Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cynllun parcio â thrwydded Heol Aldsworth

​Hoffem glywed eich barn am ein cynigion parcio ar gyfer Aldsworth Road, Treganna.  

Yn dilyn cwynion gan drigolion am barcio anystyriol ar y ffordd, rydym yn cynnig cyflwyno cynllun parcio â thrwydded.

Mae hyn yn golygu y byddai angen i yrwyr sy'n parcio ar Aldsworth Road gael trwydded ddilys.

Bydd hyn yn helpu gyda'r canlynol:

  • diogelu lle i drigolion a'u hymwelwyr,  
  • atal parcio anystyriol, ac 
  • annog y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, beicio a cherdded.  

Bydd trigolion Heol Aldsworth a 560 i 570 Heol Ddwyreiniol y Bont-faen yn gallu gwneud cais am:

  • hyd at 2 drwydded ar gyfer eu cerbydau, a 
  • lwfans trwydded ymwelwyr.

Ni fydd angen trwyddedau ar drigolion i barcio ar dramwyfeydd preifat.

Efallai y byddwn hefyd yn cyflwyno rhai llinellau melyn newydd i atal parcio sy'n rhwystr neu'n beryglus, ger cyffyrdd er enghraifft neu ar gorneli.  

Dweud eich dweud 

Mae’r ymgynghoriad wedi cau. 

Rydym wrthi’n adolygu’r holl adborth. Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon ar ôl i ni benderfynu os byddwn yn parhau â’r cynllun. ​

​​

© 2022 Cyngor Caerdydd