Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Baw cwn

​ Mae baw cŵn yn niwsans a gall fod yn risg i iechyd pobl.  

Os ydych yn berchennog ci, mae dyletswydd gyfreithiol arnoch i lanhau bob tro y mae eich ci’n baeddu mewn man cyhoeddus.  

Nid oes angen i chi roi baw cŵn mewn bin arbennig – gallwch ei roi mewn unrhyw fin sbwriel. Mae swyddogion gorfodi yn patrolio ledled y ddinas yn ddyddiol.

Gweld Rheolau Cŵn Arfaethedig​ i helpu i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn cysylltiad â chŵn.

Ymgyrch Gadewch Ond Olion Pawennau

Mae Gadewch Ond Olion Pawennau yn ffordd gyfeillgar, anymosodol o newid agweddau ac ymddygiad o ran baw cŵn.

Dirwyon Baw Cŵn

Gallech chi dderbyn Cosb Benodedig o £150 yn y fan a’r lle os gwelir nad ydych yn glanhau baw eich ci. Gall hyn godi i £1,000 os cyfeirir yr achos i’w erlyn mewn Llys Ynadon.  


Os ydych chi wedi cael Hysbysiad Cosb Benodedig gallwch dalu â cherdyn credyd neu ddebyd yn ddiogel ar-lein. Cyn i chi ddechrau bydd angen i sicrhau fod rhif eich Hysbysiad Cosb Benodedig wrth law gennych.





talu ar-lein


Mae gennych 14 diwrnod i dalu hysbysiad cosb benodedig. Os na fyddwch yn talu, gallem ni gymryd camau cyfreithiol pellach trwy’r Llys Ynadon.


Ni allwch herio Hysbysiad Cosb Benodedig gyda’r Cyngor. Os teimlwch na ddylech chi fod wedi derbyn yr hysbysiad, cewch gyfle i anghytuno trwy’r Llys Ynadon.


I helpu i atal baw cŵn rhag dod yn broblem: 


  • Peidiwch â gadael i’ch ci grwydro’r strydoedd hebddoch chi.
  • Sicrhewch fod gennych fag i roi baw eich ci ynddo bob amser.
  • Gwaredwch y bag mewn unrhyw fin sbwriel, neu ewch ag ef adref i’w roi yn eich bin olwynion du neu’ch bag streipiau coch.


Am fwy o wybodaeth am gŵn crwydr neu bryderon eraill, cysylltwch â’r Warden Cŵn ar 029 2071 1243.​

Rhowch wybod amdano

Rhowch wybod i ni am faw cŵn.


Llwytho...
Lawrlwythwch yr Ap Cardiff Gov a rhowch wybod am faw ci.Dysgwch fwy am yr App
​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd