O hanes naturiol i dreftadaeth a chwaraeon i ddigwyddiadau teuluol, mae rhywbeth i bawb ym mharciau Caerdydd.
Mae cerdded yn ffordd wych o fod yn iach ac mae cymryd rhan mewn taith
gerdded iechydDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd yn eich parc lleol yn ffordd hawdd o'ch helpu i fod yn ffit.
Rydym hefyd yn trefnu
rhaglen teithiau cerdded tywys a digwyddiadauDolen yn agor mewn ffenestr newydd a gynhelir gydol y flwyddyn gydag ystod o deithiau cerdded â thema a gweithgareddau ymarferol yn addas i bawb o bob oedran.
Os hoffech drefnu digwyddiad neu weithgaredd mewn parc neu fan agored cysylltwch â ni. P'un ai'n ffair gymuned, yn lluniau priodas, yn ras hwyaid neu'n gyngerdd mawr, gallwn eich helpu.
Os ydych yn mwynhau bywyd yn yr awyr agored, mae digon o gyfleoedd i wirfoddolwyr fod yn rhan o'r gwaith o ofalu am ein parciau a'n mannau gwyrdd, a hefyd 'Grwpiau Cyfeillion' sy'n cefnogi eu mannau gwyrdd lleol.
Cysylltu â ni