Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Talu eich rhent

​Mae eich tenantiaeth yn un wythnosol o ddydd Llun i ddydd Sul bob wythnos. Mae rhent yn daladwy ar ddydd Llun bob wythnos, neu ran o wythnos, pan fyddwch yn meddiannu eich cartref.

Hent ydw i’n ei dalu?

Bydd eich cytundeb tenantiaeth yn cadarnhau swm y rhent sy’n daladwy bob dydd Llun ar gyfer eich eiddo. Mae’n bosibl y byddwch am hawlio Budd-dal Tai a allai leihau faint o rent y bydd yn rhaid i chi ei dalu.

Talu'ch rhent ar-lein


Defnyddiwch ein system talu ar-lein ddiogel i dalu’ch rhent ar-lein.  

Sicrhewch fod gennych rhif eich cyfrif wrth law. Mae'r rhif hwn yn 8 digid o hyd wedi'u dilyn gan lythyren.​ 

 

 


Sweipgerdyn 

Anfonir sweipgerdyn atoch pan fydd eich tenantiaeth yn dechrau. Gall gymryd hyd at 10 diwrnod gwaith i’ch cyrraedd.  Gallwch ddefnyddio eich sweipgerdyn i dalu rhent yn Swyddfa’r Post.  Os ydych yn dewis y dull talu hwn bydd angen i chi dalu erbyn bore dydd Mercher er mwyn i’ch taliad gyrraedd eich cyfrif rhent mewn pryd. 

Gallwch ddefnyddio eich sweipgerdyn i dalu mewn mannau PayPoint mewn siopau a garejys hefyd. Fodd bynnag, gall y taliadau hyn gymryd hyd at bythefnos i gyrraedd eich cyfrif rhent.  


Dros y ffôn 

System Dalu Awtomataidd – ffoniwch 029 2044 5900​​. Bydd angen eich rhif cyfrif arnoch. Gellir talu â cherdyn debyd neu gredyd.


Archeb Sefydlog 

Gallwch gael ffurflen Archeb Sefydlog gan eich Swyddog Cyllid. Ffoniwch 029 2053 7350.  


Drwy’r Post 

Gellir anfon sieciau i Dîm Cyllid Cyngor Caerdydd, Blwch SP 6000, Caerdydd, CF11 0WZ. Sicrhewch eich bod yn nodi rhif y cyfrif rhent ar gefn y siec. Peidiwch ag anfon arian parod drwy’r post.

 

Ôl-ddyledion Rhent Cyn-denantiaid

 

Os ydych wedi symud heb dalu'r rhent dyledus,  gelwir hyn yn ôl-ddyledion cyn-denant. Os oes rhent heb ei dalu, rhaid i chi ei dalu hyd yn oed os nad ydych yn byw yn yr eiddo bellach.

 

Sicrhewch fod gennych rhif cyfrif rhent tenant blaenorol wrth law. Mae'r rhif hwn yn 8 digid o hyd wedi'u dilyn gan lythyren.

 

​​
© 2022 Cyngor Caerdydd