Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Y Cynllun Cyfeillion

Mae’r Cynllun Friends 4 U yn cynnig cyfeillgarwch a chymorth i bobl ifanc rhwng 7 a 18 oed sy'n ymwneud â Gwasanaethau Cymdeithasol Caerdydd. 

Mae’r cynllun yn galluogi gwirfoddolwyr i roi cyfle i bobl ifanc gael profiad o ystod eang o weithgareddau megis chwaraeon a hamdden yn y gobaith y byddant yn dod o hyd i rywbeth maent yn ei fwynhau ac yn parhau gydag ef ar ôl i'r cynllun ddod i ben. 

Dod yn wirfoddolwr 


A allwch ymrwymo i gael eich paru gyda pherson ifanc? A ydych yn ddibynadwy, yn frwdfrydig, yn hyderus ac yn peidio barnu? A oes gennych agwedd hwyliog, bositif, sgiliau cyfathrebu da a synnwyr digrifwch da? 

Bydd gwirfoddolwyr yn treulio ychydig o oriau gyda’u person ifanc bob wythnos neu bythefnos, yn dibynnu ar beth sy'n gyfleus. Mae rhai yn cwrdd gyda’r nos, ac eraill ar y penwythnosau. Byddwn yn talu am eich treuliau. 

Mae Friends 4 U yn croesawu gwirfoddolwyr o bob sector o’r gymuned. Mae’n rhaid i wirfoddolwyr od dros 18 oed, Mae’n rhaid iddynt ddod i ychydig o sesiynau hyfforddi er mwy eu paratoi ar gyfer eu rôl newydd. Bydd gwirfoddolwyr yn cael mynediad at hyfforddiant mewn sgiliau trwy Gyngor Caerdydd. Er mwyn cael eu derbyn mae’n rhaid iddynt gyflawni gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd​​ a darparu dau eirda boddhaol. 

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn wirfoddolwr, llenwch y ffurflen gais wirfoddoli Friends 4 U (47kb DOC)​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydda’i dychwelyd at y cyfeiriad ar y ffurflen. 

Fel arall, os hoffech i ni anfon pecyn cais atoch neu os hoffech ddysgu rhagor am Friends 4 U, cysylltwch â ni. 

029 2087 3975​
© 2022 Cyngor Caerdydd