Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Hysbysiad Preifatrwydd

​​Cyngor Caerdydd

Mae’n rhaid i Gyngor Caerdydd gasglu gwybodaeth bersonol gan unigolion fel ein bod ni’n gallu darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol wedi'u teilwra’n arbennig.  Mae’n bosib y bydd peth o’r wybodaeth hon yn sensitif a gall gynnwys data am iechyd, anabledd neu gefndir ethnig a hil.  Efallai y bydd angen i ni hefyd gasglu gwybodaeth am eich gofalwyr, ffrindiau a pherthnasau.


Byddai unigolion sy’n derbyn gofal cymdeithasol eisoes wedi cael gwybod bod y wybodaeth hon wedi’i chasglu.  Mae’r hysbysiad hwn yn esbonio rhagor am sut yr ydym yn prosesu’r wybodaeth hon, at ba ddiben y caiff ei defnyddio a sut rydym yn ei chadw’n ddiogel.


At ba ddiben y mae’r wybodaeth yn cael ei defnyddio?

Mae gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio i werthuso a yw pobl yn gymwys i gael gwasanaethau gofal cymdeithasol a pha wasanaethau y dylen nhw eu cael.  Rydym hefyd yn defnyddio gwybodaeth i’n helpu ni i gynllunio, trefnu a gwella’r gwasanaethau hynny, adrodd yn ôl ar y gwaith a wnaethom a dangos ein bod ni wedi gwneud defnydd priodol o arian cyhoeddus.  Mae gwybodaeth a ddefnyddir at y dibenion hyn yn cael ei chadw’n ddienw lle y bo’n bosib.


Cadw’r wybodaeth yn ddiogel

Rydym yn sicrhau bod yr holl wybodaeth bersonol yn cael ei chadw’n ddiogel a’i bod ond ar gael i’r sawl sydd angen ei gweld.  Nid ydym yn cadw gwybodaeth bersonol yn hirach nag sydd angen.


Rhannu’ch gwybodaeth

Mae’n bosib y byddwn yn rhannu peth gwybodaeth gyda sefydliadau eraill, gan gynnwys:
• y rheiny sy’n darparu gwasanaethau gofal ar ran Cyngor Caerdydd.
• y rheiny sy’n archwilio a monitro’n gwaith ni.
• sefydliadau fel y GIG sy’n gweithio gyda ni i ddarparu gwasanaethau.

Byddwn yn gofyn am eich caniatâd chi cyn rhannu eich gwybodaeth, fel arfer bydd hynny’r un pryd ag y byddwn yn casglu’r wybodaeth honno.

• Byddwn ond yn rhannu’r wybodaeth hon gyda sefydliadau os oes ei hangen arnynt i gyflawni eu gwaith.
• Ni fyddwn yn trosglwyddo mwy o wybodaeth nag sydd ei hangen.
• Byddwn ond yn rhannu eich gwybodaeth heb eich caniatâd os yw’r gyfraith yn dweud y dylem wneud hynny.  Gallai hyn fod er mwyn diogelu eich buddiannau chi'ch hun ac osgoi perygl i rywun arall neu i ddatgelu neu atal twyll.

 

Bob blwyddyn mae Llywodraeth Cymru’n casglu gwybodaeth am blant ar gyfe​​r ffurflenni Plant sy’n Derbyn Gofal a Cyfrifiad Plant sy'n Derbyn Gofal a Chymorth Cymru gan Awdurdodau Lleol ledled Cymru.  Mae gan Lywodraeth Cymru fynediad i ddata plant mewn angen sy’n derbyn gwasanaethau gan awdurdodau lleol.  Mae gennych chi, naill ai fel rhiant neu ofalwr plentyn o’r fath, neu fel plentyn o’r fath dros 12 oed, yr hawl i gael gwybod sut mae Llywodraeth Cymru yn prosesu ac yn defnyddio’r data hwn.  


Mae modd dod o hyd i ragor o wybodaeth am sut y mae Llywodraeth Cymru’n defnyddio’r wybodaeth hon yn Wales.gov.uk​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd neu drwy gysylltu â’r Cyngor.


Mae’r wybodaeth a anfonir yn amrywio bob blwyddyn, ond mae’n cynnwys nodweddion a manylion personol am wasanaethau gofal cymdeithasol a ddarperir.  Os oes gan blentyn Rif Unigryw Disgybl (RhUD) bydd yn cael ei gynnwys yn y Cyfrifiad Plant sy'n Derbyn Gofal a Chymorth Cymru.  Mae RhUD yn galluogi Llywodraeth Cymru i ddod â gwybodaeth am ofal ac addysg plentyn at ei gilydd.  Yn yr ymarfer hwn nid yw Llywodraeth Cymru’n defnyddio enw’r plentyn nac yn gweithredu o gwbl mewn perthynas â phlentyn unigol nac yn enwi’r plentyn mewn adroddiadau.  Gallwch ofyn i Lywodraeth Cymru am restr o eitemau data yn Cyfrifiad Plant sy'n Derbyn Gofal a Chymorth Cymru​.


A allaf weld y wybodaeth a gedwir amdanaf i?

Gallwch.  Yn wir, mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth a gadwn amdanoch chi wedi’i rhoi gennych chi.  Mae’n bosib y byddwn yn codi tâl bach am y gwasanaeth hwn, ond gallwch hefyd ofyn i ni gywiro neu ddileu gwybodaeth sy’n anghywir yn eich tyb chi.


A allaf weld yr holl wybodaeth amdanaf i?

Gallwch, fel arfer. Weithiau, er enghraifft, os yw rhannu’r wybodaeth yn debygol o arwain at niwed difrifol i chi neu rywun arall, efallai y bydd yn rhaid i ni gadw rhywfaint yn ôl.


  • Nid oes hawl gennych i weld gwybodaeth am rywun arall, hyd yn oed os ydyw yn eich ffeil chi.
  • Nid oes hawl gennych i weld gwybodaeth a roddwyd gan rywun arall petai hynny’n dangos pwy yw’r person hwnnw.  Mewn achosion fel hyn, byddem yn siarad â'r person hwnnw yn gyntaf.
  • Pan na fyddwn yn gallu datgelu gwybodaeth i chi, byddwn yn esbonio pam, ac mae hawl gennych i apelio.

 

Sut y gallaf weld y wybodaeth a gedwir amdanaf i?

Gofynnwch i’r staff sy’n gweithio gyda chi yn gyntaf.  Byddant yn rhoi gwybod i chi pa wybodaeth sydd gennym a beth y gallant ei rannu gyda chi ar unwaith.  


Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut rydyn ni’n prosesu ac yn diogelu’ch gwybodaeth a gyda phwy y gallwn ei rhannu.


Gellir cael y wybodaeth hon mewn ieithoedd a fformatau eraill ar gais.  Rhif ffôn: 029 2087 3686.


Llywodraeth Cymru

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer plant mewn angen sy’n cael gwasanaethau gan awdurdodau lleol, gan gynnwys plant sy’n derbyn gofal, sy’n ymdrin â chyfrifoldebau Llywodraeth Cymru


Mae gan Lywodraeth Cymru fynediad i ddata am blant mewn angen sy’n cael gwasanaethau gan awdurdodau lleol.  Mae gennych chi, fel rhiant neu ofalwr plentyn o’r fath, neu fel plentyn sydd dros 12 oed, yr hawl i gael gwybod am y modd y bydd y data hwn yn cael ei brosesu a’i ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru.  Caiff y wybodaeth honno ei chrynhoi isod, a gellir gweld gwybodaeth fwy manwl o lawer ar-lein​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd.

Pa ddata y mae gan Lywodraeth Cymru fynediad iddo?

Yn ôl y gyfraith, rhaid i awdurdodau lleol roi i Lywodraeth Cymru fanylion am blant mewn angen sy’n cael gwasanaethau ganddynt, a bydd y manylion hynny’n cynnwys:

  • gwybodaeth bersonol a gwybodaeth bersonol sensitif amdanoch chi (neu’ch plentyn), megis dyddiad geni, rhyw, grŵp ethnig, statws o ran anabledd a gwybodaeth arall am iechyd;
  • manylion sylfaenol am y gwasanaeth a ddarperir i chi (neu’ch plentyn) a pham y caiff y gwasanaeth ei ddarparu;
  • gwybodaeth sy’n galluogi Llywodraeth Cymru i gymharu perfformiad plant mewn angen â pherfformiad pob plentyn arall o ran addysg.

Fodd bynnag, ni fydd y data a anfonir i Lywodraeth Cymru yn cynnwys eich enw chi (nac enw eich plentyn).


Sut y bydd y data’n cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru?

Bydd y data a anfonir i Lywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio ganddi er mwyn:

  • mesur pa mor dda y mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn darparu eu gwasanaethau i chi (neu’ch plentyn);
  • hybu gwelliannau i’r gwasanaethau hynny;
  • dyrannu arian i awdurdodau lleol ac eraill; neu
  • hybu ymchwil ehangach i’r modd y caiff gwasanaethau eu darparu i chi (neu’ch plentyn) neu eraill.


Ni fydd y data a anfonir i Lywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio ganddi er mwyn:

  • cymryd unrhyw gamau gweithredu mewn perthynas â chi (neu’ch plentyn);
  • eich adnabod chi (neu’ch plentyn) mewn unrhyw adroddiadau.


Bydd y data a anfonir i Lywodraeth Cymru yn cael ei gadw’n ddiogel ganddi, a dim ond dan reolaeth lem y bydd yn cael ei rannu ag eraill. Ni fydd byth yn cael ei rannu mewn modd a fyddai’n ei gwneud yn bosibl eich adnabod chi (neu adnabod eich plentyn).


Rhagor o wybodaeth

Gellir gweld rhagor o wybodaeth sy’n esbonio’r hysbysiad hwn yn fanylach ar-lein​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd:

Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am y modd y bydd data amdanoch chi (neu am eich plentyn) yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru, cysylltwch â Thîm Casglu Data Llywodraeth Cymru yn ysgrifenedig gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod.


Tîm Casglu Data Llywodraeth Cymru
Ystafell 2-002, CP2, Adeiladau’r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: stats.pss@wales.gsi.gov.uk



© 2022 Cyngor Caerdydd