Cyfleoedd Swyddi
Rydym yn cefnogi trefnwyr a gweithwyr chwarae dros dro a pharhaol i weithio gyda phlant a phobl ifanc ledled Caerdydd.
Caiff yr holl staff eu cyflogi dan bolisi recriwtio a dethol Cyngor Caerdydd, a rhaid iddynt lenwi ffurflen gais, cyflwyno geirdaon a chyflawni gwiriad heddlu uwch gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol.
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am gyfleoedd swyddi i weithwyr chwarae.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddolwyr yn ased gwerthfawr i Wasanaethau Chwarae Plant. Mae'r gwasanaeth yn gweithredu Cynllun Gwirfoddoli sy'n rhoi cyfle i wirfoddolwyr gael profiad o weithio gyda phlant, meithrin hyder a hunan-barch ac ennill sgiliau a gwybodaeth am weithgareddau ymarferol ac ymwybyddiaeth o anghenion plant.
Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth am wirfoddoli.
Cysylltu â ni