Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Fforwm Mynediad Lleol

​ ​
​​Rydym yn chwilio am aelodau o Fforwm Mynediad Lleol Caerdydd (FfMLl) nesaf ar gyfer mis Mawrth 2024 i 2027. 

Pwy ydyn ni


Cafodd Fforwm Mynediad Lleol Cyngor Caerdydd ei ffurfio fel un o ofynion Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000. Mae'r fforwm wedi bodoli ers 2003. 

Mae'n rhaid i ni recriwtio aelodau newydd bob tair blynedd.  Mae gan y fforwm 12 i 20 o aelodau sy'n cynrychioli'r gymuned leol.  Ein nod yw i aelodau gynrychioli ystod eang o ddiddordebau, megis:  

  • tirfeddianwyr, 
  • defnyddwyr mynediad, megis cerddwyr, beicwyr, a marchogwyr, a
  • chynrychiolwyr iechyd a chadwraeth.


Mae'r fforwm yn cyfarfod sawl gwaith y flwyddyn, yn rhithwir ac yn bersonol, i ystyried pynciau, megis: 

  • mynediad hamdden gan gynnwys cerdded, marchogaeth, beicio mynydd, mynediad at ddŵr a gyrru oddi ar y ffordd, 
  • creu rhwydwaith mwy hygyrch i bawb ei ddefnyddio a'i fwynhau,
  • diogelu a gwella bioamrywiaeth a chynefinoedd ger hawliau tramwy, 
  • monitro Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Caerdydd 2020-2030, ac 
  • ymateb i ymgynghoriadau amrywiol gan Lywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru CNC gan gynnwys cynlluniau datblygu lleol sy'n effeithio ar lwybrau Hawliau Tramwy. 



Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Caerdydd 2020 i 2023 


Mae'r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy (CGHT) yn gynllun 10 mlynedd i wella rhwydwaith hawliau tramwy Caerdydd. Mae'r cynllun yn nodi sut y byddwn yn nodi, blaenoriaethu a chynllunio ar gyfer gwelliannau i'r rhwydwaith.  

Bydd y fforwm yn gweithio gyda ni i'n helpu i sicrhau:  

  • bod gwaith a wneir o fudd i bob defnyddiwr, 
  • bod rheolaeth y rhwydwaith yn cael ei wella, a
  • bod strategaethau allweddol a nodau allweddol yn cael eu cyflawni. 

Dewch yn Aelod o’r FfMLl 


Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o'r fforwm, yna lawrlwythwch y ffurflen gais (88kb DOC).

Rhaid i chi anfon eich ffurflen gais atom erbyn dydd Gwener 24 Tachwedd 2023.  

Os hoffech i ni anfon ffurflen gais atoch drwy'r post, cysylltwch â ni.  


Rhif Ffôn: 029 2233 0206 neu 029 2233 0207

Tîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus 
Cyngor Caerdydd
Ystafell Melin Gruffudd, y Cwrt
Neuadd y Sir
Caerdydd
CF10 4UW​

​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd