Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Gwasanaethau Chwarae Plant

​​​​Mae ein timau chwarae cymunedol yn cynnal sesiynau ledled Caerdydd i blant a phobl ifanc 5 i 14 oed.

Mae timau chwarae cymwys yn hwyluso amrywiaeth o weithgareddau yn ogystal ag annog y plant a phobl ifanc i ddyfeisio rhai eu hunain.  Gwneir pob ymdrech i ateb anghenion unigol yr holl blant a phobl ifanc sy’n mynychu.
 
Gall y mathau o weithgareddau y gall plant gymryd rhan ynddynt yn y sesiynau hyn gynnwys:
 
 
Gemau grŵp
Gemau parasiwt, adeiladu den, gwisgo lan, gemau bwrdd, gemau cardiau, sioe gerdd, rhedeg o gwmpas, jenga, charades, gemau ymennydd.

Chwaraeon
Tennis bwrdd, gemau pêl, hoci, sgipio, pêl-droed, gemau bat a phêl, hula hoo​​ps, cyrsiau rhwystrau, hoci rhifau, osgoi’r bêl, matiau cwympo a chwarae meddal.

Celf a Chrefft

Lluniadu, modelu 3D sothach, lliwio, gludwaith, paentio, modelu clai, gemwaith gleiniau, gwneud cardiau, gwneud lluniau cartŵn, dathliadau thema, gleiniau hamma, dargopïo blwch golau, paentio wynebau, celf ewinedd.

Atodlenni chwarae

Bydd ein timau chwarae yn gweithredu'r atodlenni canlynol:

​​​
  
  
  
  
01) Dydd Llun - Monday3.30pm5.25pmGrangetown Marl Muga, CF11 7HN
01) Dydd Llun - Monday3pm6pmSplott Play Centre, Muirton Road CF24 2SJ
02) Dydd Mawrth - Tuesday3.30pm5.25pmRiverside Warehouse, Machen Place, CF11 6EQ
03) Dydd Mercher - Wednesday3.30pm5.25pmLlanrumney Hub, Countisbury Avenue, CF3 5NQ
03) Dydd Mercher - Wednesday3pm5.30pmSplott Play Centre, Muirton Road CF24 2SJ
03) Dydd Mercher - Wednesday4pm5.55pmNorth Ely Youth Centre, Pethyrbridge Road CF5 4DP
04) Dydd Iau - Thursday3.30pm5.25pmPowerhouse Hub, Roundwood, CF23 9PN
04) Dydd Iau - Thursday3.45pm5.40pmEly and Caerau Hub, Caerau, CF5 5BQ
05) Dydd Gwener- Friday3.30pm5.25pmPowerhouse Hub, Roundwood, CF23 9PN
05) Dydd Gwener- Friday4pm5.55pmButetown Pavillion, Dumballs Road, CF10 5EG


Gweithio a gwirfoddoli

Rydym yn cefnogi trefnwyr a gweithwyr chwarae dros dro a pharhaol i weithio gyda phlant a phobl ifanc ledled Caerdydd.
 
Caiff yr holl staff eu cyflogi dan bolisi recriwtio a dethol Cyngor Caerdydd, a rhaid iddynt lenwi ffurflen gais, cyflwyno geirdaon a chyflawni gwiriad heddlu uwch gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol.
 
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am gyfleoedd swyddi i weithwyr chwarae.
Mae gwirfoddolwyr yn ased gwerthfawr i Wasanaethau Chwarae Plant. Mae'r gwasanaeth yn gweithredu Cynllun Gwirfoddoli sy'n rhoi cyfle i wirfoddolwyr gael profiad o weithio gyda phlant, meithrin hyder a hunan-barch ac ennill sgiliau a gwybodaeth am weithgareddau ymarferol ac ymwybyddiaeth o anghenion plant.
 
Cysylltwch â ni  i gael rhagor o wybodaeth am wirfoddoli.

Cysylltu â ni

​​​​​​​ ​​​​​​​​​​

© 2022 Cyngor Caerdydd