Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Beth yw’r map terfynol?

Y map terfynol a’r datganiad yw’r cofnod cyfreithiol ar gyfer hawliau tramwy cyhoeddus.

 

Os dangosir hawl tramwy ar y map terfynol a’r datganiad, mae hynny’n dystiolaeth derfynol yn ôl y  gyfraith bod hawl tramwy cyhoeddus yn bodoli yno fel y mae wedi’i ddangos, a bod ganddo o leiaf y statws a nodir, ond heb ragfarn ynglŷn ag unrhyw gwestiwn o hawliau cyhoeddus ychwanegol a allai fod yn bodoli arno.

 

Nid yw’r map terfynol cyfredol yn fanwl gywir bob tro, er mai dyma’r brif ddogfen gyfreithiol. Y rheswm am hyn yw’r raddfa fechan, llinellau trwchus ac afluniadau yn y broses argaffu.  Mae er raddfa o 1:25,000 (dwy fodfedd a hanner i filltir). Bydd y fersiynau sydd wedi’u diweddaru yn cael eu cynhyrchu ar raddfa o 1:10,000.

Llwybrau

 

Mae pob llwybr wedi’i rifo yn ôl y plwyf lle mae wedi’i leoli. Bydd ‘copi gweithio’ y map terfynol yn cael ei addasu os bydd hynt llwybr yn cael ei newid drwy orchymyn cyfreithiol neu os bydd llwybrau newydd yn cael eu hawlio, eu creu neu eu dileu.

 

Gweld y map terfynol

 

Nid yw’r map terfynol ar gael i’w brynu.


 
 

Mae’r fersiwn ar-lein yn gynrychioliad electronig o’r map terfynol. Nid yw’n ddogfen gyfreithiol ond mae’n ddefnyddiol i ddeall yn fras lle mae’r llwybrau wedi eu lleoli.

 

Drwy apwyntiad yn unig

 

Gallwch weld y map terfynol ei hun a’r datganiadau yn Neuadd y Sir, Glanfa’r Iwerydd, Caerdydd CF10 4UW. I drefnu apwyntiad, cysylltwch â’r tîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus.

Cysylltu â ni



© 2022 Cyngor Caerdydd