Mae Cyngor Caerdydd wedi sicrhau grant gan Lywodraeth Cymru er mwyn cynyddu'r defnydd o fysus trydan yn y ddinas. Bydd hyn yn helpu'r llywodraeth i gyrraedd ei tharged o fflyd bysus heb allyriadau ledled Cymru erbyn 2035.
Gall gweithredwyr bysiau wneud cais am arian grant i brynu bysus trydan. Bydd hyn yn cynyddu'r defnydd o fysus trydan sy'n gweithredu yng Nghaerdydd yn bennaf.
Darllenwch drwy'r holl ddogfennau cyn cwblhau cais.
Mae’r wybodaeth a geir yn y dogfennau hyn wedi’u dylunio i’w hargraffu. Mae’n bosib na fydd modd gweld popeth ar-lein.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y dogfennau, anfonwch nhw i CeisiadauGrantBwsTrydanol@caerdydd.gov.uk. Bydd unrhyw eglurhad a roddir yn cael ei rannu gyda phob ymgeisydd.
Sut i wneud cais
Rhaid anfon ceisiadau i CeisiadauGrantBwsTrydanol@caerdydd.gov.uk.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol dydd ddydd Gwener 17 Chwefror 2023.
Bydd eich cais yn annilys os na fyddwch yn cwblhau'r meini prawf cymhwyso. Ystyriwch hefyd y nodiadau a ddarperir ar y ffurflen gais.