Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Adolygiad o Gynllun Gwella Hawliau Tramwy (CGHT)

​​​​​​Mae CGHT 2020-2030 Caerdydd yn strategaeth 10-mlynedd sy’n cynnwys nodau a thasgau allweddol fel rhan o’r gofynion statudol dan Adran 61 Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.   ​

Cynllun Gwella Hawliau Tramwy (CGHT) Caerdydd 2020-2030 (7.384mb PDF)​​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

Mae'r Nodau Allweddol yn cynnig cynllun manylach o flaenoriaethau i lywio Cynlluniau Cyflawni Blynyddol. Cyhoeddir Cynlluniau Cyflawni bob blwyddyn ym mis Ebrill ac maent yn cynnwys tasgau penodol. Gall y rhain newid yn ystod y flwyddyn a byddant yn dibynnu ar y cyllid a'r staff sydd ar gael.




Mae manylion ar y broses a sut ydym am wneud hyn i’w cael isod.
 
 

Mae gan Gyngor Caerdydd rwydwaith o oddeutu 200km o Hawliau Tramwy Cyhoeddus (HTC), sy’n cynnwys llwybrau cerdded, llwybrau ceffylau a chilffyrdd cyfyngedig. Ar ben hynny, mae sawl safle a llwybr sydd yn cynnig cyfleoedd mynediad yng Nghaerdydd megis llwybrau a ganiateir, llwybrau gwyrdd, llwybrau beicio, parciau a thir comin. 


Ym mis Mehefin 2008 cyhoeddodd Cyngor Caerdydd ei CGHT cyntaf, ei ddiben oedd i cynnig cynllun 10 mlynedd yn amlinellu sut fyddai’r tîm HTC yn rheoli a gwella ei gyfleoedd Hawliau Tramwy a mynediad o fewn y cyfnod hwnnw. 


Yng Nghymru cynhyrchwyd 23 CGHT. Nawr, bron i 10 mlynedd ers cyhoeddi’r CGHT cyntaf, rhaid i awdurdodau lleol ystyried eu diwygio ai peidio. Yn sgil amrywiaeth o newidiadau deddfwriaethol a heriau economaidd yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, maen nhw yn debygol o gynhyrchu CGHTau newydd a’u cyhoeddi nhw rhwng 2017-19. Mae Cyngor Caerdydd wedi penderfynu adolygu a chyhoeddi CGHT 10 mlynedd newydd. 


Roedd y CGHT cyntaf yn amodol ar ganllawiau Llywodraeth Cymru yn 2002, oedd yn amlinellu sut y dylid cynhyrchu’r CGHT a’r camau perthnasol. Roedd y rhain yn cynnwys ymgynghoriadau gydag aelodau’r cyhoedd ac amrywiol grwpiau â diddordeb, adolygiad o ddogfennau strategol perthnasol, asesiadau o gyflwr y rhwydwaith HTC presennol ac adolygiad o’r Map Swyddogol.  

Bydd adolygiad a chyhoeddi CGHT newydd yn amodol ar Ganllawiau Llywodraeth Cymru​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd a ddiweddarwyd fis Gorffennaf 2016. I grynhoi , mae’n cynnwys:

  • Gwerthuso cyflawniad y CGHT diwethaf
  • Gwerthuso cyflwr presennol y rhwydwaith HTC a’i gofnod cyfreithiol
  • Mynd i’r afael â materion statudol ac atodol (gw. tud 3 isod)
  • Asesu anghenion y cyhoedd a nodi cyfleoedd
  • Paratoi Datganiad Gweithredu  a Chynlluniau Cyflawni newydd
  • Datblygu ac adnewyddu cynlluniau cyflawni
  • Cyhoeddi’r CGHT newydd drafft
  • Cyhoeddi’r CGHT terfynol
  • Rhoi’r CGHT newydd ar waith

 

Bydd y CGHT newydd yn wahanol i CGHT blaenorol yn y ffyrdd canlynol:

  • Datganiad gweithredu a Chynlluniau Cyflawni; yn yr Atodlenni, bydd y Cynlluniau Cyflawni yn nodi cynlluniau gwaith tymor byr a hyblyg y gellir eu hadolygu a’u newid yn ôl yr angen. Bydd Datganiadau Gweithredu newydd (a fydd yn cynnwys y Cynlluniau Cyflawni) ond yn cynnwys cynlluniau gwaith hir dymor a strategol ar gyfer y cyfnod o 10 mlynedd.  Roedd gan y CGHT cyntaf Ddatganiad Gweithredoedd na ellid ei newid ond trwy adolygiad llawn o’r cynllun.
  • Arfarniad o’r CGHT cyntaf; y graddau y cyflawnwyd camau y CGHT diwethaf, gydag unrhyw gamau gweithredu perthnasol neu nas cwblhawyd yn cael eu cario ymlaen
  • Adolygiad ar y cyfyngiadau a strwythurau awdurdodedig; Mae canllaw Llywodraeth Cymru yn cynnwys cyfarwyddyd i adolygu a darparu crynodeb o’r cyfyngiadau a’r strwythurau awdurdodedig ar y rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus.
  • Dolenni i gynlluniau a strategaethau newydd neu a ddiweddarwyd (cyf Cam 4, pwynt 2.a);Dolenni i gynlluniau a strategaethau eraill a ddatblygwyd ers y CGHT cyntaf, sy’n cyfeirio at deithio llesol (cerdded a beicio), mynediad i’r awyr agored, iechyd a llesiant a thrafnidiaeth.  Yng Nghyngor Caerdydd, mae’r rhain yn cynnwys; Uchelgais Prifddinas, Cynllun Corfforaethol 2017-2019, Adroddiad Dinas Fyw, Dinas Byw 2017, Cynllun Trafnidiaeth 2015-2020, Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol De-ddwyrain Cymru (2010), Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd 2006-2026 (Mabwysiedig), strategaeth ‘Beth sy'n Bwysig’ Caerdydd, Enfys (rhwydwaith feicio) a Mapiau Teithio Llesol, Bargen Ddinesig, Rhaglen Cymdogaethau Cerddedadwy, a Chynllun Gweithredu Seilwaith Werdd.
  • Canolbwyntio ar rai nad sy’n cyfranogi; ystyried anghenion y cyhoedd ehangach gan gynnwys y rhai hynny nad sydd ar hyn o bryd yn cyfranogi mewn gweithgareddau hamdden awyr agored rheolaidd.
  • Canolbwyntio ar ddefnyddwyr dall, rhannol ddall a symudedd; mwy o bwyslais ar ystyried anghenion deillion neu’r rhannol ddall a’r rhai â phroblemau symudedd.  


    Gweithredwyd y darnau canlynol o ddeddfwriaeth hefyd ers cyhoeddi’r CGHT cyntaf a bydd gofyn eu hystyried a’u hymgorffori yn y cynllun newydd:

    1. Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd ; Rhan 2, pwynt 4 yn canolbwyntio ar 7 nod llesiant: Cymru ffyniannus, Cymru gydnerth, Cymru fwy iach, Cymru fwy cydradd, Cymru o gymunedau cydlynol, Cymru o ddiwylliant bywiog ac iaith Gymraeg hyfyw, Cymru gyfrifol ar lwyfan byd.
    2. Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau llwybrau teithio llesol i gerddwyr a beicwyr, er mwyn hyrwyddo teithiau llesol. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn rhoi  Adroddiad​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd  ar y Ddeddf hon.
    3. Deddf Cydraddoldeb 2010​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd ; i raddau helaeth fe ddisodlodd hon Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 ac mae’n nodi nifer o ‘nodweddion a ddiogelir’ gan ei gwneud yn anghyfreithlon i wahaniaethu yn erbyn rhywun ar y seiliau hynny. Mae Adran 149​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd yn gosod ‘dyletswydd cydraddoldeb sector gyhoeddus’ wrth gyflawni ei swyddogaethau i ystyried yr egwyddorion hyn, y dylid eu hymgorffori yn llawn i’r CGHT newydd.
    4. Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd ; Datganiadau Ardal (Adran 11​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd) a ddatblygwyd dan y Ddeddf hon
    5. Er ei fod yn ei le ar gyfer y CGHT cyntaf, bydd angen ystyried Deddf Llywodraeth Leol 1999​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd Rhan 1, Pwynt 3 yn y CGHT newydd; mae Adran 3 yn mynnu bod awdurdodau lleol yn sicrhau gwelliannau parhaus ac yn ymgynghori â defnyddwyr gwasanaeth.

    Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (CROW) 2000 yw’r mecanwaith cyfreithiol dros ddrafftio ac adolygu CGHT (adran 61). Ymgymerir â'r adolygiad trwy gyfeirio at y materion statudol ac atodol sy’n gynwysedig ynddo:

    Materion Statudol

    • I ba raddau mae’r hawliau tramwy lleol yn bodloni anghenion y cyhoedd yn y presennol ac yn y dyfodol, gyda chynlluniau i’w rheoli a’u gwella
    • Y cyfleoedd a ddarperir gan hawliau tramwy lleol am ymarfer corff a ffurfiau eraill ar hamdden yn yr awyr agored a mwynhau ardal yr awdurdod
    • Hygyrchedd hawliau tramor lleol i bobl ddal neu rannol ddall neu rai sydd â phroblemau symudedd eraill


      Materion atodol or ychwanegol:

      • Arfarniad o I ba raddau mae’r CGHT wedi’i gyflawni
      • Arfarniad o gyflwr presennol y rhwydwaith a’i hanes
      • Cyfleoedd i gyfrannu at amcanion Teithio Llesol
      • Cyfleoedd i gyfrannu at amcanion Llesiant
      • Cyfleoedd i gyfrannu at gyflawni cynlluniau a blaenoriaethau

       

      Dylem hefyd gynnwys

      • Ystyried cynigion cynllunio cyfredol a newydd o ran y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl)
      • Ystyried unrhyw gyfarwyddebau gan Lywodraeth Leol o ran ymgynghoriadau cyfredol neu newydd, yn benodol parthed PROW, e.e. ‘Gwella cyfleoedd i gael mynediad i’r awyr agored er mwyn  hamdden cyfrifol’, neu newidiadau deddfwriaethol eraill.

       

      Mae’r amserlen isod yn rhestri'r camau sydd i'w dilyn er mwyn llunio CGHT newydd diwygiedig diweddar ar gyfer Caerdydd. Mae’n cynnwys dyddiadau targed erbyn pryd y mae pob cam i’w gwblhau a chaiff ei dorri i lawr i wahanol dasgau. 


      Yn anochel, bydd rhai tasgau o bosibl yn newid neu'n datblygu fel adborth ac ystyrir barnau gwahano, felly mae dyddiadau targedau yn agored i'w hadolygu. 


      Bydd 2 ymgynghoriad arall; yn ystod yr Asesiad Newydd ar gam 4 a’r CGHT Drafft newydd ar gam 5 (y mae’n rhaid iddo fod am 12 wythnos o leiaf).



      Ar ddiwedd cam 3, bydd gennym 12 mis i gyhoeddi'r CGHT newydd. Pan gaiff y CGHT newydd ei gyhoeddi, bydd angen i’r Cynlluniau Cyflawni gael eu monitro bob blwyddyn i alw'r ddogfen yn berthnasol dros y 10 mlynedd nesaf.


      Camau

      Tasg

      Dyddiad targed

       

      Cam 1

       

      Adolygiad Cynllunio

      • Penderfyniad i adolygu’r CGHT cyntaf, ystyried staffio
      • Penodi Swyddog CGHT

       

       

      Ebrill-Mai 2017
      Awst-Medi 2017

       

      Cam 2

       

      Ymgynghoriad Cychwynnol

      Dosbarthu Dogfennau:

       

      • Paratoi dogfen ymgynghori gychwynnol i gynnwys y cefndir, amlinelliad, cylch gorchwyl a’r amserlen ar gyfer y CGHT newydd gan ddefnyddio nodiadau cyfarwyddyd LlC a chynlluniau strategol Caerdydd
      •  Cyhoeddi i’r wefan ar gyfer y cyhoedd
      • Anfon trwy e-bost i’r canlynol:
      • Pob Awdurdod Priffyrdd sydd ger Caerdydd
      • Pob Cyngor Cymuned a Chynghorwr yng Nghaerdydd
      • Fforwm Mynediad Lleol (LAF)
      • Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
      • Ymgynghoreion statudol ar gyfer Gorchmynion y Llwybr Cyhoeddus
      • Adrannau Mewnol Perthnasol Cyngor Caerdydd.
      • Unrhyw berson, grŵp, neu sefydliad lleol sy’n berthnasol neu sydd â diddordeb y mae Cyngor Caerdydd yn ymwybodol ohono, neu y mae ein hymgynghoreion yn sicrhau bod yn Cyngor yn ymwybodol ohono.


        Ymatebion i’r Adolygiad:

         

        • Llunio Adroddiad ar Ymateb i Ymgynghoriad
        • Os bydd angen, gwneud diwygiadau a therfynu’r adroddiad

         

         

        Hydref 2017

         

         

         

         

         

         

         

         

        Tachwedd – Rhagfyr 2017

         

        Cam 3

         

        Adolygiad o’r CGHT cyntaf (2008-2018)

        • Adolygu ac eitemeiddio’r 16 tasg flaenoriaeth a thargedu’r camau gweithredu a gyflawnwyd neu nas cyflawnwyd yn yr CGHT cyntaf.
        • Asesu graddau cyflawni’r CGHT blaenorol
        • Adolygu datganiad gweithredu’r CGHT blaenorol
        • Ystyried unrhyw adborth ar y CGHT cyntaf o’r Ymgynghoriad cyntaf yn yr Adroddiad ar yr Ymgynghoriad
        • Paratoi’r crynodeb o’r adroddiad

         

         

         

        Ebrill 2017 – Awst 2018

         

        Cam 4

         

        Asesiad Newydd

        Gwerthuso cyflwr presennol y rhwydwaith a’i gofnod cyfreithiol

         

        • Asesu cyflwr cyfredol rhwydwaith a mynediad at Hawliau Tramor lleol
        • Asesu cywirdeb cofnodion, gan gynnwys:
        • Gorchmynion addasu neu lwybrau cyhoeddus sy’n aros
        • Cofnod terfyniadau
        • Prosesau ar gyfer cofnodi a newid
        • Asesu y sicrheir bod gwybodaeth neu gyngor ar gael
        • Amlygu unrhyw faterion allweddol 


          Arfarnu anghenion a chyfleoedd y dyfodol

           

          • Ystyried astudiaethau, asesiadau, neu cynlluniau ers cyhoeddi’r CGHT cyntaf (cyf rhaglen 2), gan gynnwys:
          • Arolwg Cymru ar Hamdden yn yr Awyr Agored
          • Pecyn Cymorth Da i Bobl CNC
          • Mapiau Teithio Llesol
          • Asesiadau a Cynlluniau Llesiant Lleol
          • Datganiadau Ardal
          • Cynlluniau Datblygu
          • Strategaethau a chynlluniau Caerdydd (Amlinellir ar dudalen 2)
          • Ymgymryd ag amrywiaeth o ymgynghori a dargedir ac ymgysylltiad rhanddeiliaid:
          • Digwyddiadau ymgynghori gyda chymunedau lleol
          • Ymgysylltu ag amrywiaeth eang o grwpiau a sefydliadau gan gynnwys lleiafrifoedd
          • Llunio crynodeb sy’n seiliedig ar dystiolaeth o angen y cyhoedd:
          • Adnabod anghenion sy’n bodoli, ond nid ydynt yn cael eu bodloni.
          • Ystyried cynlluniau sy’n adnabod anghenion perthnasol
          • Meini prawf amrywiol neu ​penodol eraill; ardaloedd daearyddol, grwpiau o bobl, gwelliannau gwerthu uchel, ayyb.
          •  

           

           

          Ebrill 2017 – Awst 2018

           

           

           

           

           

           

           

           

           

           

           

          Hydref 2017 – Awst 2018

           

          Cam 5

           

          Paratoi CGHT Drafft

          • Ystyried ardaloedd o CGHT blaenorol sydd angen eu diweddaru neu eu diwygio
          • Llunio Datganiadau diwygiedig o Gamau Gweithredu   
          • Datblygu Cynllun Cyflawni, cysylltu â’r Datganiad Camau Gweithredu
          • Paratoi CGHT drafft dwyieithog newydd
          • Cyhoeddi i’r wefan, cylchredeg i LAF a’r holl gysylltiadau yn ymgynghoriadau Camau 2 a 4 neu ymhellach iddynt  
          • Paratoi hysbyseb ddwyieithog i hysbysiad y CGHT Drafft gael ei gylchredeg i 2 bapur newyddion o leiaf, ac i leoliadau cyhoeddus lleol
          • Cynnal ymgynghoriad cyhoeddus o leiaf 12 wythnos
          • Diwygio 'r Cynllun drafft ymhellach na’r ymgynghoriad a rhoi gwybod i'r LAF am ddiwygiadau.
          • Cytuno'r weithdrefn am ymdrin ag unrhyw wrthwynebiadau sylweddol.

           

          Rhagfyr 2017 -  
          Tachwedd 2018

           

           

           

          Ymgynghori Rhagfyr 2018- Mawrth 2019

           

          Cam 6

           

          Cyhoeddi’r CGHT Terfynol

          • Sicrhau y gwneir yr holl ddiwygiadau y cytunwyd arnynt i’r cynllun drafft a’r ‘Cynlluniau Cyflawni' sydd wedi’u hychwanegu.
          • Rhoi’r copi terfynol ar adnau mewn prif swyddfeydd
          • Rhoi copi o’r CGHT newydd ar y wefan
          • Anfon hysbysiad o gwblhau i'r partïon perthnasol
          • Ymgymryd ag unrhyw gyhoeddusrwydd priodol

           

          Chwefror 2020​

           

          Cam 7

           

          Sefydlu gweithdrefn monitro parhaus

          • Gwirio gwaith yn rheolaidd yn erbyn cynlluniau Cyflawni
          • Adolygu a diweddaru cynlluniau cyflawni CGHT yn erbyn camau gweithredu a gyflwynwyd neu nas cyflawnwyd yn flynyddol
          • Adolygu’r CGHT llawn eto ym mhen 10 mlynedd.

           

           

          1. Cyfredol
          2. Mehefin 2020, ac wedyn yn flynyddol
          3. 2027-29




          ​​​​​​​​​​​
          © 2022 Cyngor Caerdydd