Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Gwelliannau priffyrdd

​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Mae gan Gyngor Dinas Caerdydd raglen o welliannau priffordd sy’n cynnwys gosod arwynebau newydd ar ffyrdd cerbydau, ail-adeiladu a thriniaethau arwynebau, ac adnewyddu troedffyrdd a thriniaethau​ arwyneb troedffyrdd.


S
ylwch fod dyddiadau trin wyneb y ffordd gerbydau yn rhai dros dro. Bydd y dyddiad union yn cael ei arddangos ar y safle 3 diwrnod cyn dechrau'r gwaith. Gall y tywydd effeithio ar y gwaith.​



Ailarwynebu priffordd​


  
Ward
  
  
  
Ty Gwyn RoadPen-y-Lan02/04/2024Cyflawn
A48 St Mellons OnslipPontprennau a Phentref Llaneirwg12/04/2024Cyflawn
Sophia WalkGlan-yr-Afon12/04/2024Cyflawn
​​

Gwelliannau priffordd a llwybr cerdded​

  
Ward
  
  
  
Fairoak RoadPlasnewydd01/05/20249am - 6pm i 1 ddiwrnod
Llangattock Road, Llangynidr Road Everswell Road.Y Tyllgoed19/04/20249am - 5pm i 7 ddiwrnod
St Fagans Road, Fairwater Avenue, Shears Road, Davies Place, Norbury Road, Oxwich Close, Brook RoadY Tyllgoed15/04/20249am - 5pm i 5 ddiwrnod
Pen Y Dre, Lon Y Dail, Lon Ucha, Heol WenRhiwbeina26/04/20249am - 6pm i 2 wythnos
​​​


Beth sy’n digwydd?

Dros y dyddiau nesaf, os bydd y tywydd yn caniatáu, bydd yr heol y tu allan i’ch tŷ chi yn cael arwyneb newydd. ‘Asffalt Mân’ yw’r enw ar y driniaeth, a bydd yn gwella cyflwr eich heol am flynyddoedd. 

Pam bod hyn yn cael ei wneud? 

Er ei bod yn bosibl bod yr heol yn edrych yn eithaf cadarn, mae craciau yn ymddangos ac mae’n treulio. Os na fydd yn cael ei thrin, dirywio a wnaiff yr heol. 

Rydyn ni wedi dewis Asffalt Mân oherwydd; 

  • Y bydd yn selio’r arwyneb ac yn gwella gallu’r heol i wrthsefyll sgidio.
  • Y bydd yn cadw arwyneb yr heol mewn cyflwr da a hynny am gyfnod hir. 
  • Mae’n gyflym ac effeithlon ac felly ni fydd yn peri gormod o anghyfleustra. 
  • Mae’n gynaliadwy gan na fydd unrhyw beth yn cael ei symud o’r arwyneb presennol. 
  • Mae ymchwil yn dangos ei bod yn driniaeth gost effeithiol pan fo’n cael ei gwneud ar yr adeg gywir. 

Beth fydd yn digwydd yn ystod y gwaith?

Cyfuniad o agregad a bitwmen (i’w rwymo at ei gilydd) yw Asffalt Mân. Mae’n cael ei roi ar yr heol yn oer gan gerbyd arbennig Dyma wahanol gamau’r broses:

  • Y contractwr yn gosod arwyddion gyda manylion am ddyddiadau’r driniaeth. 
  • Yr heol yn cael ei brwsio a’i glanhau. 
  • Tyllau archwilio, cyrbau, gylïau ac ati yn cael eu gorchuddio gyda thâp. 
  • Yr heol yn cael ei chau i drafnidiaeth, er y bydd preswylwyr yn gallu cael mynediad pan fydd hynny’n bosibl. 
  • Gosod y micro asffalt; un neu ddwy haen yn dibynnu ar gyflwr yr heol. 
  • Caniatáu awr i galedu. 
  • Ailagor yr heol i draffig.
  • Brwsio’r heol i gael gwared ar unrhyw gerrig rhydd.
  • Pan fydd angen, bydd tyllau archwilio yn cael eu haddasu ymhen wythnos i fod ar yr un lefel â’r arwyneb newydd.
  • Ailbaentio llinell wen o fewn wythnos. 
  • Ail-frwsio’r stryd ymhen pythefnos i gael gwared ar unrhyw gerrig rhydd. 

Nodyn Pwysig: 

Bydd ffyrdd sydd wedi cael eu trin ag asffalt mân yn edrych yn anwastad ac anorffenedig ar y dechrau. Mae hyn yn digwydd yn naturiol fel rhan o’r broses osod a chaledu angenrheidiol. Bydd ymddangosiad y ffordd yn setlo dros amser gan fod y broses galedu yn sefydlogi’r deunydd. Mae’r tywydd a’r traffig yn helpu hefyd. Bydd ymddangosiad yr arwyneb yn gwella dros yr ychydig wythnosau cyntaf a bydd yr arwyneb gorffenedig yn amlwg cyn pen 3 mis. 

Pa mor hir fydd y broses yn cymryd? 

Fel arfer bydd y driniaeth yn gyflawn o fewn diwrnod neu ddau. 

Beth ddylwn i ei wneud? 

Gwnawn ein gorau i sicrhau ein bod yn ofalus iawn ond gofynnwn i chi helpu yn y ffyrdd canlynol: 

  1. Peidiwch â gadael i’ch plant neu anifeiliaid anwes chwarae ger y peiriannau neu’r arwyneb newydd yn ystod y 2 awr wedi i’r gwaith gael ei orffen.
  2. Sicrhewch nad oes bitwmen neu gerrig ar eich esgidiau cyn i chi fynd i mewn i’r tŷ neu i’r car. 
  3. Parchwch y cyfyngiadau Parcio. ​

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a diolch i chi am eich cydweithrediad wrth i ni wneud y gwaith angenrheidiol hwn.

Mae Cyfarwyddiaeth Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo’n
gadarn i ddarparu gwasanaeth effeithlon, cost-effeithiol o ansawdd sy’n bodloni anghenion a
disgwyliadau ein cwsmeriaid a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a’n prif randdeiliaid (neu
bartïon â diddordeb).

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau yn unol â’r Cynlluniau Sector Priffyrdd
Cenedlaethol perthnasol, ein Strategaeth Gwastraff a’r holl safonau, ystyriaethau amgylcheddol a
deddfwriaeth orfodi a glanhau perthnasol.

Byddwn yn ymgynghori â phobl leol, sefydliadau lleol a phrif randdeiliaid i nodi eu pryderon trwy
ddull ar sail risg, i gyd o fewn cyfyngiadau deddfwriaeth a chyda’r adnoddau sydd ar gael ac ar y
cyd â’n partneriaid. Byddwn yn ceisio gwella’n barhaol ansawdd, hyd a lled a natur y
gwasanaethau a ddarperir.

Rydym yn cydnabod bod pob cyflogai, tra mae’n cyflawni ei waith bob dydd, yn gwneud cyfraniad
allweddol i waith cyffredinol y Cyngor o ddarparu gwasanaethau, boed hynny’n fewnol neu’n
allanol, a byddwn nid yn unig yn eu hannog i gymryd rhan yn y gwaith o baratoi, gweithredu a
gwerthuso gweithgareddau gwell ond hefyd eu datblygiad unigol fel cyflogai.

Byddwn yn cyhoeddi’r Polisi Ansawdd i Safle Mewnrwyd System Wella Caerdydd, Wefan y
Cyngor a’i arddangos mewn lleoliadau hawdd eu gweld. Bydd yr holl reolwyr yn gyfrifol am godi
ymwybyddiaeth o’r polisi ac am atgyfnerthu diwylliant o ragoriaeth gyda’n pobl.

Adolygir y Polisi Ansawdd bob blwyddyn trwy adolygiad rheoli i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn
berthnasol i amcanion strategol y Gyfarwyddiaeth a'r Cyngor.

Mae ein Timau Gorfodi a Glanhau, Gwastraff ac Ailgylchu a Gweithrediadau Priffyrdd yn
gweithredu System Reoli Ansawdd sy’n cydymffurfio â gofynion ISO 9001:2015 y gall ei gwmpas
cofrestredig fod ar gael ar gais. 



Cysylltu â ni









​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​ ​​​​
​​​​​​​​​​
​​​
Cardiff Gov app logo
Lawrlwythwch i gael ffordd well o gysylltu â gwasanaethau’r cyngor.​
Download app via Apple store Download app via Google Play store​​

​​​​​​​​

© 2022 Cyngor Caerdydd