Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Problemau diogelwch tân wedi’u darganfod ar ôl i’r Cyngor gynnal gwiriadau ychwanegol ar gladin blociau fflatiau uchel

Mae gwiriadau ychwanegol a gynhaliwyd yn 2018 ar ein flociau fflatiau uchel wedi datgelu nad yw’r systemau cladin ar chwe adeilad yn bodloni’r safonau diogelwch tân cyfredol, er i bob un o’r chwech basio gwiriad diogelwch yn sgil tân Grenfell.

 

Yn dilyn y tân trychinebus yn Nhŵr Grenfell yn Llundain yn 2017, adolygodd y Cyngor ddiogelwch tân ym mhob un o’i flociau fflatiau uchel ar draws y ddinas, gan gynnwys archwiliadau gan ymgynghorwyr allanol ar gladin i weld a oedd Deunyddiau Cyfansawdd Alwminiwm (DCA) ar gael yn unrhyw un o’r blociau. Dangosodd y canlyniadau nad oedd unrhyw DCA yn y cladin.


Darllenwch ein datganiad i’r wasg am gladin ar flociau fflatiau uchel (477kb PDF)​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd

Cladin Blociau Fflatiau Uchel – Ateb Eich Cwestiynau

Yn sgil y tân trychinebus yn Nhŵr Grenfell y llynedd, mae’r Cyngor wedi bod yn adolygu diogelwch tân ym mhob un o’i flociau fflatiau uchel. Yn ôl y profion cychwynnol a gynhaliwyd, ni chanfuwyd unrhyw Ddeunyddiau Cyfansawdd Alwminiwm (DCA) - y deunydd a ddefnyddiwyd yn Nhŵr Grenfell. 


 


Fodd bynnag, i sicrhau nad oedd unrhyw broblemau eraill gyda’r cladin ac yn unol ag argymhellion annibynnol, penderfynodd y Cyngor gynnal rhagor o brofion ar y cladin ar ei flociau fflatiau.


 


Er bod y cladin a osodwyd yn y 1990au ar chwe bloc yn bodloni’r rheoliadau ar y pryd, dengys canlyniadau’r gwiriadau ychwanegol hyn nad yw’r cladin yn bodloni’r safonau diogelwch tân llym sydd gennym heddiw.

Nid yw’r cladin wedi’i wneud o DCA (Deunydd Cyfansawdd Alwminiwm) ac felly mae’n gwbl wahanol i’r cladin a osodwyd yn Grenfell.


 

Mae’r cladin yn cynnwys paneli sgrîn law pren caled ffibrog ag argaen a gwlân ynysu at ddiben inswleiddio.  Er nad yw’r deunydd inswleiddio yn llosgadwy, mae’r paneli wedi cael eu trin â chemegau sy’n golygu nad ydynt yn bodloni safonau hylosgedd cyfredol. 


 

Gwerth cyfartalog y cladin o’n blociau a brofwyd yw 17.5 MJ/kg. Mae hyn yn golygu swm y gwres a ryddheir wrth i swm penodol o’r deunydd losgi. Y gwerth yn achos Grenfell oedd 45MJ/kg a’r gwerth pasio yw 3MJ/kg. 


 

Mae ein gwiriadau hefyd wedi datgelu nad oes unrhyw rwystrau tân wedi’u gosod o fewn y system gladin ar y tu allan i’r adeiladau dan sylw. Er nad oedd hyn yn ofynnol yn ôl y rheoliadau ar y pryd, mae’r safonau heddiw yn llawer uwch ac rydym yn cymryd hyn i ystyriaeth.

Y blociau yr effeithir arnynt yw Fflatiau Lydstep, Ystum Taf (3 bloc), Loudoun a Nelson House, Butetown, a Trem y Môr, Grangetown.

Cafodd pob un o flociau fflatiau uchel y Cyngor eu harchwilio ym mis Mehefin 2017 yn syth ar ôl trychineb Grenfell. Cyngor Llywodraeth Cymru ar y pryd oedd mai dim ond cladin DCA yr oedd angen ei brofi.  Ni chanfuwyd DCA mewn unrhyw flociau o eiddo’r Cyngor. 


 

Nid oedd modd profi unrhyw gladin arall yn y ganolfan brofi ddynodedig ar yr adeg honno ond gan fod Cyngor Caerdydd yn awyddus i sicrhau nad oedd problemau eraill gyda’r cladin, comisiynwyd rhagor o wiriadau’n breifat. Roedd hyn yn gofyn am fanyleb y gwaith a chaffael contractwr.


 

Derbyniwyd holl ganlyniadau’r profion gennym ym mis Mawrth 2018.

Cyn gynted ag yr oeddem yn ymwybodol o ganlyniadau’r profion ac ar ôl cael cyngor gan y gwasanaeth tân, rhoddwyd mesurau diogelwch ychwanegol ar waith gan gynnwys patrolau wardeniaid tân 24 awr y dydd a rhagor o fonitro gan system teledu cylch cyfyng. 


 

Mae’n debygol y bydd angen tynnu’r cladin oddi ar yr holl flociau dan sylw ac rydym wrthi ar hyn o bryd yn ystyried yr opsiynau sydd ar gael i gwblhau’r gwaith hwn yn gyflym ac yn effeithiol.

Mae diogelwch tân yn hollbwysig i’r Cyngor ac mae gan ein gwasanaeth tai dîm dynodedig sydd wedi’u hyfforddi’n drwyadl ynghylch materion diogelwch tân. Cynhelir asesiadau risg tân ar bob bloc fflatiau uchel yn flynyddol a chânt eu hadolygu gan staff cymwys bob chwe mis.  

Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i sicrhau ein bod ni’n dilyn y canllawiau diogelwch tân diweddaraf.


 

Mae synwyryddion mwg wedi’u gosod ym mhob fflat ac mae’r rhain yn cael eu gwirio bob blwyddyn yn ogystal â chyfarpar nwy.


 

Mae’r Cyngor wrthi’n adnewyddu drysau tân ym mhob un o’i flociau fflatiau uchel a bydd gwaith i osod drysau tân 60 munud wedi’i gwblhau ym mis Mai. Hefyd bwriedir gosod system taenellu dŵr ym mhob bloc fflatiau uchel.

Nac ydy. Ar ôl trychineb Grenfell, penderfynodd y Cyngor osod drysau tân newydd ym mhob un o’i flociau fflatiau uchel a bydd ganddynt fanyleb drws uwch i gynyddu eu heffeithiolrwydd i 60 munud yn hytrach na’r 30 munud blaenorol. Mae’r gwaith gosod drysau tân newydd wedi dechrau a chaiff ei gwblhau ym mis Mai.

Mae pob un o’n blociau fflatiau uchel wedi’i adeiladu i wrthsefyll tân a gallu dal tân o fewn y fflat unigol lle mae’n dechrau. Cynhelir gwiriadau helaeth bob tro mae ein fflatiau uchel yn dod yn wag i sicrhau bod yr adraniad rhwng fflatiau’n addas ac yn ddiogel i atal tân rhag ymledu rhwng fflatiau. Nid yw tanau sydd wedi dechrau yn ein blociau fflatiau o’r blaen wedi ymledu i fflatiau eraill.

Y canllawiau presennol ar gyfer preswylwyr os bydd tân yw ‘aros ble rydych chi’ oherwydd mai’r lle mwyaf diogel i breswylwyr yn ystod tân fel arfer yw eu cartref eu hunain, oni bai mai eu cartref nhw yw’r un mae’r tân yn effeithio’n uniongyrchol arno.  Fodd bynnag, rydym wedi comisiynu asesiad risg tân annibynnol ac ar ôl i ni gael canlyniadau’r asesiad hwnnw, byddwn yn hysbysu preswylwyr os oes newid i’r polisi presennol. Rydym yn disgwyl cael y canlyniadau cyn bo hir.

Rydym yn cynnal sesiynau gwybodaeth rheolaidd ar gyfer preswylwyr ym mhob bloc fflatiau uchel dan sylw. Byddwn yn rhoi gwybod ichi pryd y bwriedir cynnal y sesiynau hyn.​



© 2022 Cyngor Caerdydd