Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Mynediad cerbydau i Ganolfannau Ailgylchu

​​​​​​​​​​​Mae'n bwysig eich bod yn dweud wrthym pa gerbyd y byddwch yn ei gyflwyno pan fyddwch yn ymweld â chanolfan ailgylchu.
 ​​​​​​​​​​​​​​​
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pa gerbydau y gallwch ddod â nhw i ganolfan ailgylchu.

Mae cyfyngiadau cerbydau yn seiliedig ar:

  • swm posibl y gwastraff y gallwch ei ffitio yn y cerbyd,
  • defnydd posibl o'r cerbyd er enghraifft defnydd busnes, a
  • chyfyngiadau uchder a phwysau yn ein canolfannau.



​​
Gallwch ddod â faniau a cheir i’r ganolfan ailgylchu.

Faniau y gallwch ddod â nhw i Clos Bessemer


Mae'r mathau canlynol o gerbydau yn cael eu dosbarthu fel faniau hyd yn oed os mai nhw yw unig ffurf eich cartref ar drafnidiaeth, ac fe'u defnyddir at ddefnydd domestig yn unig.

  • Faniau bach i ganolig neu faniau gwersylla nad ydynt yn fwy na 6m o hyd neu 2.85m o uchder
  • Cerbydau gyda chefn agored (wedi'i orchuddio neu heb ei orchuddio)
  • Faniau Combi
  • Ceir heb ffenestri cefn na ffenestri cefn wedi'u duo allan


Ceir y gallwch ddod â nhw i Clos Bessemer


  • Ceir safonol - rhaid cael ffenestri cefn. Dim trelars ynghlwm
  • SUVs heb gefn agored
  • Ceir mawr - uchafswm o 7 sedd, gyda dim ond y rhes olaf o seddi wedi'u plygu
  • Unrhyw gerbyd wedi'i addasu i anabledd o fewn terfynau maint a phwysau’r safle


Dim ond i Glos Bessemer y gallwch fynd â cheir â threlars. Ni all trelars fod yn fwy na 2m x 2m.

Gallwch ddod â faniau a cheir i’r ganolfan ailgylchu.

Faniau y gallwch ddod â nhw i Ffordd Lamby


Mae'r mathau canlynol o gerbydau yn cael eu dosbarthu fel faniau hyd yn oed os mai nhw yw unig ffurf eich cartref ar drafnidiaeth, ac fe'u defnyddir at ddefnydd domestig yn unig.

  • Faniau bach neu faniau gwersylla nad ydynt yn fwy na 6m o hyd neu 2.85m o uchder
  • Cerbydau gyda chefn agored (wedi'i orchuddio neu heb ei orchuddio)
  • Faniau Combi
  • Ceir heb ffenestri cefn na ffenestri cefn wedi'u duo allan


Ceir y gallwch ddod â nhw i Ffordd Lamby


  • Ceir safonol - rhaid cael ffenestri cefn. Dim trelars ynghlwm
  • SUVs heb gefn agored
  • Ceir mawr - uchafswm o 7 sedd, gyda dim ond y rhes olaf o seddi wedi'u plygu
  • Unrhyw gerbyd wedi'i addasu i anabledd o fewn terfynau maint a phwysau’r safle


Nid yw trelars yn cael eu derbyn yn Ffordd Lamby.



Ni chaniateir y cerbydau hyn ar y safle yn ein canolfannau ailgylchu:

  • Faniau sy’n mynd dros gyfyngiadau maint y safle
  • Unrhyw gerbyd sy'n fwy na 3.5t
  • Cerbydau ag arwyddion wedi’u hysgrifennu neu fasnachol
  • Cerbydau lori codi neu flwch


Os ydych yn fusnes defnyddiwch ein canolfan ailgylchu fasnachol​.
 

© 2022 Cyngor Caerdydd