Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Caerdydd sy’n Dda i Bobl Hŷn

Mae Caerdydd sy’n Dda i Bobl Hŷn yn rhwydwaith o sefydliadau sy’n cynnwys Cyngor Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Gwasanaeth Tân ac Achub De-ddwyrain Cymru, partneriaid yn y trydydd sector a gwasanaethau eraill sydd wedi ymrwymo i wneud y ddinas yn lle gwell i dyfu’n hŷn.​​

Daeth Caerdydd yn aelod o Rwydwaith Byd-eang ar gyfer Dinasoedd a Chymunedau Oed-gyfeillgar Sefydliad Iechyd y Byd ym mis Mawrth 2022. Sefydlwyd y Rhwydwaith yn 2010 i gysylltu dinasoedd, cymunedau a sefydliadau ledled y byd gyda'r weledigaeth gyffredin o wneud eu cymuned yn lle gwych i heneiddio. 


Mae gwefan newydd sy'n dda i bobl hŷn wedi'i lansio yng Nghaerdydd, i gyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn blynyddol y Cenhedloedd Unedig.

​Rydym am ei gwneud hi’n haws i oedolion hŷn ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnynt i fyw’n annibynnol a pharhau i gymryd rhan yn eu cymunedau. Mae’r wefan hon yn cynnig lleoliad canolog ar gyfer gwybodaeth am wasanaethau, gweithgareddau a chymorth lleol a all helpu pobl hŷn yng Nghaerdydd i fyw’n dda.​​​

Ewch i wefan Caerdydd sy’n Dda i Bobl Hŷn​​. ​​​​​​

Adroddiad blynyddol 





Mae Crynodeb Adroddiad Blynyddol Caerdydd sy'n Dda i Bobl Hŷn 2022 i 2023 yn amlinellu'r cynnydd y mae'r ddinas wedi'i wneud ar draws yr wyth maes ffocws allweddol: 

  • Cymorth Cymunedol a Gwasanaethau Iechyd 
  • Tai 
  • Mannau Agored ac Adeiladau Cyhoeddus 
  • Trafnidiaeth 
  • Cyfranogiad Cymdeithasol 
  • Cyfathrebu a Gwybodaeth 
  • Cyfranogiad Dinesig a Chyflogaeth 
  • Parch a Chynhwysiant Cymdeithasol 



© 2022 Cyngor Caerdydd