Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Gorchmynion Amddiffyn Mannau Cyhoeddus (GAMC) – Rheolaethau Cŵn

​​​​Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n ymwneud â chŵn. 

Mae ar Gyngor Caerdydd gyfrifoldeb dros reoli a chynnal a chadw mannau cyhoeddus ledled y ddinas. Mae’r mannau hyn yn cynnwys parciau, priffyrdd a fabwysiedir, meysydd chwaraeon, Ysgolion a mynwentydd. 

Mae gennym nifer o barciau a mannau agored i bobl sy’n mynd â chŵn am dro i gymryd mantais ohonynt ac rydym yn deall bod angen ymarfer corff ar gŵn. Mae mwyafrif y perchnogion cŵn yn gyfrifol ac yn glanhau ar ôl eu cŵn ac nid ydym eisiau eu gwahardd rhag mwynhau’r mannau agored sydd gan Gaerdydd i’w cynnig. Fodd bynnag, fel y gwyddoch o bosibl, mae problemau parhaus ar draws Caerdydd, yn benodol lle nad yw baw cŵn yn gael ei glirio gan berchnogion cŵn. 

Er gwaethaf nifer yr ymyriadau y mae Caerdydd wedi rhoi cynnig arnynt dros y blynyddoedd megis ymyriadau addysgol mewn rhannau gwahanol o’r ddinas, mae pryder cynyddol o hyd ar draws Caerdydd ynglŷn â chŵn, yn benodol mewn perthynas â baeddu gan gŵn.

Er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn, mae awdurdod gan y Cyngor i weithredu Gorchymyn Amddiffyn Mannau Cyhoeddus (GAMC) o dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a Phlismona 2014. Gall GAMC wahardd neu gyfyngu ar rai gweithgareddau penodol ac maent wedi'u cynllunio i sicrhau y gall y mwyafrif sy'n cadw at y gyfraith ddefnyddio a mwynhau mannau cyhoeddus, yn ddiogel rhag ymddygiad gwrthgymdeithasol. 

Byddai GAMC yn cymryd lle’r is-ddeddfau a’r cyfyngiadau sydd wedi dyddio ac sydd ar waith ar hyn o bryd. Gall GAMC bara am dair blynedd ac os caiff ei dorri gallai swyddog awdurdodedig roi Hysbysiad Cosb Benodedig o hyd at £100 ac os na chai ei dalu, gellid ei godi i £1,000. ​​

GORCHYMYN DIOGELU MANNAU CYHOEDDUS CYNGOR SIR DINAS A SIR
CAERDYDD (RHEOLI CŴN) 2021​​


Hysbysir trwy hyn bod Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd wedi gwneud Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus dan Adrannau 59 a 72 Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 a fydd yn effeithio ar unrhyw Fan Cyhoeddus fel a nodir yn y Gorchymyn drafft. 

Diben y Gorchymyn fydd gorfodi cyfrifoldebau perchnogion cwn.
 

​Gwnaed ar o fis 2021 Yn unol ag adran 59 Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 

Mae Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd (a elwir “y Cyngor” yn y Gorchymyn hwn), wrth arfer ei bwerau yn unol ag Adran 59 Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (“y Ddeddf”) a’r holl bwerau galluogi eraill, ar ôl ymgynghoriad a gynhaliwyd yn unol â’r Ddeddf, ac wedi’i fodloni bod cerdded mewn mannau cyhoeddus â chŵn yn afreolus ac anghyfrifol yn cael effaith negyddol ar ansawdd bywyd y gymuned leol a bod yr amodau a nodir yn Adran 59 y Ddeddf wedi’u cyflawni, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol. 

1. Diffiniadau a Dehongli ​​

1.1 Yn narpariaethau canlynol y Gorchymyn hwn, bydd i’r termau canlynol yr ystyron a roir iddynt fel a ganlyn:- ‘Swyddog Awdurdodedig’ - y person sydd wedi’i awdurdodi’n ysgrifenedig gan y Cyngor at ddibenion y Gorchymyn hwn ‘Person â Gofal’ - y person sydd â’r ci yn ei feddiant, dan ei ofal neu yn ei gwmni ar adeg cyflawni’r drosedd neu'r perchennog neu fel arall y perchennog neu berson sydd fel rheol â’r ci yn ei feddiant ‘Cwnstabl yr Heddlu’ - unrhyw berson sydd wedi’i ddynodi a’i awdurdodi gan Brif Swyddog yr Heddlu i arfer pwerau a dyletswyddau Cwnstabl yr Heddlu ‘Gofod Cyhoeddus’ - unrhyw le y mae gan y cyhoedd neu unrhyw ran o’r cyhoedd fynediad ato (gyda neu heb dâl neu ganiatâd) ac y mae’r Cyngor yn berchen arno neu’n ei gynnal, gan gynnwys ffyrdd, llwybrau cerdded, palmentydd, lleiniau glaswellt, lonydd cefn, parciau cyhoeddus a gerddi, mannau gwyrdd a rhandiroedd 

1.2 Ac eithrio pan fo’r cyd-destun yn gofyn fel arall, mae’r ffurf unigol yn cynnwys y lluosog ac i’r gwrthwyneb; ac mae’r ffurf wrywaidd yn cynnwys y ffurf fenywaidd ac i’r gwrthwyneb. 

1.3 Mae cyfeiriadau at Ddeddf Seneddol, darpariaeth statudol neu offeryn statudol yn cynnwys cyfeiriad at Ddeddf Seneddol, darpariaeth statudol neu offeryn statudol fel y'i diwygiwyd, y’i hymestynnwyd neu a ail-weithredwyd o dro i dro ac unrhyw reoliadau a wneir o danynt. 

2. Cwmpas ​

Mae’r Gorchymyn hwn yn berthnasol i Fannau Cyhoeddus yn Ninas a Sir Caerdydd y’u disgrifir ac y’u dangosir yn y Gorchymyn a’r Atodlenni a atodir at y Gorchymyn. 

3. Hyd ​​

Daw’r Gorchymyn i rym ar 29ain Mawrth 2021 a bydd yn parhau mewn grym am 3 blynedd o’r dyddiad hwn, oni bai y caiff ei ymestyn gan orchmynion pellach a wneir dan bwerau statudol y Cyngor. 

4. Teitl​​ 

Gellir cyfeirio at y Gorchymyn hwn fel “Gorchymyn Cyngor Caerdydd (Diogelu Mannau Cyhoeddus) (Rheoli Cŵn) 2021”; ac mae’n gosod y gofynion a’r gwaharddiadau canlynol. 

5. Baw Cŵn ​

Ym mhob Man Cyhoeddus yn Ninas a Sir Caerdydd, fel y dangosir ac y disgrifir yn Atodlen A, mae'r gofynion canlynol yn berthnasol: 

5.1(a) Os bydd ci’n bawa ar unrhyw adeg, rhaid i’r Person â Gofal waredu’r baw o’r tir yn syth; 

(b) Rhaid i Berson â Gofal am gi feddu ar fodd priodol o godi unrhyw faw a berthyn i’r ci hwnnw, a rhaid dangos hyn os bydd Swyddog Awdurdodedig neu Gwnstabl yr Heddlu yn gofyn i’w gweld. 

5.2 At ddibenion Erthygl 5.1(a): 

(i) Bydd rhoi’r baw mewn cynhwysydd ar y tir a ddarperir at ddibenion gwaredu gwastraff yn ffordd ddigonol o waredu’r baw o’r tir; a Ni fydd bod yn anymwybodol o’r ffaith bod ci wedi bawa (boed hynny (ii) oherwydd peidio â bod yn agos at y ci neu fel arall), neu fod â ffordd o waredu’r baw yn esgus rhesymol dros fethu â gwaredu’r baw. 

6. Cŵn ar Gynllyfanau/Tenynnau​ 

​​​​​​6.1. Yn unrhyw un neu rai o’r mynwentydd cyhoeddus a restrir ac a ddangosir yn Atodlen B y Gorchymyn hwn, rhaid i unrhyw Berson â Gofal am gi, ar unrhyw adeg, roi a chadw’r ci ar gynllyfan/tennyn a’i reoli’n iawn. 

6.2 Mewn unrhyw Fan Cyhoeddus arall yn Ninas a Sir Caerdydd, fel y dangosir ar y cynllun a’r rhestr yn Atodlen A, rhaid i Berson â Gofal am gi, ar unrhyw adeg, roi a chadw’r ci ar gynllyfan/tennyn a’i reoli’n iawn yn unol â chyfarwyddyd gan Swyddog Awdurdodedig neu Gwnstabl yr Heddlu.

6.3 At ddibenion Erthygl 6.2, ni fydd Swyddog Awdurdodedig neu Gwnstabl Heddlu ond yn rhoi cyfarwyddyd i roi a chadw ci ar gynllyfan/tennyn os yw ataliad o'r fath yn rhesymol angenrheidiol i atal niwsans neu ymddygiad gan y ci sy'n debygol o achosi braw, trallod neu aflonyddwch i unrhyw berson neu anifail neu aderyn arall ar y tir. 

7. Cŵn wedi'u Gwahardd (Mannau Chwarae Caeedig i Blant, Ardaloedd Chwaraeon a Safleoedd Ysgol)​​

7.1 Mae Person â Gofal am gi wedi’i wahardd rhag mynd â’r ci hwnnw i mewn i, neu ganiatáu i gi fynd i mewn i ac aros mewn, unrhyw fan chwarae caeedig, ardal chwaraeon neu safle ysgol a ddisgrifir neu a restrir yn Atodlen C y Gorchymyn hwn. 

8. Troseddau a Chosbau 

8.1 Bydd unrhyw fethiant i gydymffurfio â'r gofynion neu'r gwaharddiadau a osodir yn Erthyglau 5, 6 neu 7 o'r Gorchymyn hwn yn drosedd, oni bai: 

(a) Bod gan y person esgus rhesymol dros fethu â gwneud felly; 

(b) Bod perchennog, meddiannydd neu berson neu awdurdod arall sy’n gyfrifol am y tir wedi caniatáu (yn gyffredinol neu’n benodol) iddo fethu â gwneud felly; 

neu 

(c) Bod y person wedi’i eithrio dan Erthygl y Gorchymyn hwn. 

8.2 Bydd unrhyw berson sy’n euog o drosedd dan y Gorchymyn hwn yn agored, wedi collfarn ddiannod, i ddirwy nad yw’n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol (ar ddyddiad y Gorchymyn hwn, £1,000 yw hyn). 

8.3 Gall Swyddog Awdurdodedig neu Gwnstabl yr Heddlu gyhoeddi Hysbysiad Cosb Benodedig i unrhyw un y credir ei fod wedi cyflawni trosedd dan y Gorchymyn hwn. Y Gosb Benodedig fydd £100. Bydd talu’r Gosb Benodedig o £100 o fewn 14 diwrnod o ddyddiad yr Hysbysiad Cosb Benodedig yn atal y posibilrwydd o erlyniad. 

9. Eithriadau

 Ni fydd y gofynion a’r gwaharddiadau a osodir gan y Gorchymyn hwn yn berthnasol i unrhyw berson sydd: 

(i) Wedi’i gofrestru’n ddall, yn berson sydd â nam ar ei olwg neu’i glyw dan Ddeddf Cymorth Gwladol 1948, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 neu unrhyw ddeddfwriaeth arall; 

(ii) Ag anabledd sy’n effeithio ar ei symudedd, medrusrwydd corfforol, cydlyniad corfforol, neu allu i godi, cludo neu symud gwrthrychau bob dydd, o ran ci wedi’i hyfforddi gan elusen gofrestredig ac y mae’n dibynnu arno am gymorth; 

neu 

(iii) Yn defnyddio ci sy’n gweithio at ddibenion gorfodi’r gyfraith, dyletswyddau milwrol neu wasanaethau brys statudol (chwilio ac achub). 

10. Apelio ​​

Gall unrhyw berson â diddordeb (a ddiffinnir fel unigolyn sy’n byw mewn ardal gyfyngedig neu sy’n gweithio’n rheolaidd yn yr ardal honno neu sy’n ymweld â hi’n rheolaidd) gwestiynu dilysrwydd y Gorchymyn hwn, yn unol ag Adran 66 y Ddeddf, trwy gais i’r Uchel Lys o fewn 6 wythnos o ddyddiad y Gorchymyn. 

11. Dilysrwydd (Dileu) ​

Os bydd unrhyw un o ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn yn annilys neu oni ellir eu gorfodi am unrhyw reswm a bennir gan lys awdurdod cymwys, caiff y ddarpariaeth honno ei dileu a bydd gweddill darpariaethau’r Gorchymyn yn parhau i fod mewn grym yn llawn fel pe bai’r Gorchymyn wedi'i weithredu gyda’r ddarpariaeth anghyfreithlon annilys / na ellir ei gorfodi wedi'i dileu. 

Gosodwyd SÊL GYFFREDIN CYNGOR SIR DINAS A SIR CAERDYDD yn gysylltiedig â hyn ym mhresenoldeb:-

Llofnodwr Awdurdodedig Ar y o fis yn y Flwyddyn ​​

​​


​​​​​​​​​​​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd