Ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf 2023, mae'r Asiantaeth Ddarllen wedi ymuno â'r Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid i greu 'Ready, Set, Read!', her sy'n ymwneud â chwaraeon a gemau.
Mae’r her Ready, Set, Read! yn dechrau ar 8 Gorffennaf ac yn rhedeg tan fis Medi.
Bydd staff ein llyfrgelloedd ar gael drwy'r haf i:
- help gyda dewis llyfrau
- rhoi anogaeth
- cynnal digwyddiadau i blant gyda thema chwaraeon a gemau
Sut i gymryd rhan?
- Ewch i'ch
llyfrgell leol a chofrestru ar gyfer yr her am ddim. Byddwch yn derbyn pecyn Ready, Steady, Read! pan fyddwch chi'n cofrestru.
- Gosodwch nod darllen personol ar gyfer yr haf. Rydym yn argymell 6 llyfr.
- Ewch ati i fenthyca a darllen llyfrau, e-lyfrau a llyfrau llafar o'ch dewis. Bydd staff ein llyfrgelloedd ar gael i'ch helpu i ddewis.
- Dewch yn ôl i'r llyfrgell a dweud wrthym beth rydych chi wedi bod yn ei ddarllen.
- Casglwch wobr o'r llyfrgell bob tro y byddwch yn gorffen llyfr.
- Unwaith y byddwch wedi cyrraedd eich nod, byddwch yn derbyn medal a dystysgrif.
Os na allwch fynd i'r llyfrgell
Peidiwch â phoeni os na allwch fynd i'r llyfrgell! Gallwch
gofrestru ar-lein yn lle hynny.
Cofiwch nodi Caerdydd pan ofynnir am fwy o wybodaeth.
Gweithgareddau a digwyddiadau eraill sy'n digwydd dros yr haf