Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Beicffyrdd

​​​Rydym yn datblygu cynigion ar gyfer 6 beicffordd yng Nghaerdydd.  Bydd y beicffyrdd yn cefnogi ac yn hyrwyddo beicio ar gyfer pob oedran a gallu. Bydd y llwybrau arfaethedig yn cysylltu cymunedau â phrif gyrchfannau trwy’r ddinas, gan gynnwys Canol y Ddinas a Bae Caerdydd. 

Bydd y llwybrau beicio yn darparu llwybrau parhaus sy'n reddfol ac yn gyfforddus i'w defnyddio.  Byddant yn cael eu gwahanu oddi wrth gerbydau a cherddwyr lle bo angen.  

Caiff y beicffyrdd eu datblygu ar sail cynigion yn y Map Rhwydwaith Teithio Llesol sy’n nodi cynllun 15 mlynedd i wella llwybrau ar gyfer cerdded a beicio yn y ddinas.

Dysgu am bob llwybr beicio arfaethedig. 

Canol y ddinas i Barc y Rhath 

Bydd Beicffordd 6 yn mynd o ganol y ddinas i: 

  • Blasnewydd, 
  • Pen-y-lan, 
  • Cyncoed, a  
  • Pharc y Rhath.

Rydym wedi dechrau cam 1 y beicffordd hwn. Dysgu mwy am gam 1 llwybr beicio Parc y Rhath​

Canol y ddinas i Ogledd-ddwyrain Caerdydd

Bydd Beicffordd 1 yn mynd o ganol y ddinas i: 

  • Gathays, 
  • Ysbyty Athrofaol Cymru, 
  • Gorsaf reilffordd Lefel Uchel y Mynydd Bychan,  
  • Gorsaf reilffordd Lefel Isel y Mynydd Bychan, a 
  • Safle Datblygu Strategol Gogledd-ddwyrain Caerdydd. 

Mae’r rhan o’r llwybr rhwng Stuttgart Strasse ac Ysbyty Prifysgol Cymru eisoes wedi’i chwblhau. 

Canol y Ddinas i Barc Busnes Llaneirwg

Bydd Beicffordd 2 yn mynd o ganol y ddinas i:  

  • Adamsdown, 
  • Parciau manwerthu Heol Casnewydd, 
  • Tredelerch, 
  • Llanrhymni, a  
  • Pharc Busnes Llaneirwg.

Canol y ddinas i Fae Caerdydd

Bydd Beicffordd 3 yn mynd o ganol y ddinas i Fae Caerdydd. 

Canol y ddinas i Ogledd-Orllewin Caerdydd 

Bydd Beicffordd 4 yn mynd o ganol y ddinas i: 

  • Landaf, 
  • Danescourt, a  
  • Safle Datblygu Strategol y Gogledd-orllewin. 

Canol y ddinas i Gaerau 

Bydd Beicffordd 5 yn mynd o ganol y ddinas i: 

  • Lan-yr-afon, 
  • Trelái, a 
  • Chaerau.





© 2022 Cyngor Caerdydd