Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cynigion parcio - ardal White Barn Road

​Hoffem glywed eich barn ar ein cynigion ar gyfer White Barn Road, Coed Glas Road, Cilgerran Crescent, Gaerwen Close a Cadnant Close.

Rydym yn cynnig gwneud y ffyrdd hyn yn ardaloedd parcio â thrwydded. 

Mae hyn yn golygu y bydd angen trwydded ar unrhyw un sy'n parcio ar y ffyrdd hyn rhwng 8am a 6pm, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. 

Bydd hyn yn helpu i sicrhau mannau parcio i breswylwyr a'u hymwelwyr, atal parcio problemus ac annog cerdded, beicio a defnydd trafnidiaeth gyhoeddus.   

Bydd preswylwyr yn gallu gwneud cais am hyd at 2 drwydded ar gyfer cerbydau a gedwir neu a gofrestrwyd yn eu cyfeiriad, a lwfans trwydded ymwelwyr. Ni fydd angen trwyddedau ar breswylwyr i barcio ar ddreifs preifat.

Efallai y byddwn hefyd yn cyflwyno rhai llinellau melyn i atal parcio rhwystrol neu beryglus, megis ger cyffyrdd neu ar droeon cas yn y ffordd, ac yn gwneud Cilgerran Crescent yn stryd unffordd. 

Dweud eich dweud

Mae’r ymgynghoriad wedi cau. 

Rydym wrthi’n adolygu’r holl adborth. Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon ar ôl i ni benderfynu os byddwn yn parhau â’r cynllun. ​

​​​​

© 2022 Cyngor Caerdydd