Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Plau

​​​Rydym ni’n darparu gwasanaeth cynhwysfawr i drin amrywiaeth o blâu mewn adeiladau domestig a masnachol.

Gall plâu gludo heintiau, achosi niwed i adeiladau ac ni fyddant yn diflannu os na chânt eu trin, ond yn hytrach byddant yn gwaethygu. 

Mae gan bob un o’n technegwyr gymwysterau cydnabyddedig a phrofiad sylweddol o Reoli Plâu. 

Mae gennym nifer o gleientiaid domestig a masnachol. 

Rydym hefyd yn gosod trapiau yn system garthffosiaeth Caerdydd ar ran Dŵr Cymru i reoli nifer y llygod.

Y plâu yr ydym ni’n eu trin

Rydym yn cynnig gwasanaeth i ddelio ag achosion o’r canlynol:

  • Chwilod gwely
  • Chwilod duon
  • Chwain
  • Llygod
  • Llygod mawr
  • Cacwn


Mae’r gwasanaethau hyn ar gael i breswylwyr a busnesau. Bydd y costau’n amrywio fesul achos. Rydym hefyd yn cynnig contractau blynyddol er mwyn eich amddiffyn rhag plâu ar hyd y flwyddyn. 

Cymerwg olwg ar ein ffioedd rheoli plâu diweddaraf


Cynnig cyngor yn unig

Gyda rhai achosion o blâu nid ydym yn cynnig triniaeth, ond yn hytrach yn cynnig gwybodaeth a chyngor ar sut y gallwch ddelio â’r broblem eich hun.

  • Adar (heblaw am amnewid wyau gwylanod ar safleoedd masnachol)
  • Tyrchod daear
  • Pryfed nad ydynt yn achosi problemau iechyd y cyhoedd
  • Gwenyn

Rhoddwn gyngor am ddim.

Oriau Agor

Dydd Llun - Dydd Gwener - 8am - 3pm


Cysylltwch â ni am broblem gyda phlâu 

Cysylltu â ni

Ffôn: 029 2087 2934 (Peiriant ateb y tu allan i oriau swyddfa)   neu 029 2087 2935


Nodwch:  Nid yw’r gwasanaeth hwn ar gael y tu allan i oriau swyddfa.  

Gadewch neges ar y peiriant ateb a bydd swyddog yn cysylltu â chi ar y diwrnod gwaith nesaf.  

Fel arall, bydd rhaid i chi gysylltu â chwmni rheoli plâu arall.

© 2022 Cyngor Caerdydd