Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cynllun parcio â thrwydded ardal Western Drive

​​​​Hoffem glywed eich barn am ein cynigion parcio ar gyfer:

  • Western Drive,
  • Gogledd Rhodfa'r Gorllewin, 
  • River View, 
  • Llanmorlais Road,
  • Llandinam Crescent, a
  • Lydstep Crescent.

Rydym yn cynnig gwneud y ffyrdd hyn yn ardal parcio â thrwydded.

Mae hyn yn golygu y bydd angen trwydded ar unrhyw un sy'n parcio ar y ffyrdd hyn rhwng 9am a 5pm, o Ddydd Llun i Ddydd Gwener. 

Bydd hyn yn helpu gyda'r canlynol:  

  • diogelu lle i drigolion a'u hymwelwyr,  
  • atal parcio anystyriol, ac 
  • annog y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, beicio a cherdded.  

 

Bydd trigolion yn gallu gwneud cais am hyd at 2 drwydded ar gyfer cerbydau a lwfans trwydded ymwelwyr.

Ni fydd angen trwyddedau ar drigolion i barcio ar dramwyfeydd preifat.

Efallai y byddwn hefyd yn cyflwyno rhai llinellau melyn newydd i atal parcio sy'n rhwystr neu'n beryglus, ger cyffyrdd er enghraifft neu ar gorneli.  

Dweud eich dweud 

Mae’r ymgynghoriad wedi cau. 

Rydym wrthi’n adolygu’r holl adborth. Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon ar ôl i ni benderfynu os byddwn yn parhau â’r cynllun. 



​​​

© 2022 Cyngor Caerdydd