Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Sut i apelio ar ôl 'Hysbysiad i'r Perchennog'

Os byddwch wedi derbyn Hysbysiad i’r Perchennog, mae gennych hawl i apelio'n ffurfiol gan wneud sylwadau o fewn 28 diwrnodau. Os derbynnir eich sylwadau ar ôl 28 diwrnod, mae’n bosibl na chânt eu hystyried. Peidiwch â thalu os ydych yn bwriadu apelio. Ni fydd y gosb yn codi tra bod eich sylwadau yn cael eu hadolygu.

Unwaith y byddwn wedi cydnabod derbyn eich sylwadau, caiff yr achos ei oedi hyd nes y ceir penderfyniad gan swyddog achos, a gaiff ei anfon atoch o fewn 56 diwrnod.

Apelio Hybysiad i’r perchennog ar-lein​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd.

 

Cofiwch: Mae perchennog neu huriwr y cerbyd yn atebol hyd yn oed os nad oedd yn gyrru adeg yr achos o anghydffurfio.


Hefyd, gellir cyflwyno eich sylwadau'n ysgrifenedig i: 

Gwasanaethau Parcio
Blwch SP 47
Caerdydd
CF11 1QB


Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi eich cyfeiriad ateb a’ch rhif Hysbysiad Tâl Cosb yn eich llythyr herio. Nodwch rif cofrestru'r cerbyd ac unrhyw dystiolaeth a allai gefnogi'ch cais yn eich barn chi. Does dim modd ateb sylwadau dros y ffôn neu mewn ymweliad. Rhaid eu gwneud ar-lein neu'n ysgrifenedig.  

Rhaid i’ch sylwadau fod yn wir hyd eithaf eich gwybodaeth. Mae’n drosedd gwneud sylwadau anwir a gallech chi gael eich erlyn os gwnewch hynny.

Caiff unrhyw wybodaeth a ddarperir ei phrosesu yn unol â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (neu’r GDPR). Mae'n bosibl y bydd yr awdurdod neu gyrff perthnasol eraill yn defnyddio unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych at ddibenion gorfodi, canfod twyll neu at unrhyw ddibenion perthynol fel y caniateir gan y gyfraith.

Y Gwasanaeth Beirniadu Annibynnol


Os bydd y Cyngor yn gwrthod eich apêl ar ôl yr Hysbysiad i’r Perchennog, mae gennych yr hawl i gael y mater wedi'i ystyried gan feirniad annibynnol o'r Tribiwnlys Cosbau Traffig. Bydd yr Hysbysiad Gwrthod yn cynnwys cyfarwyddiadau ar sut i apelio i’r Tribiwnlys a chod apelio unigryw.

Mae’r beirniad yn hollol annibynnol ar y Cyngor. Mae ei benderfyniad yn derfynol ac yn gyfreithiol rwymedig ar yr apelydd a’r Cyngor ill dau. 


Mae’n bosibl y byddwch yn dymuno ymweld â’r
Gwasanaeth Tribiwnlys Traffig​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd i gael rhagor o wybodaeth.

​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd