Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cyfrifoldebau busnesau

​Gall methu â chyflwyno dogfennau pan ofynnir amdanynt arwain at Hysbysiad Cosb Benodedig o £300 neu erlyniad y mae’r ddirwy uchaf o £5000 yn gysylltiedig ag ef. £50,000 neu bum mlynedd yn y carchar yw’r ddirwy uchaf am dympio gwastraff yn anghyfreithlon. ​
Os rhedwch busnes yng Nghaerdydd, mae arnoch chi gyfrifoldeb a dyletswydd gyfreithiol o ofal i sicrhau bod eich gwastraff a’ch ailgylchu yn cael eu storio a’u gwaredu yn y ffordd gywir. Gall ein tîm casglu gwastraff masnach eich helpu gyda hyn.

Rhaid i chi naill ai:

  • ​Trefnu contract gyda chwmni gwaredu gwastraff trwyddedig i sicrhau bod cynhwysydd storio iawn yn cael ei gyflenwi a bod eich gwastraff yn cael ei waredu’n gyfreithlon, a
  • Derbyn gwaith papur gan eich cwmni gwaredu gwastraff i ddangos bod eich gwastraff wedi’i waredu’n gyfreithlon. Rhaid i chi gadw’r gwaith papur hwn i Gyngor Caerdydd ei archwilio am o leiaf dwy flynedd am wastraff nad yw’n beryglus a 3 blynedd am wastraff sy’n beryglus. 



Dylech chi gynnal ffeil gyda’ch contract gwaredu gwastraff ac unrhyw dderbynebau (nodiadau trosglwyddo gwastraff) neu ffurflenni yr ydych yn eu derbyn gan gasglwyr gwastraff. Bydd hyn yn eich helpu wrth i ni wneud gwiriadau rheolaidd dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd


Neu



Gall methu â chyflwyno dogfennau pan ofynnir amdanynt arwain at Hysbysiad Cosb Benodedig o £300 neu erlyniad y mae’r ddirwy uchaf o £5000 yn gysylltiedig ag ef. £50,000 neu bum mlynedd yn y carchar yw’r ddirwy uchaf am dympio gwastraff yn anghyfreithlon. 

 

Hysbysiadau Adran 47

Gallai eich busnes dderbyn llythyr o’r enw Hysbysiad Adran 47. Dyma ddogfen gyfreithiol dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990​​​​​​. Ceir ar yr hysbysiad gyfarwyddiadau ffurfiol ar sut i storio, cyflwyno neu waredu ailgylchu a gwastraff busnes. Gallwn ni hefyd gyfarwyddo nifer a math y biniau neu fagiau y mae eu hangen, ynghyd â nifer y casgliadau y mae eu hangen.


Ceir ar yr hysbysiad gyfarwyddiadau ffurfiol ar sut i storio, cyflwyno neu waredu ailgylchu a gwastraff. 

Os dilynwch yr holl gyfarwyddiadau sydd ar yr hysbysiadau ni fydd camau gweithredu eraill. 

Os methwch â dilyn y cyfarwyddiadau ar yr hysbysiad, byddwch yn derbyn Hysbysiad Cosb Benodedig (HCB) o £100. 

Ni allwch herio Hysbysiad Cosb Benodedig gyda’r Cyngor. Os teimlwch na ddylech chi fod wedi derbyn yr hysbysiad, cewch gyfle i anghytuno trwy’r Llys Ynadon. 

Landlordiaid

Cyfrifoldeb y Landlord neu’r Asiantaeth Gosod Tai yw unrhyw wastraff a grëir yn rhan o wella, atgyweirio neu addasu eiddo rhent.


Mae hyn yn cynnwys gosodiadau wedi’u cyflenwi dan delerau’r brydles megis peiriannau golchi dillad, carpedi, ac ati sy’n wastraff yn y dyfodol gan eu bod wedi torri, neu nad oes eu hangen mwyach.


Ar ôl i denantiaeth ddod i ben, y landlord sy’n gyfrifol am waredu unrhyw wastraff sydd ar ôl. Sicrhewch eich bod yn glir wrth gyfathrebu â’ch tenantiaid y codir tâl arnynt os byddant yn gadael gwastraff yn yr eiddo y mae’n rhaid i chi ei waredu. 


Mae nifer o ffyrdd y gallwch waredu gwastraff, y mae’n rhaid i chi dalu amdanynt i gyd:



Cewch fwy o wybodaeth am eich cyfrifoldeb fel landlord yng Nghaerdydd.


Cyn i’ch tenantiaid symud i mewn, sicrhewch fod ganddynt:

  • fagiau ailgylchu, 
  • cadi gwastraff bwyd, a 
  • y biniau cywir yn eu heiddo. 

Gallwch gael gwybod a ddylai eiddo fod yn defnyddio biniau neu fagiau trwy roi’r cod post ar y dudalen pryd gaiff fy miniau eu casglu​


” ​​ ​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd