy’n helpu ymestyn oes yr eiddo ac fe’u croesewir gan denantiaid a lesddeiliaid. Nid oes unrhyw faint elw yn cael ei ychwanegu at unrhyw waith a wneir gan y Cyngor a dim ond costau gwirioneddol a gaiff eu pasio ymlaen i'r lesddeiliad o dan delerau’r brydles.


Mae taliadau am wasanaethau ar gyfer lesddeiliad yn amrywio bob blwyddyn a chânt eu pennu gan y gwaith a'r gwasanaeth a wneir.
Nid yw’n anarferol i fil taliad am wasanaethau fod yn uwch o’i gymharu â blwyddyn flaenorol.

Mae eich bil tâl gwasanaeth blynyddol yn daladwy ar alwad o dan delerau eich prydles o fewn 30 diwrnod.
Fodd bynnag, fel arfer bydd Cyngor Caerdydd yn caniatáu ad-daliadau trwy randaliadau misol i’w clirio erbyn diwedd y flwyddyn ariannol (31 Mawrth).

Mae’n bosibl y bydd eich bil tâl gwasanaeth yn cynnwys rhai o'r canlynol neu rai ohonynt:

  • Glanhau a Gofalu
  • Atgyweiriadau/ Cynnal a Chadw
  • Cynnal a Chadw’r Tiroedd
  • Yswiriant Adeiladau
  • Gwres
  • Gofalwr
  • Trydan Cymunedol
  • Ffi Rheoli



Gellir talu â cherdyn credyd neu ddebyd gan ddefnyddio’n gwasanaeth awtomatig ar 029 2044 5900. 

Sicrhewch fod eich rhif cyfrif wrth law gennych. ​
Mae’n bosibl y bydd lesddeiliaid sy’n cael trafferth i ddal i fyny gyda thaliadau ar gyfer naill ai eu tâl gwasanaeth blynyddol neu eu morgais yn gallu gwneud cais am gymorth gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. 

Enw’r cymorth hwn yw Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais (CLlF). Fodd bynnag, mae'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer CLlF yn llym ac mae'r cymorth sydd ar gael yn gyfyngedig.  

Er mwyn bod yn gymwys, mae’n rhaid eich bod yn derbyn un o'r canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm) 
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn perthyn i incwm)
  • Credyd Cynhwysol (oni bai eich bod chi neu eich partner yn derbyn incwm a enillir) 
  • Credyd Pensiwn (Credyd Gwarant) 

Os byddwch yn gwneud cais am unrhyw un o'r budd-daliadau hyn ar neu ar ôl 7 Gorffennaf 2017, ni fyddwch yn gallu cael budd-dal CLlF ond gallwch gael benthyciad CLlF yn lle hynny.

Er mwyn hawlio CLlF, ewch i'ch Canolfan Waith leol neu ffoniwch 0345 604 3719. 
Dylai cwsmeriaid Credyd Cynhwysol ffonio 0345 600 0723. 
Dylai cwsmeriaid Credyd Pensiwn ffonio’r Gwasanaeth Pensiynau ar 0345 606 0265. 

Bydd angen copi o’ch bil Tâl Gwasanaeth Blynyddol arnoch er mwyn gwneud cais. I gael copi, ffoniwch Dîm Lesddeiliad Cyngor Caerdydd ar 029 2053 7150. 

Cofiwch: 
Bydd y budd-dal CLlF yn dod i ben ar 5 Ebrill 2018, a bydd benthyciad yn cymryd ei le.

Mae’r benthyciad yn cynnig yr un gefnogaeth i dalu'r llog ar eich morgais. Fodd bynnag, bydd angen i chi ad-dalu'r benthyciad gyda llog pan fyddwch yn gwerthu neu’n trosglwyddo perchnogaeth eich cartref.
I gael mwy o gyngor, ewch i www.gov.uk/support-for-mortgage-interest​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd
Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb i gynnal a chadw ei adeiladau er budd tenantiaid a lesddeiliaid. Mae cynnal a chadw yn cynnwys gwasanaeth cynnal a chadw ymatebol a chynlluniau a gynlluniwyd sy’n helpu ymestyn oes yr eiddo ac fe’u croesewir gan denantiaid a lesddeiliaid.

Nid oes unrhyw faint elw yn cael ei ychwanegu at unrhyw waith a wneir gan y Cyngor a dim ond costau gwirioneddol a gaiff eu pasio ymlaen i'r lesddeiliaid o dan delerau’r brydles.  

Gallwch weld gwybodaeth am unrhyw waith cynnal a chadw arfaethedig ar Wefan Tenantiaid Caerdydd​​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd​ ​ar gyfer tenantiaid a lesddeiliaid y Cyngor. Byddwn yn defnyddio’r man hwn i roi'r newyddion a'r newidiadau diweddaraf ac i roi gwybod i chi am ddigwyddiadau a sut y gallwch gymryd rhan.

Cofrestrwch heddiw a gallwch ddweud eich dweud trwy gymryd rhan mewn polau ac arolygon barn ar faterion megis atgyweiriadau a thaliadau am wasanaethau. Trwy gofrestru gallwn ni sicrhau eich bod yn cael y newyddion diweddaraf am ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn eich ardal chi a’r newidiadau a fydd yn effeithio arnoch chi.
Mae Cyngor Caerdydd yn cynnig yswiriant ar gynnwys y cartref ​i bob tenant a lesddeiliad ar raddfa cost isel arbennig. Mae’r yswiriant hwn yn diogelu y rhan fwyaf o nwyddau’r cartref ac eiddo personol yn eich cartref. Mae manylion llawn o'r polisi ar gael ar gais.

Os oes diddordeb gyda chi mewn derbyn y cynnig hwn, cysylltwch â Rheolaeth Cyllid ar 029 2053 7382
.

​​Gwasanaeth​​Rhif ffôn
​Llinell Dalu Awtomatig​
​029 2044 5900
​Rhoi gwybod am waith trwsio i Cysylltu â Chaerdydd

​029 2087 2087
​Tîm Prydlesu ​029 2053 7150
​Tîm Gorfodi Dyledion ​029 2053 7500
​Estyniadau Prydles ​029 2087 3411
​Rhent Tir ​029 2053 7150
​Yswiriant Adeiladau ​029 2087 2239
​Adran Parciau ​029 2044 5929
​Tîm Rheoli Tenantiaid ​029 2053 7501
​Tîm Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ​029 2053 7199
​Rheoli Plâu ​029 2087 2934
​Adran Gwaith a Phensiynau ​0345 604 3719
​Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru​ ​03000 252 777​

​​​​​​​

Cyngor i Lesddeiliaid

I gael cyngor i lesddeiliaid gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori Lesddeiliaid. Gellir gwneud apwyntiadau trwy eu gwefan www.lease-advice.org/​​​​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd

Hefyd gallwch chi gysylltu â Chyngor Caerdydd ac asiantaethau eraill drwy ymweld ag un o'r hybiau lleol ​ledled y Ddinas, lle y gall cwsmeriaid gael mynediad at wasanaethau'n gynt ac yn gyfleus.



Rhoi gwybod am waith atgyweirio​

Mae'r Cyngor yn gyfrifol am gynnal a chadw adeiladwaith cyffredinol eich eiddo. Os oes gennych fater cynnal a chadw y credwch y dylid ei atgyweirio gan y cyngor, rhowch wybod i ni.

​​Rhoi gwybod am rywbeth

​​​​​
​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd