Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Tipio Anghyfreithlon

​​​​​Mae tipio anghyfreithlon yn golygu dympio eitemau’n anghyfreithlon wrth ymyl ffordd, mewn caeau, mewn afonydd neu ar dir preifat heb ganiatâd. Gall arwain at gosb o hyd at £50,000. ​

 
Gallai eitemau gynnwys:
 
  • Nwyddau trydanol,
  • dodrefn,
  • gwastraff adeiladu,
  • cemegion,
  • gwastraff cartref neu fasnachol.

Nid ydym yn caniatáu tipio anghyfreithlon gan neb o gwbl. Mae ein tîm gorfodi gwastraff yn ymchwilio i bob adroddiad o dipio anghyfreithlon i geisio canfod y bobl hynny sy’n gyfrifol.
 
Mae tipio unrhyw ddeunydd yn drosedd dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Gall arwain at gosb o hyd at £50,000. Neu am droseddau difrifol iawn gallech chi dderbyn dirwy a chael eich carcharu am hyd at bum mlynedd. Gall llys hefyd orchymyn i droseddwr dalu costau yr oedd yn rhaid i’r Cyngor eu talu er mwyn gwaredu’r gwastraff.
 
 
Os ydych yn berchennog ar dir preifat ac os yw pobl yn tipio’n anghyfreithlon ar eich tir, gall swyddogion gorfodi gwastraff helpu.
 
Rhaid i chi gael caniatâd i chwilio ac ymchwilio i’r gwastraff ar eich rhan. Gallwn ni hefyd drefnu i waredu’r gwastraff, ond mae’n bosibl y codir tâl arnoch chi.

Gall y tîm hefyd roi cyngor i chi ar sut i gymryd camau i osgoi digwyddiadau ailadroddus o dipio anghyfreithlon.

Rhoi gwybod am dipio anghyfreithlon

​​​
​ ​​
Llwytho Ffurflen Tipio Anghyfreithlon...
© 2022 Cyngor Caerdydd